Hyfforddiant i ddatblygu gwyliau

Cefnogaeth wedi’i deilwra i gadw eich sgiliau gwyliau yn ffresh.

Bob blwyddyn mae Canolfan Ffilm Cymru yn cynnig cyfle hyfforddi a rhwydweithio i wyliau ffilm Cymreig. 

Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf ar y cyd gyda Swyddfa Sinema Annibynnol (ICO), Ionawr 2017 yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd.

Roedd y sesiynau’n cynnwys:

  • Sgwrs gan yr arbenigwraig cysylltiadau cyhoeddus ffilm blaenllaw Clare Wilford a fydd yn siarad am gynnal ymgyrch y wasg lwyddiannus.
  • Sesiwn gyda Jo Duncombe, rhaglennydd ffilm yn ICO, a chynghorydd curadurol i Ŵyl Ffilmiau Byr Llundain a fydd yn siarad am ddefnyddio cyfryngau cymdeithaosol.

Dysgwch ragor yma.


 

Cynhaliwyd yr ail ddigwyddiad ar Ionawr 23 2019 yng Nghyffordd Llandudno fel rhan o Iris on the Move. 

Roedd y sesiynau’n cynnwys:

  • Edrych ar ddulliau arloesol o gyrraedd cynulleidfaoedd ifanc gan ganolbwyntio ar y rhai rhwng 16 a 30 oed, o farchnata i raglennu, gweithio gyda gwirfoddolwyr a rheoli digwyddiadau gyda Gŵyl Ffilm Ifanc Leeds.
  • Lansio Rhwydwaith Gwyliau Ieuenctid Cymru sydd â’r nod o ddwyn ffilmiau Cymreig sydd yn gweithio, neu yn anelu at weithio gyda chynulleidfaoedd ifanc at ei gilydd.

Dysgwch ragor yma.


Digwyddiadau yn y dyfodol i‘w cyhoeddi. Os oes gennych anghenion hyfforddi yr hoffech eu cynnig ar gyfer sesiynau pellach, cysylltwch gyda ni.

Bursaries are available for Members

Bursaries are available from Film Hub Wales to support attendance. Find out more here

Submit your proposal for festival support

^
CY