Am Chapter

Chapter

Mae Chapter yn falch o fod yn Gorff Arwain Canolfan Ffilm Cymru.

Mae Chapter yn ganolfan ddiwylliannol a chymunedol fywiog sy’n cynnwys dwy sinema, theatrau, mannau arddangos, bar/caffi, dros 60 o gwmniau preswyl mewn gweithleoedd diwylliannol, a gofod ar log i grwpiau cymunedol a diwylliannol. Ers ei sefydlu ym 1971, mae Chapter wedi ennill enw da’n rhyngwladol am arloesi a chydweithio ac mae’n cynnig rhaglen amrywiol o’r ffilmiau, perfformiadau a’r arddangosfeydd gorau o Gymru ac o bedwar ban byd. Datblygodd yn ganolfan flaenllaw ar gyfer y celfyddydau cyfoes yng Nghymru ac yn un o’r canolfannau mwyaf o’i bath yn Ewrop.

Ers dros 40 mlynedd, mae Chapter wedi bod wrth graidd creadigrwydd yng Nghaerdydd. Fel lleoliad uchelgeisiol, aml-gelfyddydol sy’n cyflwyno, yn cynhyrchu ac yn hyrwyddo celfyddyd rhyngwladol, perfformiadau byw a ffilm croesawir dros 800,000 o ymwelwyr i’n gofod cymdeithasol deinamig bob blwyddyn. Mae Chapter yn annog pobl o bob oedran a chefndir i ymwneud â’r celfyddydau.

Ni allai Chapter wneud hyn heb gymorth cyllidwyr a noddwyr, ein cymuned greadigol, ac wrth gwrs, chi.

I ddarganfod popeth am y dangosiadau, perfformiadau, arddangosfeydd a digwyddiadau eraill sydd ar gael yn Chapter, ewch i’w tudalen Beth sy’n Digwydd.

I ddarganfod sut y gallwch helpu Chapter i ddatblygu’r daith hon ymhellach, ewch i’r dudalen Ein Cefnogi.


Chapter, Market Road, Canton, Caerdydd CF5 1QE
www.chapter.org
029 2030 4400
enquiry@chapter.org


Chapter ar Instagram

^
CY