Amdanom-ni

Delwedd: The BFG (2016) Hawlfraint © Entertainment One. Yn dangos yn Chapter (Caerdydd)
Delwedd: The BFG (2016) Hawlfraint © Entertainment One. Yn dangos yn Chapter (Caerdydd)

 

Nod Canolfan Ffilm Cymru ydy cyflwyno rhagor o ffilmiau, i ragor o bobl, mewn rhagor o leoedd. 

I ddathlu canmlwyddiant geni Roald Dahl, mae Canolfan Ffilm Cymru a Chapter fel y Corff Arweiniol Canolfan Ffilm, wedi datblygu rhaglen o ffilmiau sydd yn gyfeillgar i’r teulu a fydd yn dathlu un o awduron Cymreig gorau’r byd.

Fe fydd dilynwyr o bob oed yn gallu ail fyw eu hatgofion mwyaf hudol, wrth i straeon Roald Dahl ddod yn fyw ar y sgrin fawr trwy gydol haf 2016. Mae’r prosiect yn cyd-fynd gyda rhyddhau The BFG Entertainment One (Gorffennaf). Mae’r tymor yn rhedeg o fis Gorffennaf tan ddiwedd Medi, yn cynnwys Diwrnod Roald Dahl ar Fedi 13eg – 100 mlynedd ers geni Dahl. 

Fe fydd 21 sinema a 49 o leoliadau unigryw ledled y DU yn cymryd rhan yn y tymor – gyda’r potensial i lawer mwy o sinemau gymryd rhan ac elwa oddi wrth yr adnoddau a fydd yn cael eu creu trwy’r prosiect.



Mae'r prosiect Roald Dahl ar Ffilm yn cael ei arwain, ei ddyfeisio a'i ddatblygu gan Ganolfan Ffilm Cymru a Chapter... darllenwch rhagor.

Cysylltu â ni