Dathlu Ieithoedd Cynhenid ar draws Sgriniau Sinemau yng Nghymru

Dathlu Ieithoedd Cynhenid ar draws Sgriniau Sinemau yng Nghymru

Mae Canolfan Ffilm Cymru gyda Chapter fel Corff Arweiniol Canolfannau, yn gweithio gyda sinemau a gwyliau ffilm ar draws Cymru i archwilio themâu holl bwysig datblygu, adeiladu heddwch a chymod ar sgrin yn 2019, yn ystod Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Cynhenid y Cenhedloedd Unedig (IYIL2019).
 

Mae ieithoedd yn chwarae rhan holl bwysig ym mywydau beunyddiol pobl, nid yn unig fel dull o gyfathrebu, addysg, integreiddio cymdeithasol a datblygiad ond hefyd fel storfa ar gyfer hunaniaeth unigryw, hanes diwylliannol, traddodiadau a chof pob person. Er gwaethaf eu gwerth enfawr, mae ieithoedd ledled y byd yn parhau i ddiflannu ar raddfa frawychus.
 

I ddathlu IY2019, mae arddangoswyr Cymreig wedi datblygu rhaglenni ffilm sydd yn codi proffil rhyngwladol yr iaith Gymraeg, ynghyd â ieithoedd rhai or cymunedau rhyngwladol mwyaf sydd yn ffurfio cynulleidfaoedd yng Nghymru.    
 

Dywedodd Hana Lewis, Rheolwraig Strategol Canolfan Ffilm Cymru:

“Mae nifer o gymunedau aml ddiwylliannol yng Nghymru, yn siarad amrywiaeth o ieithoeddd cynhenid o Bwyleg i Tsieinïieg, tafodieithoedd Affricanaidd neu’r Gymraeg ei hun. Mae ffilm yn offeryn delfyrdol i godi ymwybyddiaeth o’r cymunedau hynny sydd yn amddiffyn ac yn diogelu’r ieithoedd hynny. Mae’n hanfodol hefyd ein bod yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cyfraniad diwylliannol yr ieithoedd hyn yn fyd-eang.
 

Gyda dros 15 o ffimiau newydd yn cael eu rhyddhau bob wythnos, a 54% o’r ffilmiau hynny yn dod o’r tu allan i UDA neu’r DU, mae nifer o ddiwylliannau a lleisiau anweledig eto i’w darganfod. Rydym yn falch o gefnogi ein partneriaid yng Nghymru wrth iddyn nhw ddathlu’r ieithoedd sydd yn cael eu siarad yn lleol ac ar draws y byd.”
 

Ychwanegodd Ms Audrey Azoulay, Cyfarwyddwraig Gyffredinol Unesco yn ystod lansiad byd-eang IYIL2019 ar 27 Ionawr 2019 ym Mharis yn Unesco:

“Fe fydd y Flwyddyn Ryngwladol yma yn rhoi cyfle i gryfhau ein hymdrechion o ran diwylliant, gwybodaeth a chyfathrebu (..). Rhaid inni hyrwyddo amlieithrwydd ymhellach yn y cyfryngau ac mewn cynnwys ar-lein.”
 

Dywedodd Emyr Williams, Cydgysylltydd Sinema yn Pontio Bangor:

“Wrth feddwl am brosiect i weithio arno ar gyfer IYIL roedd yna awydd i wneud rhywbeth eithaf gwahanol. Mae llawer o’r gwaith rhaglennu ffilm rheolaidd yma yn Pontio yn cael ei wneud er mwyn normaleiddio’r Gymraeg, gosod ffilmiau Cymraeg yn y rhaglen ehangach, cynnal digwyddiadau a sgyrisau yn Gymraeg yn yr un ffordd ag y byddem yn ei wneud gyda chyfarwyddwr o Loegr yn teithio sinemau annibynnol, felly i ddechrau roeddwn yn anfodlon amlygu’r pwnc ‘iaith’ yma mewn perthynas â sinema. Yna meddyliais am waith celf/ffilm fer Paul Eastwood, DYFODIAITH, gan wybod mai rhaglennu hon oedd yr ateb amlwg i fy mhryderon am amlygu’r iaith yn artiffisial. Mae gwaith Paul yn sinematig ac yn hygyrch iawn ac yn bwysicaf mae’n ymwneud â’r holl gwestiwn iaith ‘gynhenid’ – ei bodolaeth, sut mae’n esblygu ac yn goroesi. Mae treulio hanner awr o’ch amser yn mynd i ynys ryfedd ynysig lle mae eich iaith feunyddiol gyfarwydd wedi trawsnewid i rhywbeth anghyfarwydd a rhyfeddol yn ddull ardderchog o ddathlu IYIL.”
 

