BFI 'SCI-FI' – TYMOR FFILMIAU MAWR 2014/15

Delwedd: Doctor Who yn Theatr y Savoy (Trefynwy) gyda  BAFTA Cymru a BBC Cymru Wales fel rhan o BFI Sci-Fi.
Delwedd: Doctor Who yn Theatr y Savoy (Trefynwy) gyda BAFTA Cymru a BBC Cymru Wales fel rhan o BFI Sci-Fi.

Medi 2014-Ionawr 2015

Fe wnaeth Sci-Fi Wales Cymru lansio ar sgriniau sinemau Cymru ar 26 Medi 2014 gyda dangosiad Chapter Wails arbennig o Phase IV gyda pherfformiad cerddorol gan Zeuk a thrafodaeth yn dilyn y ffilm, gan gychwyn rhaglen Cymru gyfan o ddigwyddiadau sinema trochi arbennig a dangosiadau ar thema trwy gydol tymor y gaeaf, gan orffen yn y Gogledd Orllewin yn Theatr Harlech, gyda dwy ffilm  Doctor Who Bretheren a Prisoner ar 20 Chwefror 2015.

Yn ystod y tymor o bedwar mis fe wnaethom gyrraedd dros 8400 o gynulleidfa trwy 300 o ddangosiadau unigol a 77 o wahanol deitlau ffilm Sci-Fi. Fe wnaethom weithio gyda 15 o aelodau’r Ganolfan* i gyflwyno’r Tymor Sci-FI a gyda dros 45 o bartneriaid ehangach (yn cynnwys Into Film, Cadw a BBC Cymru Wales), yn dangos popeth o Planet Neath (Neuadd Gwyn) i Bounce Below, lle roedd teuluoedd yn neidio i Flash Gordon, gyda chefndir Ogofau Llechi Llechwedd (CellB).

I weld ein horiel delweddau SCi-Fi, cliciwch yma, neu i ddarganfod rhagor am sut i gymryd rhan mewn tymhorau ffilmiau fel hyn, cysylltwch â ni.

Ein partneriaid aelod Sci-Fi oedd:

Aberystwyth Arts Centre
Abertoir Horror Festival.
BAFTA Cymru
Cadw
CellB
Chapter
Gwyn Hall
Into Film
Llancarfan Community Cinema
Monmouth Savoy
Scala Cinema
Theatr Gwaun
Theatr Harlech
Torch Theatr
Tywyn Magic Lantern
University of South Wales
Watch Africa
Y Ffwrnes