Canolfan Ffilm Cymru yn cefnogi ffilmiau Cymreig drwy brosiectau newydd Gwnaethpwyd yng Nghymru

© Delwedd by Rosie Johns

Mae Canolfan Ffilm Cymru, dan arweiniad Chapter fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI, wedi cyhoeddi dau brosiect arloesol a fydd yn cefnogi adrodd straeon ar draws Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Gyda chefnogaeth Cymru Greadigol Gyda chefnogaeth Creative Wales ac wedi’i datblygu mewn ymgynghoriad gyda chyrff sgrin Cymreig, caiff rôl newydd gyffrous ei chreu ar gyfer Swyddog Adeiladu Gwnaethpwyd yng Nghymru. Gan adeiladu ar waith Canolfan Ffilm Cymru hyd yn hyn, fe fydd deiliad y swydd yn edrych ar ffyrdd o gyflwyno ffilmau Cymreig i gynulleidfaoedd cyhoeddus gan sicrhau bod straeon, doniau a lleoliadau rhanbarthol ar y blaen. Mae manylion am y swydd ar gael ar wefan Canolfan Ffilm Cymru.

Hefyd ar y gweill mae darn o ymchwil i botensial Gwnaethwyd yng Nghymru fel brand sydd yn adnabyddus. Gyda chyllid gan Clwstwr, fe fydd y prosiect yn edrych ar botensial diwylliannol ac economaidd posibl brand cenedlaethol ar gyfer ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig.

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma.

^
CY