Cefnogir y prosiectau gan Ganolfan Ffilm Cymru, rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI (RCFf) gan ddefnyddio cyllid oddi wrth y Loteri Cenedlaethol i sicrhau bod y dewis mwyaf o sinema ar gael i bawb ar draws y DU.

 

Prosiectau ar y gweill

Gogledd Cymru

TOKYO TALES

Pontio (Bangor) 13 – 19 Mehefin

Darganfod sinema dau feistr gwneud ffilmiau o Japan Yasujiro Ozu a Hirokazu Kore-Eda gyda thymor byr o glasuron yn Pontio, Bangor. Yn dilyn rhyddhau’r ffilm Shoplifters a enwebwyd am Oscar, dyma gyfle i weld debut Kore-eda wedii ailfeistroli. Mae Tokyo Story Maborosi. Ozu hefyd yn cael y bleidlais am fod ymysg y ffilmiau gorau erioed ac Autumn Afternoon, ei ffilm olaf mewn lliw.
 

Dyfodiath

Pontio (Bangor) 23 Gorffennaf

Dychmygwch fyd a chymdeithas yn y dyfodol lle mae’r Gymraeg ac ieithoedd Brythoneg eraill wedi goroesi a datblygu mewn unigrwydd llwyr. Mae delweddau Dyfodiath yn ein gorfodi i ystyried ein hymateb i’r dyfodol posibl yma ar gyfer ein hiaith. Cyflwynir y gwaith gwych a hygyrch yma o gelf sinematig gyda sesiwn Holi ac Ateb gyda Paul Eastwood a Llyr Titus ynghyd â llyfryn arbennig yn cynnwys gwaith ysgrifenedig newydd am y gwaith. Gall cynulleidfaoedd hefyd fwynhau’r ffilm newydd, Gwen gyda detholiad o ffilmiau byr Cymraeg.

pontio.co.uk/Online/
twitter.com/PontioTweets
facebook.com/PontioBangor/
 

Off Y Grid

(22 – 26 Gorffennaf)

Fe fydd y chwedl Gymraeg,newydd, Gwen, a gafodd ei dangos gyntaf yn Pontio ar 10 Gorffennaf mewn partneriaeth gyda Bafta Cymru, yn cael ei dangos ochr yn ochr gyda chyfres o ffilmiau byr Cymraeg yng Nghynhadledd Ryngwladol Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r gynhadledd yn cynrychioli ymgasgliad rhyngwladol o ysgolheigion sydd yn ymchwilio i ieithoedd, llenyddiaeth a thraddodiadau diwylliannol y bobl sydd yn siarad ieithoedd Celtaiddd, ac fe’i cynhelir unwaith bob pedair blynedd.
 

(26 Medi – i’w gadarnhau)

Fe fydd lleoliadau Off Y Grid yn dangos hyd at 10 o ffilmiau amlieithog fel Gadael Lenin, mewn cysylltiad gyda Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd, sef menter Cyngor Ewrop gyda’r bwriad o annog 800 miliwn o Ewropeaid ar draws 47 o wladwriaethau i ddarganfod rhagor o ieithoedd ar unrhyw oedran ochr yn ochr gyda’u hastudiaethau.

Wedi’i sefydlu yn 2016, mae Off Y Grid (OYG) yn bartneriaeth rhwng saith o sinemau yng ngogledd Cymru sydd yn cydweithio i hyrwyddo ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol annibynnol, yn cynnwys ffilmiau Cymreig. Diben y prosiect ydy lleihau ynysigrwydd gwledig drwy ddigwyddiadau cysylltiedig, fforddiadwy, gan greu disgwylgarwch o amgylch rhyddhau ffilmiau yng ngogledd Cymru. Mae lleoliadau Off Y Grid yn cynnwys Galeri, Caernarfon; Pontio, Bangor; Theatr Ardudwy, Harlech; CELLB, Blaenau Ffestiniog, Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli, Dragon Theatre yn y Bermo, TAPE yn Hen Golwyn a Neuadd Ogwen, Bethesda.

twitter.com/offygrid
facebook.com/offygrid

                                                              

De Cymru

Watch Africa
(25 Gorffennaf - i’w gadarnhau)

Darganfod Kinyarwanda, tafodiaith yr iaith Rwanda-Rundi sydd yn cael ei siarad gan o leiaf 12 miliwn o bobl yn Rwanda yn y dangosiad yma o Sacred Water yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd. Mae’r ffilm yn archwilio esblygiad Kunyaza, diwylliant o bleser benywaidd, lle mae orgasm benywaidd yn fater o anrhydedd i ddynion. Fe fydd yr awdur a’r hanesydd o darddiad Nigeria ac a anwyd ym Mhrydain; Habeeb Aikande, sydd wedi cyhoeddi chwech llyfr ar hil, rhyw a pherthhnasoedd ac Islam yn arwain sesiwn Holi ac Ateb ar bwysigrwydd diwylliant mewn ffurfio strwythurau teulu a chymuned yn enwedig ym meysydd rhywioldeb.
 

(25 Gorffennaf)

Caiff drama drosedd Arabaidd1958, Cairo Station (Bab el Hadid) ei dangos yng Nghanolfan Gelfyddydau Gates yng Nghaerydd. Wedi’i wahardd am 12 mlynedd yn ei wlad ei hun, mae darlun Youssef Chahine o obsesiwn rhywiol yn hygyrch i gynulleidfaoedd lleol gyda sesiwn Holi ac Ateb sydd yn archwilio’r newidiadau gwleidyddol a chymdeithasol yn yr Aifft ar adeg cynhyrchu’r ffilm.

Mae’r dangosiadau yn rhan o Glwb Ffilm Watch Africa, yn gwella’r ddarpariaeth i gynulleidfaoedd Afffricanaidd yng Nghymru yn ychwanegol at yr ŵyl flynyddol ym mis Hydref 2019.

watch-africa.co.uk
facebook.com/WatchAfricaCymru/

 

Snowcat Cinema ym Mhafiliwn Pier Penarth

(Dydiadau i’w cadarnhau)

Fe fydd Snowcat yn archwilio gwahanol ieithoedd cynhenid drwy gyfrwng pedwar digwyddiad ffilm penodol. 

Stori o’r 19eg ganrif ydy The Edge Of The Knife (SGaawaay K'uuna 2018) am ddau deulu ar eu gwyliau pysgota blynyddol ar ynys Haida Gwaii, archipelago pellennig Canada. Mae’r iaith Haida wedi cael ei siarad am o leiaf 14,000  ond bellach dim ond 20 o unigolion sydd yn ei siarad.

Wedi’i gosod yng nghymuned wledig Gaddi yn Himachal Pradesh ac wedi’i gwneud yn nhafodiaith Gaddi, mae’r ffilm The Gold Laden Sheep & The Sacred Mountain (2018) yn adrodd anturiaethau bugail hynafol a’i gynorthwy-ydd sydd yn byw ar fynydd anhysbys pellennig. Pan fo newyddion yn lledaenu am ddamwain awyren, ynghyd â straeon am aur ac arian ar yr awyren, maen nhw’n cychwyn ar daith sydd yn newid eu bywydau.

Gan gyfuno tafodieithoedd hynafol Armenaidd, Azerbaijani a Georgiadd, mae The Colour Of Pomegranates yn ddrama fywgraffidaol swreal, hynod o steilistaidd a wnaethpwyd yn yr Undeb Sofietaidd ym 1969. Mae’n dilyn y trwbadwr Armenaidd Sayat Nova, y mae ei fywyd yn cael ei ddarlunio drwy amalgameiddiadau di-naratif o ddelweddau barddonol ac iaith.

snowcatcinema.co.uk/
twitter.com/SnowcatCinema
facebook.com/snowcatcinema/

 

Gentle/Radical
(June 2019 – March 2020)

Lleisiau’r rhai sydd fwyaf ar yr ymylon yn cael eu clywed drwy gyflwyniad sinema pwerus. Going Deeper, Going Local ydy’r prosiect cyntaf i gael ei lansio yn eu lleoliad newydd yng Nghanolfan Gymunedol,Stryd  Wyndham, Glan yr Afon, Caerdydd. Gan ymestyn allan i gynulleidfaoedd lleiafrifoedd ethnig yn cynnwys menywod BAME, hynafgwyr BAME, pobl ifanc BAME mewn lleoliadau lleol iawn a lleoliadau ar draws Caerdydd, fe fydd y prosiect yn edrych ar sut mae materion fel newid hinsawdd, mudo, tai, cyfiawnder bwyd, coloneiddio a phrofiadau eraill o ormes ac anghyfiawnder strwythurol yn effeithio ar gynulleidfaoedd.

