Cyllid Gwnaethpwyd yng Nghymru

Dathlu ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig

Os ydych chi am ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau Cymreig yn eich sinema neu ŵyl, gallwch wneud cais i’n Cronfa Arddangos Ffilmiau (CAFf) neu Pot cynnig CAFf.

Nodwch – mae’r gronfa hon ar gyfer arddangos yn unig. Nid yw cynhyrchu, datblygu na dosbarthu ffilmiau yn gymwys, gan gynnwys dangosiadau ‘premiere’.

Delwedd © Affairs of the Art / NFB a Beryl Productions International

Credwn fod dathlu Cymru ar y sgrin yn bwysig. O dalent newydd i wneuthurwyr ffilmiau arloesol, lleoliadau a ieithoedd, hanes a storïau cudd.

Ers 2013, rydyn ni wedi hybu dros 450 o ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig. Rydyn yn cynnig ystod o weithgareddau o ddyddiau rhagddangos ar gyfer rhaglenwyr ffilmiau i ddatblygu ymgyrchoedd marchnata ac asedau sy’n cefnogi strategaethau rhyddhau yng Nghymru.

Rydyn ni hefyd yn cydweithio â sefydliadau sgrin Cymru i hybu proffil ffilm Cymreig a’r canfyddiad o Gymru ar y sgrin.

Edrychwch ar ein rhestr o ffilmiau sydd yn dathlu Cymru yn y gorffennol a’r presennol yma, gyda manylion am sut i’w harchebu ar gyfer eich sinema neu ddigwyddiad. Gallwch wneud cais i'r FEF i gefnogi'r gweithgaredd hwn.

Treftadaeth Sgrin

  • Ffilmiau nodwedd wedi’u gwneud yn broffesiynol, ffilmiau byr a rhaglenni dogfen y mae archifau sgrin yn cadw eu hawliau, e.e. The Life and Times of David Lloyd George (1918) neu ffilm amatur a gedwir mewn casgliadau personol.

Ffilmiau Nodwedd, Rhaglenni Dogfen a Siorts

  • Yn cynnwys talent ffilm Gymreig (cyfarwyddwr/ cynhyrchydd/ awdur/ prif gast) e.e. ffilmiau'r actor Ray Milland.
  • Wedi’u gwneud gan gwmnïau cynhyrchu neu wneuthurwyr ffilm sy’n weithgar yng Nghymru (gan gynnwys y rhai a wneir gyda chyllid asiantaethau Cymreig neu’r Llywodraeth) e.e. The Toll (2021).
  • Wedi’i gosod yng Nghymru, neu sy’n delio â straeon, digwyddiadau neu bobl Gymreig e.e. Tiger Bay (1959).
  • Wedi'i wneud yn yr iaith Gymraeg e.e. Y Sŵn (2023).
  • Storïau rhyngwladol gan storïwyr o Gymru e.e. Donna (2022).

Mae Canolfan Ffilm Cymru yn cynnig cyfleoedd drwy gydol y flwyddyn ar gyfer gweithgaredd arddangos annibynnol yng Nghymru. Rydym yn cynnig dau faes o gyllid ar draws ‘hyfforddiant’ a ‘chynulleidfaoedd’. Gall aelodau wneud cais i’r canlynol:

Os ydych yn chwilio am gyllid ar gyfer gweithgarwch na fedrwn ei ariannu, gwelwch ein hadnodd codi arian ar gyfer dolenni allanol.

Rydym hefyd yn cynnig digwyddiadau rhwydweithio, cyrsiau hyfforddi, cymorth marchnata, a newyddion ffilm.

^
CY