Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn ariannu, hyfforddi a chynghori sefydliadau sy'n sgrinio ffilm yng Nghymru, o wyliau ffilm i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 260 o arddangoswyr o Gymru,, ein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU. Roeddem hefyd yn falch o arwain strategaeth Inclusive Cinema y DU ar ran FAN BFI 2017-23.
Rydym yn rhan o rwydwaith wyth canolfan yn y DU a gyllidir gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) fel rhan o Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN). Mae Chapter wedi’i benodi fel y Corff Arwain Canolfan Ffilm (FHLO) yng Nghymru. Cymerwch olwg ar rai o'r uchafbwyntiau hyd yma uchafbwyntiau hyd yma i ddarganfod beth rydyn ni wedi'i ariannu yn y gorffennol a phrosiectau rydyn ni wedi'u creu.
Os ydych chi'n sgrinio ffilmiau i gynulleidfa gyhoeddus, gallwch ddod yn aelod ac elwa o'n hymchwil, cyrsiau hyfforddi, bwrsariaethau, cronfeydd, cyngor a mwy. Os ydych chi'n wneuthurwr ffilmiau, edrychwch ar ein daflen gymorth i wneuthurwr ffilmiau a dosbarthwyr i gael cyngor ar sut y gallwn hyrwyddo eich ffilm i'n rhwydweithiau.