Beth Sydd Ymlaen

Mae Roald Dahl ar Ffilm yn llawn o ddangosiadau rhyngweithiol, profiadau sinema cyffrous, gweithdai a mwy – rydym yn addo rhywbeth ar gyfer pawb!

Ar draws Cymru a’r DU gall cynulleidfaoedd fwynhau Matilda ‘Scratch’n’ Sniff’, dangosiad hir ddisgwyliedig The BFG 2016 a’r clasur hoff Willy Wonka and the Chocolate Factory.

Os ydych yn ddilynwr ffilmiau fyddai’n hoffi anturio i’r ochr dywyll, mae gennym rhywbeth ar eich cyfer chithau hefyd gyda’r ffefryn cwlt Gremlins, ffilm gyffro, Night Digger, a phenodau o Alfred Hitchcock Presents.

Isod gallwch ddarganfod beth sydd yn digwydd yn eich ardal chi: