Canolfan Ffilm Cymru i gefnogi Saith Sinema yng Nghymru gyda’r Argyfwng Costau Byw

7 Mawrth 2023

Bydd saith sinema annibynnol yng Nghymru yn derbyn cyllid gan Ganolfan Ffilm Cymru dros y gwanwyn, er mwyn helpu gyda chostau cynyddol.

Wrth i ganolfannau ddelio â phwysau ariannol sylweddol, bydd y cyllid yn sicrhau bod ffilmiau annibynnol gorau’r DU a ffilmiau rhyngwladol yn cyrraedd cymunedau am bris fforddiadwy.

Mae biliau ynni Cellb ym Mlaenau Ffestiniog, wedi cynyddu o 700% yn y chwarter diwethaf. Yn sgil hyn, mae’r ganolfan dan arweiniad pobl ifanc yn gweithio’n greadigol i barhau i ddarparu adloniant sinematig gyfoes y mae’r gymuned leol yn ei fwynhau, a hynny am bris fforddiadwy. Maent wrthi’n ailddatblygu eu Clwb Ffilmiau Blaenau Vista gyda dangosiadau a sesiynau holi ac ateb ar gyfer ffilmiau megis Enys Men a’r ffilm a wnaed yng Nghymru, Y Sŵnei dangos gyda sesiwn holi ac ateb gyda’r Cyfarwyddwr ar y 10fed o Fawrth, i ddathlu pen-blwydd Cellb yn 16 oed, gyda thocynnau’n costio £5. Bydd sesiwn holi ac ateb i gynulleidfaoedd ifanc yn dilyn y ffilm, gyda ffocws ar y thema o brotest gyda’r Darlithydd Selwyn Williams a’r gwrthgiliwr lleol, Ceri Cunnington.

Yn Theatr Gwaun yn Sir Benfro, mae’r sinema yn gweithio gyda’i Phanel Ffilmiau Cymunedol a Chymdeithas Ffilmiau Abergwaun i adennill eu cynulleidfa yn dilyn y pandemig, tra hefyd yn delio â phwysau ariannol yn sgil chwyddiant. Maent yn arwain y ffordd gyda rhaglen gyffrous sy’n rhoi eu cynulleidfa gyntaf. Bydd y cyllid yn cefnogi dangosiadau o ffilmiau annibynnol o fis Ionawr i fis Ebrill 2023, gyda ffilmiau megis, y dirgel Decision to Leave o Dde Corea, y ffilm o Orllewin Cymru, The Toll, yn ogystal â’u Clwb Fore Sadwrn i Blant sy’n costio £3 a’u menter POINT Presents mewn partneriaeth â’u canolfan ieuenctid leol.

Dyma Paul Howe, Rheolwr Theatr Gwaun yn esbonio sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar sinemâu:

Mae hwn yn gyfnod anodd iawn i sinemâu. Fel nifer o sinemâu annibynnol bach, un sgrin ledled Cymru, mae Theatr Gwaun yn delio gyda heriau’r argyfwng costau byw ac yn benderfynol o ddod trwyddi. Mae ein costau gweithredu dan bwysau gan fod costau tanwydd a chostau masnachu yn cynyddu a chwyddiant / polisi’r llywodraeth yn arwain at gynnydd anochel ac angenrheidiol yng nghyflogau staff. Dim ond un ochr i’r geiniog yw hyn wrth gwrs. Mae ein cynulleidfaoedd hefyd yn gwneud penderfyniadau anodd yng nghylch eu cyllidebau personol. Mae ffocws tyn ar gostau, ynghyd â rhaglennu arloesol a chreadigol, marchnata atyniadol a chydweithredu’n agosach gyda chyrff cyllido cefnogol, megis Canolfan Ffilm Cymru yn strategaethau sy’n bwysicach nag erioed wrth i ni ddod drwy’r cyfnod anodd hwn.

Mae sinema The Magic Lantern yn Nhywyn yn wynebu’r un cynnydd mawr i gostau ynni â’r bobl yn ei chymuned. Mae’r sinema wedi’i lleoli mewn ardal wledig ynysig lle mae incwm yn gysylltiedig â thwristiaeth dymhorol. Mae hi’n darparu gofod cymdeithasol hanfodol, ond mae cynulleidfaoedd wedi rhannu bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith ar eu gallu i fynychu’r sinema.