Fel rhan o Going Deeper, Going Local, imaen nhw’n edyrch ymlaen yn arbennig at ddangos Merata: How Mum Decolonised The Screen. Y gwneuthurwr ffilm arloesol Maori, Merata Mita ydy testun y ffilm ddogfen yma, wedi’i wneud gan ei mab, Heperi Mita, ffilm sydd yn ddarlun gwych o wleidyddiaeth cynhenid Seland Newydd a phortread o ymgyrchydd radical, arloesol dros hawliau cynhenid a hawliau menywod. Mae Gentle/Radical a sefydlwyd yn 2017 yn gorff diwylliannol llawr gwlad ac mae’n blatfform i feddwl radical, arferion creadigol a newid cymdeithasol. Ar hyn o bryd maen nhw’n rhedeg ymgyrch codi arian ar-lein i greu cartref i’w canolfan ddiwylliannol a chymunedol newydd: localgiving.org/appeal/gentle-radical-wyndham-centre/

twitter.com/gentle_hq
facebook.com/gentleradical/
gentleradical.org/

Phoenix Ton Pentre

(Gorffennaf - Tachwedd 2019)

“Ailymweld â’r gorffennol i ddeall y presennol a chyfrannu at ymwybyddiaeth lleol yn y dyfodol. “

Mae Phoenix Ton Pentre yn datblygu cynulleidfaoedd lleol ar gyfer straeon Cymreig ar sgrin, yn archwilio tirwedd haf trawiadol Sir Benfro drwy ffilm newydd Jon Jones Last Summer ac yn ailymweld â strydoedd trefol Abertawe yn y clasur cwlt, Twin Town. Caiff y ffilmiau eu dangos gyda ffilmiau byr archif yn cysylltu’r tirwedd gydag atgofion treftadaeth Cymru drwy’r oesoedd.
 

facebook.com/The-Phoenix-Ton-Pentre

 

Cymdeithas Ffilm y Fenni

(4 Rhagfyr 20219)

Mae’r gymdeithas ffilm hynaf yng Nghymru yma wedi dangos ffilmiau ar draws y byd i gynulleidfaoedd yn y Fenni ers 1978. Mae’r ddrama newydd, Birds of Passage (Pájaros de verano), yn yr iaith Wayuu neu Goajiro, wedi’i gosod yn ystod y bonansa marijuana, degawd dreisgar a welodd darddiad delio mewn cyffuriau yn Columbia. Mae’n dilyn brwydr Rapayet a’i deulu brodorol i reoli’r busnes sydd yn y pendraw yn dinistrio eu bywydau a’u diwylliant. Mae Wayuu yn cael ei siarad gan 305,000 o bobl brodorol Wayuu yng ngogledd orllewin Venezuela a gogledd ddwyrain Columbia ar Guajira.

abergavennyfilmsociety.com/index.html

 

Gŵyl Ffilm Eidalaidd

(14-17 Tachwedd)

Mae Gŵyl Ffilm Eidalaidd Caerdydd yn cyflwyno portread deinamig ac amrywiol o’r Eidal gyfoes gyda’i harddwch, cymhlethdod a gwrthgyferbyniadau. Mae’r detholiad o ffilmiau blaengar yn cynnwys pob genre o sinematograffi Eidalaidd gyda phwyslais cryf ar ffurfiau naratif newydd a chynyrchiadau annibynnol. Yn ystod y dair blynedd ddiwethaf mae’r ŵyl wedi dod yn ofod bywiog i gyfarwyddwyr, actorion a chynhyrchwyr o’r ddwy ochr i’r Sianel. Nod Gŵyl Ffilm Eidalaidd Caerdydd ydy dod yn rhan o broffil artistig rhyngwladol cynyddol Cymru.

