Rydym yn credu ei bod yn bwysig dathlu straeon o Gymru, o dalent newydd i wneuthurwyr ffilm archif arloesol, lleoliadau yng Nghymru a’r iaith Gymraeg.
Ers 2013 rydym wedi cefnogi dros 80 o ffilmiau gyda chysylltiadua Cymreig, 24 na fydden nhw fel arall wedi cael eu rhyddhau i theatrau. Drwy weithio gydag 8 ffilm Gymreig yn cael eu rhyddhau ar gyfartaledd yn flynyddol, rydym yn cynnig amrediad o weithgareddau o ddyddiau rhagddangos i ddangoswyr ar-lein a chatalog cynyddol o deitlau y gellir eu harchebu.
Rydym hefyd yn gweithio gyda chyrff sgrin Cymreig ehangach i hybu proffil ffilmiau Cymreig yn ganolog a gyda’i gilydd, gan gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.