Esboniodd Annie Grundy o sinema The Magic Lantern:

Mae ein cynulleidfaoedd wedi dweud wrthon ni nad ydynt yn gallu fforddio gweld yr holl ffilmiau maent am eu gweld, ond mae’n fwy pwysig nag erioed i ni eu bod yn gallu mynychu. Felly rydyn ni’n lansio ein cynnig £3 ‘Wonderful Wednesdays’ yn ystod mis Mawrth, yn ogystal â chydweithio â Gwasanaethau Ieuenctid Gwynedd er mwyn cynnig dangosiadau am ddim i’r rheiny sy’n 11-25 mlwydd oed. Rydyn ni hefyd yn cynnal diwrnod agored i gychwyn sgwrs ynglŷn â’r hyn y gallwn ni ei wneud i helpu cynulleidfaoedd ifanc a hŷn, sy’n teimlo’r esgid yn gwasgu. Mae gweld ffilm ar y sgrin fawr gyda sain amgylchynol yn rhoi gwerth eich arian am noson allan wych yn Nhywyn, ac rydyn yn cadw ein prisiau mor fforddiadwy â phosib.

Mae cyllid hefyd wedi’i gadarnhau ar gyfer Canolfan Gelfyddydau Wyeside (Llanfair-ym-muallt), Y Torch (Aberdaugleddau), Theatr y Ddraig (Abermaw) a Chanolfan Gelfyddydau Pontardawe (Cwm Tawe).

Dyma Hana Lewis, Rheolwr Canolfan Ffilm Cymru yn esbonio pam lansiwyd y gronfa:

Dros y misoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld sawl sinema boblogaidd ar draws y DU – megis Kinokulture ar y ffin a Premiere Cinema Caerdydd – yn cau. Mae sinemâu yn cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw ar sawl lefel – o gynnydd yng nghostau cyflenwi, i gyllid sy’n aros yn stond neu sy’n lleihau. Rydyn hefyd yn gweithredu mewn ‘normal newydd’ – yn ailadeiladu cynulleidfaoedd ar ôl Covid ac yn esblygu fel sefydliadau. Gwyddwn na fydd y cyllid yma yn datrys yr argyfwng i’r canolfannau, ond rydyn ni wrth ein boddau’n cefnogi’r canolfannau hyn sydd wrth galon cynifer o gymunedau Cymreig, ym mha bynnag ffordd y gallwn, a rhoi’r cyfle i bobl ffoi i fyd newydd ar y sgrin.

Mae Canolfan Ffilm Cymru yn bosib diolch i gyllid gan Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (FAN), gyda chefnogaeth cyllid y Loteri Genedlaethol. Mae BFI FAN yn cynnig cefnogaeth i arddangoswyr ffilmiau ledled y DU, er mwyn cynyddu rhaglennu diwylliannol ac ymwneud â chynulleidfaoedd amrywiol. Yng Nghymru caiff y gwaith ei arwain gan Ganolfan Ffilm Cymru, dan reolaeth Chapter.

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma

-DIWEDD-

Gogledd Orllewin Cymru

Cellb (Blaenau Ffestiniog)
Gyda biliau ynni wedi cynyddu o 700% yn y chwarter diwethaf, mae’r ganolfan, sydd dan arweiniad pobl ifanc, yn gweithio’n greadigol i barhau i ddarparu adloniant sinematig gyfoes y mae’r gymuned leol yn ei fwynhau, a hynny am bris fforddiadwy. Maent wrthi’n ailddatblygu eu Clwb Ffilmiau Blaenau Vista a gychwynnodd yn 2014, gyda dangosiadau a sesiynau holi ac ateb arbenigol megis Enys Men gyda thrafodaeth am ffilmiau Super 8 gyda Clare Marie Bailey (YNYS MON). Byddant yn dangos Y Sŵn , ffilm a wnaed yng Nghymru, ar y 10fed o Fawrth, i ddathlu pen-blwydd Cellb yned gyda sesiwn holi ac ateb gyda’r Cyfarwyddwr Roger WilliamsGwledd). Bydd hefyd dangosiad i ysgolion, ynghyd â sesiwn holi ac ateb gyda ffocws ar y thema o brotest gyda’r Darlithydd Selwyn Williams a’r gwrthgiliwr lleol, Ceri Cunnington. Ar y 21ainMark Jenkin (Enys Men, Bait) yn ymuno â’r clwb ffilmiau i ddangos rhai ffilmiau byrion o’i gasgliad, gyda gweithdy ffilmiau Super 8 i bobl ifanc i ddilyn, er mwyn dathlu 20 mlynedd o Gwallgofiaid – eu menter gymdeithasol, nid er elw, sy’n darparu hyfforddiant creadigol i bobl ifanc Blaenau Ffestiniog.

