Dysgu Gydol Oes a Chynulleidfaoedd Ifanc – AR GAU

Dysgu Gydol Oes a Chynulleidfaoedd Ifanc – AR GAU

Galwad am weithgaredd dysgu cefnogol.

Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn galw am arbenigwyr addysg sy’n gweithio gyda chynulleidfaoedd ifanc a theuluol ledled Cymru, i ymateb i gynnig i gyrraedd grwpiau newydd a chefnogi gweithgaredd dysgu mewn partneriaeth ag arddangoswyr o Gymru (o’r gymuned i’r celfyddydau cymysg).

Rydym yn chwilio am atebion creadigol i’r brîff. Ein prif flaenoriaethau yw:

  1. Cyrraedd cymaint o gynulleidfaoedd ifanc a theuluol â phosibl gyda’r arian sydd ar gael,
  2. Cynyddu mynediad i sinema annibynnol Prydain a’r byd yn benodol. Yn ddelfrydol, dylai prosiectau gynnwys dangosiadau sy’n wynebu’r cyhoedd a gweithio mewn partneriaeth ag aelodau CFfC,
  3. Creu adnoddau i gefnogi dysgu gydol oes ac addysg anffurfiol mewn lleoliadau ledled Cymru.

Rhaid i’r cynnig ystyried mai ychydig o leoliadau sydd â swyddogion addysg yn fewnol i ddarparu sesiynau gyda chynulleidfaoedd a chyllideb ar gyfer y sesiynau hyn, neu atebion amgen. Os na all darparwyr lleol gyflwyno sesiynau yn uniongyrchol, oherwydd cost neu lle, a ellir sicrhau bod adnoddau ar gael i’w defnyddio gyda dangosiadau. Bydd lleoliadau a chynulleidfaoedd sydd â galw ond ychydig neu ddim mynediad yn cael eu blaenoriaethu. Rydym yn awyddus i gefnogi aelodau sydd eto i ddatblygu prosiectau gyda’r Ganolfan hyd yma.

Rydym yn croesawu syniadau ond yn rhagweld y bydd y cynigion yn cynnwys:

  • Pecynnau gweithgaredd teulu / oedolyn (gallai hyn gynnwys grwpiau U3A) / cynulleidfa ifanc ar gyfer datganiadau annibynnol newydd / teitlau allweddol y gellir eu rhannu’n ganolog i gefnogi gweithgaredd dysgu yn fewnol heb fawr o gost i leoliadau, os o gwbl.
  • Dangosiadau ar gyfer cynulleidfaoedd cyffredinol sy’n cynnig cyrhaeddiad h.y gweithio mewn partneriaeth ag unrhyw fath o aelod CFfC i gynnig dangosiadau,
  • Gweithdai yn ymwneud â gwerthfawrogiad ffilm. Sylwch, ni allwn gefnogi gwneud ffilmiau ymarferol neu weithgaredd addysg ffurfiol gydag ysgolion,
  • Efallai yr hoffech gynnig sesiwn hyfforddi gychwynnol ar gyfer swyddogion addysg yn eich lleoliadiau (os oes angen),
  • Gall cynigion gynnwys cyfran fach o weithgaredd Ymchwil a Datblygu / cyfarfod FEN os yw’n cyfrannu at amcanion ehangach y prosiect.

Y gyllideb ar gyfer y gweithgaredd hwn yw £9,500 (gan gynnwys unrhyw TAW). Hoffem weld cyrhaeddiad daearyddol trwy adnoddau, neu os cynigir allgymorth, clystyrau o leoliadau y gweithiwyd gyda nhw, yn hytrach nag un lleoliad. Os yw nifer o leoliadau am gynnig ar y cyd, byddem yn croesawu hyn. Dylid ystyried cost y pen.

Hoffem i’r gwaith hwn ddechrau cyn mis Mawrth 2016.

You may be interested in the Soda Pictures Children’s Cinema Club, ICO Children’s Screening Days, FAN Young Programmers Network (in development – limited information), Cinelive Scheme, Chapter Wails Introduction to Sci-Fi course, Into Film Resources and Film Education Resources etc. as background for the type of screening projects we support with young audiences.

We are also about to launch a report mapping the current landscape of the formal and information film education sector in Wales. This will be circulated and made available on our resources page here.

Please use the Audience Development application form and budget (below) to complete your proposal. We recommend that you read our guidelines before submitting.

The deadline for submissions is Friday 22nd January. Please send completed forms to hana@filmhubwales.org and get in touch if you have any questions.

YEAR 3 FHW AD Application Form 1516

YEAR 3 FHW Audience Dev Budget 1516

^
CY