iffc.wales/
twitter.com/_IFFC
facebook.com/ItalianFilmFestivalCardiff/

 

Chapter, Caerdydd

(23 Awst + H&A, 30 Awst a 5 Medi)

Mae Chapter, Caerdydd yn cynnig dangosiad arbennig o Bait, wedi’i gosod mewn pentref pysgota yng Nghernyw lle mae eu ffordd o fyw dan fygythiad. Yn cynnig sawl cymhariaeth i fywyd Cymreig, fe fydd y dangosiad ar 23 Awst yn cynnwys sesiwn Holi ac Ateb gyda chyfarwyddwr y ffilm, Mark Jenkin a’r cerddor Cymreig Gwenno Saunders a ryddhaodd ei halbwm gyntaf mwn Cernyweg yn ddiweddar. Mae’r gerddoriaeth yn Bait yn cael ei ganu yn yr iaith Gernyweg gan roi cyfle i archwilio’r cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a Chernyw.

(2-8 Awst)

Gan y cyfarwyddwr lunchbox, mae Photograph yn dilyn y ffotograffydd stryd Rafi sydd yn gweithio ddydd a nos i dalu hen ddyled teuluol. Dan bwysau gan ei fam-gu i briodi, mae’n perswadio dieithryn swil i esgus bod yn ddyweddi iddo. Mae’r cwpl yn datblygu cysylltiad sydd yn eu trawsnewid mewn ffyrdd annisgwyl. Wedi’i saethu’n hardd ar strydoedd Mwmbai gyda thafodieithoedd Hindi a Gujarati.

chapter.org/
facebook.com/chapterarts
twitter.com/chaptertweets

 

Ar draws Cymru

 

Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru (NSSAW)
(Ionawr - Mawrth 2020)
Mewn partneriaeth gyda Chyngor Llyfrau Cymru, fe fydd NSSAW yn creu ‘Picturing Our Past / Fframio’n Gorffennol’, e-lyfr o hanes Cymru ar sgrin. Caiff ei lansio ochr yn ochr gyda chyfres o ddangosiadau arbennig, dathlu treftadaeth Cymreig ledled Cymru, cysylltu ffilmiau Cymreig diweddar gyda ffilmiau Cymreig pwysig yn y gorffennol. Fe fydd ffilmiau canolog fel 'Y Chwarelwr' ac 'Un Bore Mercher'  yn archwilio iaith a chymuned hynafol Cymru ar sgrin, ochr yn ochr gyda thrysorau ffilm archif a ddatgelwyd yn ddiweddar drwy brosiect Datgloi Treftadaeth Ffilm BFI. 

 

www.library.wales/
twitter.com/NSSAW

 

Banc Ffilmiau Byr

(Mehefin 2019 – Mawrth 2020)

Gan weithio gyda phartneriaid ar draws y diwydiant Sgrin Cymreig, fe fydd Canolfan Ffilm Cymru yn datblygu catalog o ffilmiau byr Gwnaethpwyd yng Nghymru a fydd yn ategu’r catalog cyfredol o dros 130 o ffilmiau. Gan mai hwn fydd y catalog cyntaf o’i fath, fe fydd y prosiect yn gwella mynediad i arddangoswyr i dalent Cymreig ac yn ei gwneud yn haws i ddathlu gwneud ffilmiau byr Gwnaethpwyd yng Ngymru. Fe fydd modd chwilio am y prosiect pan gaiff gwefan newydd y Ganolfan ei lansio yn 2019.

filmhubwales.org/films/made-wales

 

Diwedd
 

Copïwch/pastiwch y ddolen i mewn i borwr eich gwe

https://drive.google.com/open?id=1AY5m3uOVEvBt3pXh8UNueE00IqwJHPJl

Am ragor o wybodaeth, neu am docynnau i ddigwyddiadau, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda:

 

Megan David, Swyddog Marchnata ar 02920 311 067 / megan@filmhubwales.org (rhan amser Mawrth - Iau),

Lisa Nesbitt, Swyddog Datblygu ar 02920 311 067 / lisa@filmhubwales.org,

Hana Lewis, Rheolwraig Strategol ar 02920 353 740 hana@filmhubwales.org,

 

NODIADAU I OLYGYDDION:

CANOLFAN FFILM CYMRU:

Nod Canolfan Ffilm Cymru ydy cyflwyno rhagor o ffilmiau, i ragor o bobl, mewn rhagor o leoedd o amgylch Cymru. Gyda’i leoliadau aelodau annibynnol, mae Canolfan Ffilm Cymru yn rheolaidd yn datblygu ffyrdd arloesol ar gyfer pobl yng Nghymru i fynd i’r sinema.

Mae Canolfan Ffilm Cymru yn un o wyth ‘canolfan’ DU gyfan, rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI ac fe’i cefnogir gyda chyllid y Loteri Cenedlaethol gyda Chapter wedi’i benodi yn Gorff Arweiniol Canolfannau Film (FHLO) yng Nghymru. Ein nod ydy cyrraedd cynulleidfaoedd trwy ddatblygu’r sector arddangos, cynnig cefnogaeth prosiect ymchwil, hyfforddiant a datblygu cynulleidfaoedd. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013 rydym wedi cefnogi dros 195 o brosiectau sinema a chyrraedd dros 420,000 o aelodau cynulleidfa

Mewn partneriaeth gyda’n sinemau aelodau, canolfannau celfyddydol, lleoliadau cymunedol, cymdeithasau, gwyliau ac ymarferwyr ffilm ehangach, nod Canolfan Ffilm Cymru ydy dathlu a chefnogi’r sector ffilm diwylliannol bywiog yma yng Nghymru, gan weithio gyda’n gilydd i ehangu a chynyddu dewis i gynulleidfaoedd, waeth lle maen nhw’n byw.

filmhubwales.org
twitter.com/FilmHubWales
  
facebook.com/filmhubwales

Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI
 

Gyda chefnogaeth cyllid y Loteri Cenedlaethol. Mae Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI yn ganolog i nod BFI o sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilmiau ar gael i bawb. Fe’i sefydlwyd yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd ffilm DU ehangach a mwy amrywiol i ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol. Mae FAN yn gydweithrediad DU gyfan, unigryw sydd yn cynnwys wyth canolfan a reolir gan gyrff a lleoliadau ffilm wedi’u lleoli’n strategol ar draws y DU. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiadau talent gyda Swyddogion Gweithredol Talent Rhwydwaith BFI ym mhob un o’r canolfannau yn Lloegr, gyda’r genhadaeth o ddarganfod a chefnogi  awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Canolfannau Ffilm FAN BFI ydy:

  • Film Hub Midlands dan arweiniad Broadway, Nottingham mewn partneriaeth gyda  Flatpack o Brimingham
  • Film Hub North dan gyd arweinyddiaeth Showroom Workstation, Sheffield, HOME Manchester a Tyneside Cinema, Newcastle
  • Film Hub South East dan arwieniad y Swyddfa Sinema Annibynnol mewn cydweithrediad gyda  Saffron Screen yn Saffron Walden a The Depot yn Lewes
  • Film Hub South West dan arweiniad Watershed ym Mryste
  • Film Hub Scotland dan arweiniad Glasgow Film Theatre
  • Film Hub Northern Ireland dan arweiniad Queen’s University Belfast
  • Canolfan Ffilm Cymru dan arweiniad Chapter yng Nghaerdydd
  • Film Hub London dan arweiniad Film London

 BFI ydy corff arweiniol y DU ar gyfer ffilm, teledu a’r delwedd symudol. Mae’n elusen diwylliannol sydd yn:

  • Curadu ac yn cyflwyno’r rhaglen gyhoeddus ryngwladol fwyaf o sinema byd i gynulleidfaoedd, mewn sinemau, gwyliau ac ar-lein
  • Yn gofalu am Archif Cenedlaethol BFI – yr archif ffilm a theledu mwyaf arwyddocaol yn y byd
  • Yn chwilio am y genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilm ac yn eu cefnogi
  • Yn gweithio gyda’r llywodraeth a’r diwydiant i wneud y DU yn lle mwyaf creadigol gyffrous a ffyniannus i wneud ffilm  yn rhyngwladol

Wedi’i sefydlu ym 1933, mae BFI yn elusen gofrestredig wedi’i llywodraethu gan Siarter Brenhinol
 

Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr BFI ydy Josh Berger CBE.

DADLWYTHO: DATGANIAD YR WASG:

IYIL 2019 Press Release CYM.pdf