Gwefan Twitter, Facebook

Theatr y Ddraig (Abermaw)
Hiwmor yw thema rhaglen y Ddraig y gwanwyn hwn. Maent am godi ysbryd y gynulleidfa yn ystod yr argyfwng costau byw. Gan gysylltu gyda’u penwythnos o gomedi byw ar ddiwedd mis Mawrth, bydd posteri yn ymddangos o amgylch y dref gyda rhagflas a chystadlaethau comedi ar-lein. Bydd caffi The Happy Dragon ar agor ar ddydd Llun fel rhan o gynllun Croeso Cynnes Gwynedd – ac yn darparu te/coffi, cinio a swper poeth am ddim. Bydd y ffilmiau yn cynnig adloniant prynhawn ac yn adeiladu ar eu cynulleidfa. Ar ddydd Gwener rhwng 10am a 3pm mae cinio a ffilm prynhawn ar gael i gynulleidfaoedd hŷn, fel rhan o gynllun bwyd cymunedol a phrosiect unigrwydd ac unigedd Cyngor Gwynedd.

Gwefan, Twitter, Facebook

Gorllewin Cymru

The Magic Lantern (Tywyn)
Mewn ymateb i adborth eu cynulleidfa – nad ydynt yn gallu fforddio gweld yr holl ffilmiau maent am eu gweld – mae’r Magic Lantern yn Nhywyn yn lansio’u cynnig Dydd Mercher Rhad am £3 ym mis Mawrth. Byddant yn cynnal diwrnod agored er mwyn cychwyn sgwrs am sut i helpu cynulleidfaoedd hŷn ac iau sy’n teimlo’r esgid yn gwasgu. Bydd ffilmiau megis Blue Jean, A Bunch of Amateurs a ffilmiau byrion am weithgareddau yn yr awyr agored ar gael, gyda’r nod o groesawu cynulleidfaoedd i’r ganolfan yn rheolaidd, gan gefnogi’r Lantern wrth iddynt wynebu cynnydd mawr mewn costau ynni.

Gwefan, Twitter, Facebook

Y Canolbarth

Canolfan Gelfyddydau Wyeside (Llanfair-ym-muallt)

Yng Nghanolfan Gelfyddydau Wyeside yn Llanfair-ym-muallt, bydd cyllid yn cefnogi’r sinema i ddangos y ffilmiau annibynnol diweddaraf gorau, megis Blue Jean, ynghyd â’r ffilm Gymraeg disgwyliedig, Y Sŵn. Bydd eu dangosiadau gydag isdeitlau ar ddydd Iau, eu dangosiadau ymlaciedig ar gyfer plant gydag awtistiaeth a’u dangosiadau misol ar gyfer bobl hŷn yn croesawu cynulleidfaoedd o bob rhan o’r gymuned leol

Gwefan, Twitter, Facebook

De Orllewin Cymru

Y Torch (Aberdaugleddau)
Mae’r Torch yn Aberdaugleddau wedi gweld cynnydd yn eu costau gweithredu a chynnydd yn y gystadleuaeth gyda gwasanaethau ffrydio. Er mwyn cefnogi eu cynulleidfa mae ganddynt ganllaw ffilmiau ar ei newydd-wedd a rhaglen gyffrous o ffilmiau, sy’n cynnwys India Sweets and Spice ac She is Love, Corsage a Enys Men. Mae dangosiadau prynhawn a chynnar yn ystod yr wythnos yn gwneud ffilmiau’n hygyrch i bobl o bob oedran, yn arbennig i gynulleidfaoedd gwledig sy’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus gyfyngedig. Mae’r Torch yn cynnig tocynnau am bris gostyngedig a gostyngiadau ar bris prydiau yn eu caffi ar gyfer ffilmiau penodol, ac mae ganddynt gerdyn teyrngarwch. Maent hefyd yn cysylltu gyda threfnwyr digwyddiad Pride Aberdaugleddau a grwpiau LHDTCIA+ er mwyn cynnal digwyddiad arbennig gyda Blue Jean, sy’n archwilio effaith deddfwriaeth Adran 28. Blue Jean which explores the impacts of the Section 28 legislation.

Gwefan, Twitter, Facebook

Theatr Gwaun (Abergwaun)
Yn Sir Benfro, mae’r sinema yn gweithio gyda’i Phanel Ffilm Cymunedol a Chymdeithas Ffilmiau Abergwaun i adennill eu cynulleidfa yn dilyn y pandemig, tra hefyd yn delio â phwysau ariannol yn sgil chwyddiant. Maent yn arwain y ffordd gyda rhaglen gyffrous sy’n rhoi eu cynulleidfa gyntaf. Bydd y cyllid yn cefnogi eu dangosiadau o ffilmiau annibynnol o fis Ionawr i fis Ebrill 2023, gyda ffilmiau megis, y dirgel Decision to Leave o Dde Corea, y ffilm o Orllewin Cymru, The Toll, yn ogystal â’u Clwb Fore Sadwrn i Blant sy’n costio £3 a’u menter POINT Presents mewn partneriaeth â’u canolfan ieuenctid leol.

Gwefan Twitter, Facebook

De Cymru

Canolfan y Celfyddydau, Pontardawe
Mae Pontardawe yn cadw eu harlwy ffilm yn fforddiadwy ac yn hygyrch. Rhwng mis Ionawr a mis Ebrill gall gynulleidfaoedd edrych ymlaen at ddangosiad arbennig o ffilm Pride Pride ar gyfer mis hanes LHDTC+, a fydd yn cynnwys cyfweliadau gyda’r cast, cyflwyniad i’r ffilm a chwis. Bydd cyfle hefyd i wylio Y Sŵn gyda sesiwn holi ac ateb gyda chast a chriw’r ffilm, gyda chyfieithiad ar y pryd gan Fenter Iaith. Bydd detholiad o ffilmiau o’r DU a ffilmiau rhyngwladol ar y sgrin hefyd, gan gynnwys Hit the Road, Alcarras, Empire of light, A Bunch of Amateurs, Corsage, She worked in a terrified state a The Quiet Girl.

Gwefan, Twitter, Facebook

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda: 

Am Canolfan Ffilm Cymru:
Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn cefnogi cyrff sy’n dangos ffilmiau – o wyliau ffilmiau i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 315 o arddangoswyr ein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013 rydym wedi cefnogi dros 300 o brosiectau sinema a chyrraedd dros 560,000 o aelodau cynulleidfa.

Rydym yn rhan o rwydwaith wyth canolfan yn y DU a gyllidir gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) fel rhan o Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN), mae Chapter wedi’i benodi fel y Corff Arwain Canolfan Ffilm (FHLO) yng Nghymru. Chapter.

Rydym hefyd yn falch o arwain ar strategaeth sinema cynhwysol ar ran FAN BFI.

Gwefan, Twitter, Facebook, Instagram

Am Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI
Gyda chefnogaeth cyllid y Loteri Genedlaethol, mae FAN BFI yn ganolog i nod y BFI o sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilm ar gael i bawb. Wedi’i sefydlu yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd sinema DU ehangach a mwy amrywiol i ffilmiau DU a rhyngwladol, mae FAN yn gydweithrediad DU cyfan, unigryw sydd yn cynnwys wyth o ganolfannau a reolir gan gyrff a lleoliadau ffilm amlwg wedi’u lleoli’n strategol o amgylch y wlad. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiad talent gyda Swyddogion Talent Rhwydwaith BFI ym mhob un o’r canolfannau yn Lloegr, gyda chenhadaeth o ddarganfod a chefnogi awduron, cyfarwyddwyr a chyfarwyddwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Canolfannau Ffilm FAN BFI yw:

  • Arweinir Canolfan Ffilm Canolbarth Lloegr gan Broadway, Nottingham yn gweithio mewn partneriaeth â'r Flatpack o Birmingham
  • Arweinir Canolfan Ffilm y Gogledd ar y cyd gan Showroom Workstation, Sheffield a HOME Manchester
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Ddwyrain gan yr Independent Cinema Office
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Orllewin gan Watershed ym Mryste
  • Arweinir Canolfan Ffilm yr Alban gan Glasgow Film Theatre
  • Arweinir Canolfan Ffilm Gogledd Iwerddon gan Brifysgol Queen's, Belfast
  • Arweinir Canolfan Ffilm Cymru gan Chapter yng Nghaerdydd
  • Arweinir Canolfan Ffilm Llundain gan Film London

Gwefan

Am BFI
Rydym yn elusen diwylliannol, dosbarthydd y Loteri Cenedlaethol a chorff arweiniol y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth ydy:

  • cefnogi creadigrwydd a mynd ati i chwilio am y genhedlaeth nesaf o storïwyr y DU
  • tyfu a gofalu am Archif Genedlaethol y BFI, archif ffilm a theledu mwyaf y byd
  • cynnig yr ystod ehangaf o ddiwylliant delweddau symudol y DU a rhyngwladol drwy ein rhaglenni a'n gwyliau - a gyflwynir ar-lein ac mewn lleoliad
  • defnyddio ein gwybodaeth i addysgu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd
  • gweithio gyda'r Llywodraeth a'r diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU

Wedi'i sefydlu ym 1933, mae'r BFI yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Frenhinol.

Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr BFI yw Tim Richards.

Gwefan, Facebook, Twitter

Am Chapter
Chapter ydy un o ganolfannau celfyddydau mwyaf, a mwyaf deinamig Ewrop gyda sinemâu, theatrau, gofod arddangos, stiwdios a chaffi, bariau arobryn a dros 60 gofod gweithio diwylliannol a mwy. Mae gan Chapter enw da rhyngwladol am ragoriaeth, arloesi a chydweithredu. Mae’n cynnig rhaglen newidiol barhaus o ffilmiau ac arddangosfeydd gorau o Gymru ac o amgylch y byd.

Gwefan, Facebook, Twitter

^
CY