Dydd Mawrth, 16ef Awst, 2022
Gwledd (The Feast), ffilm arswyd iasol Gymraeg ei rhyddhau mewn sinemâu yn unig ar Awst 19eg,eddrwy Picturehouse Entertainment. Dyma’r ffilm Gymraeg gyntaf i’w dangos i gynulleidfaoedd sinema ers rhyddhau’r ffilm ddogfen gerddorolumentary, Anorac yn 2019.
Wedi’i gosod yng nghanolbarth Cymru, cafodd y ffilm ei gyrru gan dalent Cymreig. Wedi ei hysgrifennu gan Roger Williams a’i chyfarwyddo gan Lee Haven-Jones, mae’n cynnwys actorion amlwg Cymraeg Nia Roberts a Julian Lewis Jones, yn ogystal â thalentau newydd Steffan Cennydd ac Annes Elwy.
Mae Annes Elwy yn chwarae Cadi – menyw ifanc sydd yn derbyn swydd fel gweinydd i deulu cyfoethog yng nghefn gwlad Cymru, ar drothwy parti pwysig. Wrth i’r noson fynd rhagddi mae’n dechrau herio credoau’r teulu gan ddatgelu’r twyll y maen nhw wedi ei greu gyda chanlyniadau brawychus.
Mae’r ffilm yn arwyddocaol i Gymru, gan gyflwyno’r Gymraeg i gynulleidfaoedd newydd yn fydeang, tra hefyd yn ateb galw lleol gan Gymry i wylio straeon yn eu mamiaith. Yn draddodiadol mae
cais wedi bod am fersiynau deuol o ffilmiau. Mae Gwledd, sydd yn Gymraeg yn unig yn creu llwybr ar gyfer ffyrdd newydd o weithio. Mae’n anrhydeddu’r Gymraeg a hefyd yn agor y drws ar gyfer gwneud rhagor o ffilmiau. Fe fydd cydweithrediad newydd rhwng S4C a Cymru Creadigol yn
golygu y bydd miliwn yn cael ei fuddsoddi yn flynyddol mewn ffilmiau Cymraeg gan gefnogi ymrwymiad y Senedd i ddatblygu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a dangos newid cadarnhaol tuag at wneud ffilmiau Cymraeg.
Dywedodd Roger Williams, awdur Gwledd:
“Pe byddem yn ddigon eofn ynghylch adrodd ein straeon ar y sgrin fawr, fawr yma, gallem
adeiladu’r math o ddiwylliant lle nad ydy hi’n anarferol gweld ffilmiau Cymraeg yn ein sinemau.”
Cefnogir rhyddhau’r ffilm gan linyn Gwnaethpwyd yng Nghymru, Ganolfan Ffilm Cymru sydd yn dathlu ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig gan greu mwy o ymwybyddiaeth o straeon o gymunedau Cymreig a helpu i ffurfio ein hunaniaeth diwylliannol.
Dywedodd Radha Patel, Swyddog Gwnaethwyd yng Nghymru yng Nghanolfan Ffilm Cymru:
“Mae ffilmiau Cymreig yn helpu i ffurfio diwylliant Cymru. Mae gan y straeon rydym yn eu hadrodd ar y sgrin gyrhaeddiad byd-eang – yn newid y ffordd y mae’r byd yn gweld ein gwlad. Mae’n gyffrous cael ffilm Gymraeg yn dod i sinemâu lleol a chyunedau unwaith eto ond ni ddylai hyn fod yn eithriad. Mae Cymru yn gartref i genedl amrywiol o adroddwyr straeon ac mae cynulleidfoaed Cymru y n haeddu gweld rhagor o ffilmiau sydd yn cynrychioli eu iaith, gwlad a diwylliant. Gwyddom y gall Gwledd ysbrydoli talent newydd i wneud y ffilmiau maen nhw eisiau eu gweld.”
Drwy Gwnaethpwyd yng Nghymru gall sinemâu ddangos cyfweliad arbennig gyda Roger Williams ac Annes Elwy, a hefyd traethawd creadigol gan yr awdur llawrydd ac ymchwlydd Rosie Couch, sydd yn edrych ar gyd-destun gwleidyddol ac amgylcheddol y ffilm. Mae Canolfan Ffilm Cymru a Picturehouse hefyd wedi cydweithio i sicrhau y bydd gan sinemâu Cymru fynediad i bosteri Cymraeg, rhagddangosiadau, disgrifiadau sain a phenawdau trwm eu clyw i wylwyr b/Byddar Cymraeg.
Derbyniodd Gwledd gyllid gan yr asiantaeth datblygu cenedlaethol, Ffilm Cymru Wales.
Mae Kimberely Warner, Pennaeth Cynhyrhcu Ffilm Cymru Wales yn esbonio pam bod y ffim
yn arwyddocaol:
“Rydym mor falch o fod wedi cefnogi’r ffilm unigryw hon trwy ein cynllun ar gyfer ffilmiau nodwedd cyntaf ‘Sinematic’, ac hefyd o Roger a Lee sydd nawr yn mentora’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilm Cymraeg trwy ein cynllun datblygu talent ‘Labordy’. Mae o wedi bod yn blwyddyn
addawol i sinema Gymraeg fel cyfan, gyda premieres yng nghwyliau gyffrous yn dod yn fuan ar gyfer ffilmiau Ffilm Cymru ‘Jelly’ (wedi’u hysgrifennu a’u cyfarwyddo gan Sam O’Rourke) a ‘Nant’ (ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Tom-Chetwode Barton). Mae ffilmiau fel Gwledd, a gefnogir gan asiantau gwerthu a dosbarthwyr cryf, sy’n ennill clod rhyngwladol yn ogystal â chenedlaethol, yn helpu i baratoi’r ffordd ar gyfer gwireddu potensial llawn a ddangos yr holl amrywiaeth yn ffilm
Gymraeg.
Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn cynnig llu o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn mewn partneriaeth gydag arddangoswyr Cymreig, yn cynnwys catalog ffilmiaugyda 600 o ffilmiau byr a hir gyda chysylltiadau Cymreig. Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn derbyn cyllid gan Creative Wales a chyllid y Loteri Cenedlaethol drwy Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI DU gyfan. Fel rhan o FAN, mae Canolfan Ffilm Cymru yn datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol Prydeinig a rhyngwladol drwy gydol y flwyddyn. Gweninyddir cyllid yng Nghymru gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy Chapter fel y Corff Arweiniol Canolfannau Ffilm.
Mae dros £30m yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU gan y Loteri Genedlaethol.
-DIWEDD-
Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn