Into Film’s “Cinema’s That Made Me”: Pauline Williams From Off Y Grid, North Wales

Gyda sawl sinema dal ar gau oherwydd COVID-19, ry'n ni'n parhau i ddathlu lleoliadau annibynnol ar draws y DU yn ein cyfres 'Sinemau ein stori'. Dyma gyfweliad arbennig gyda Pauline Williams, Off y Grid, am y prosiect aml-leoliad sydd wedi'i gefnogi gan Canolfan Ffilm Cymru ac sy'n anelu i ddod a chymunedau ynghyd i wylio ffilmiau annibynnol Prydeinig. Canolfan Ffilm Cymru, that aims to reduce isolation and increase engagement with British and independent film.

Mae Off y Grid yn brosiect sy'n gweld lleoliadau yn cyd-weithio ar daws Gogledd Cymru er mwyn darparu gwasanaeth gymunedol i gynulleidfaoedd ardaloedd gwledig a dathlu treftadaeth leol. Mae'n nhw'n gweithio ar y cyd i ddarparu rhaglenni tymhorol fel bod modd denu cynulleidfa ehangach ar draws yr ardal. Dyma Pauline Williams, Rheolwr y Prosiect, yn egluro sut y mae'n nhw'n cyd-weithio er mwyn gwella'r profiad i'r gynulleidfa ac er mwyn gallu rhannu arbenigedd ar draws y sinemau, mae hefyd yn son am ei phrofiadau cyntaf hi o'r sinema ac sut y mae'r profiadau hyn yn dylanwadu ar ei gwaith heddi.

Beth mae Off y Grid yn ei gynnig i'r gynulleidfa?

Mwy o bobol. Mwy o ffilmiau. Mwy o lefydd. Dyna ydi amcan prosiect Off Y Grid (OYG). Mae OYG yn cydlynnu partneriaeth unigryw rhwng saith canolfan yng Ngogledd Cymru sy'n gweithio ar y cyd i hyrwyddo ffilmiau annibynnol, Prydeinig a ffilmiau byd i gynulleidfaoedd mewn ardal wledig. Mae OYg hefyd yn cynnig arlwy o ffilmiau clasurol cyfarwydd yn ogystal â dathlu treftadaeth Cymru trwy ffilmiau archif.

Mae'r 7 canolfan - CellB, Galeri, Pontio, Neuadd Dwyfor, Neuadd Ogwen, Tape Community Music & Film a Theatr y Ddraig - yn cynnig profiadau gwahanol o ran gofod a lleoliad ond yn rhannu'r un meddylfryd gyda'r diwylliant Cymreig, etifeddiaeth a hygyrchedd yn ganolig i'r arlwy. Wrth gyd-weithio gellir hyrwyddo ffilmiau mwy heriol i gynulleidfa ehangach. Wrth rannu syniadau ceir cyfle i greu profidadau sinema newydd yn yr ardal.

Wedi ei ariannu gan Film Hub Wales, mae'r prosiect yn cynyddu gweithgareddau ar draws Gogledd Cymru mewn ardaloedd sy'n aml yn dioddef o ddiffyg nawdd a digwyddiadau celfyddydol. Mae'n digwyddiadau yn cysylltu â'r gymuned ac yn cynnig darpariaeth gelfyddydol, yn annog trafodaeth ac yn ehangu gorwelion trwy gyfrwng ffilm. Yn ogystal â dangos ffilmiau rydym yn cyflwyno gweithgareddau ychwanegol (fel sesiynnau holi ac ateb) ac yn cydlynnu gyda gwyliau ffilmiau a digwyddiadau sinematig yng Nghymru a thu hwnt.

Rydym yn cyd-weithio gyda nifer o bartneriaid rheolaidd ond yn barod i ehangu'n gorwelion gyda phartneriaid newydd er mwyn hyrwyddo ffilm. Yn ddiweddar rydym wedi bod yn cynnig sinema pop-up i gymunedau lleol a'r bwriad yw ehangu ar ein darpariaeth yn y maes yma yn ogystal â pharhau i ddatblygu cynulleidfa o bob oedran yn yr ardal.

Beth oedd eich swydd gyntaf? Sut arweiniodd hyn at Off y Grid?

Ar ôl cychwyn gyrfa yn y BBC Caerdydd a chael hyfforddiant yn gweithio ar ddramau a chyfresi teledu bum yn gweithio'n llawrydd nes i mi ymuno fel Cynhyrchydd â chwmni Gaucho a chyd-weithio gyda'r cyfarwyddwr Endaf Emlyn. Bu'r cwmni'n gyfrannwr allweddol yn y byd ffilm yng Nghymru ac roeddwn yn gyfrifol am gynhyrchu'r ffilmiau arobryn Un Nos Ola, Gadael Lenin, Y Mapiwr yn ogystal â dramau unigol a chyfresi drama ar gyfer teledu.

Cariad at ffilm a'r awydd i rannu'r brwdfrydedd yna a chynnig profiadau sinematig unigryw i gynulleidfaoedd hen a newydd sy'n fy nghyrru i gyd-weithio ar OYG.

Ydy ffilm a mynd i'r sinema wedi bod yn ro'ch bywyd erioed?

Pan yn blentyn roedd cael mynd i'r Majestic yng Nghaernarfon i glwb ffilm ar fore Sadwrn yn brofiad rhithiol. Doedd dim byd gwell nag ista'n y gynulleidfa yn disgwyl yn eiddgar i'r golau ddiffod yn ara deg a'r llenni i agor led y pen i arddangos sgrîn enfawr. Roedd bod yn y tywyllwch mewn byd arall yn brofiad mor gofiadwy. Dwi'n cofio mynd efo fy mam i weld Summer Holiday a'r llliwiau yn dallu'r llgadau. Ond yn fwy na hynny roedd y teimladau a ysgogwyd gan y ffilmiau mor bwerus.

Yn ddiweddarach roeddwn yn mynychu'r Coliseum yn Port a'r Forum yn Blaenau yn rheolaidd. (Yn anffodus does na'r un o'r sinemau yma'n bodoli bellach) Does dim byd mwy cyfareddol na bod yn yr hanner gwyll yn cael y'ch tywys i fyd arall. Does dim ffiniau i ddychymyg. Yn sicr roedd dylanwad y sinema yn y blynyddoedd cynnar yn allweddol yn fy newis o yrfa.

Sut y mae gweithio a'r lleoliadau san sylw wedi dylanwadu ar eich gwaith chi heddi?

Mae'r profiadau ges i o wylio ffilm ar y sgrîn fawr ac ymgolli mewn byd arall yn y sinemau cymunedol, lleol yma yn f'ysbrydoli i gynnig profiadau tebyg i gynulleidfaoedd heddiw. Roedd mynd i'r sinema yn brofiad rheolaidd, fforddadwy a'r rhaglen yn amrywiol felly roedd cynulleidfa'n derbyn a gwerthfawrogi pob math o ffilm- a hynny ar stepan drws.

Mae gwylio ffilm ar sgrîn fawr yn brofiad hudolus, rhithiol. Mae bod yn rhan o gynulleidfa sy'n cyd-rannu emosiwn yn deimlad cynhwysol, cyfrin. Mae ffilm yn gallu cyfareddu. Mae'n cynnig allwedd i fydoedd eraill. Mae'n ysgogi emosiynnau. Mae'n gynhwysol ac yn drawsnewidiol.

Gan bod sinemau ar gau oherwydd COVID-19, ydych chi wedi dechrau unrhyw fentrau newydd fel Off y Grid?

CellB wedi bod yn gweithio'n rheolaidd i gynnal a hybu Gwallgofiaid trwy drefnu sesiynnau ar lein gyda Rhys Ifans fel mentor i brosiect gwneud ffilm fer.

^
CY