2 Medi 2026.
Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) wedi dyrannu bron i £170,000 o gyllid Loteri Genedlaethol y BFI i chwech ar hugain o sinemâu annibynnol, gwyliau ffilmiau a sgriniau cymunedol Cymru, drwy un ar hugain o brosiectau, a hynny drwy dri llinyn ariannu: Sbotolau, y Gronfa Arddangos Ffilmiau a Rip It Up.
Bydd arian yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl leol, a fydd yn gallu gwylio'r ffilmiau annibynnol a rhyngwladol diweddaraf yn y DU ar stepen eu drws, am brisiau fforddiadwy. O ffilmiau amgylcheddol wedi'u curadu gan bobl ifanc, i dymhorau ffilmiau Cymreig sy'n dathlu 130 mlynedd o sinema yng Nghymru, gall cynulleidfaoedd gymdeithasu a chefnogi mannau poblogaidd yng nghanol eu cymdogaethau.
Yn Ne-orllewin Cymru, bydd prosiect tair blynedd newydd 'Sbotolau' dan arweiniad Gŵyl Ffilmiau Wales One World (WOW) yn datblygu dangosiadau ffilm cymunedol mewn trefi a phentrefi fel Llanbedr Pont Steffan, Hermon, Casnewydd a Chastellnewydd Emlyn lle mae cynulleidfaoedd gwledig yn wynebu teithiau trafnidiaeth gyhoeddus hir neu anymarferol i gael mynediad at ddiwylliant y sgrin.
Esbonia Amy Daniel, Cydlynydd Sbotolau pam y bydd y cyllid yn drawsnewidiol ar lefel leol:
Byddwn yn mentora gwirfoddolwyr a llysgenhadon a fydd yn mynd ymlaen i siapio ac arwain darpariaeth sinema yn eu cymunedau, sy'n golygu bod y ddarpariaeth yn perthyn iddyn nhw. Byddwn hefyd yn cydweithio'n agos gyda chanolfannau sefydledig yn y rhanbarth i gyfnewid gwybodaeth ac adeiladu sinema sy'n mynd ar draws y siroedd cyffiniol, gan gefnogi mynediad at ddiwylliant yn ogystal â'r economi leol. Mae sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau tymor hirach yn beth prin, ac mae hyn yn golygu y gallwn greu newid.
Mae pedwar ar hugain o brosiectau wedi cael eu cefnogi drwy Gronfa Arddangos Ffilmiau Canolfan Ffilm Cymru, o'r gymdeithas ffilm hynaf yn y Fenni, i strategaeth gynulleidfa newydd Galeri Caernarfon sy'n cynnwys clwb ffilm dan arweiniad y gymuned (SineGlwb) a Ffilms Er Newid a gyflwynir mewn cydweithrediad â grwpiau lleol. Yn Ystradgynlais, bydd llinyn ‘Screen Social’ y Neuadd Les yn chwalu rhwystrau cymdeithasol, iechyd, ariannol a rhwystrau eraill i fynychu'r sinema, ac, ar draws Cymru, bydd Labordy Hinsawdd Ieuenctid Sheba Soul yn annog pobl ifanc i ddeall gwreiddiau argyfyngau amgylcheddol drwy ffilm a dylunio camau gweithredu cymunedol syml, cydweithredol mewn ymateb.
Esbonia Hana Lewis, Pennaeth Canolfan Ffilm Cymru pam mae'r gwaith hwn mor bwysig:
Yn ogystal â dod â'r ffilmiau gorau i Gymru, rhywbeth sydd gan lawer o'n prosiectau a gefnogir yn gyffredin yw bod grwpiau cymunedol yn cymryd rhan weithredol wrth gyflwyno eu gweithgareddau sinema lleol. Megis y tymor 'cydweithrediadau cymunedol' yn Theatr y Torch sy'n rhedeg drwy gydol Mis Medi Ail Law a Mis Hanes Anabledd, neu waith curadurol Gŵyl Animeiddio Caerdydd gyda theuluoedd o geiswyr lloches ifanc a ffoaduriaid yng nghanolfan Oasis Caerdydd. Mae sinema annibynnol yn ffordd wych i bobl leol gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol yn eu milltir sgwâr. Mae eu lleisiau yn helpu i lunio cyfeiriad diwylliant yn y fan honno ac, yn gyfnewid, mae sinemâu yn cynnig gwasanaethau cymdeithasol a lles hanfodol sy'n lleihau unigedd ac yn cynhyrchu incwm lleol.
Hefyd yn ystod 2026 cynhelir Rip It Up - tymor RhCFf y BFI ledled y DU sy'n dathlu wyneb newidiol diwylliant a mynegiant ieuenctid ar y sgrin - o lawenydd a chyfeillgarwch i dor-calon a gwrthryfel. Yng Nghymru, bydd wyth partner yn cyflawni prosiectau hyd at fis Hydref 2026. Bydd gan Chapter, Caerdydd, dri llinyn gan gynnwys Hei, Mr Urdd! – detholiad o ffilmiau o Archif Darlledu Cymru sy’n dathlu diwylliant ieuenctid, gyda thrafodaeth yn Gymraeg. Yn Cellb ym Mlaenau Ffestiniog, bydd Fideo Hud yn 'troi'r sain i fyny', gan archwilio is-ddiwylliannau Cymru o fudiad Cool Cymru o'r 1990au i sîns creadigol ‘DIY’ sy'n dod i'r amlwg heddiw - gan gyfuno ffilm archif â gwaith ieuenctid newydd, dangosiadau, trafodaethau, cerddoriaeth fyw a gweithgareddau cyfranogol.
Esbonia Rosemary Adjoa Dery, Cynhyrchydd Gŵyl Ffilm Watch Africa, sut y bydd eu prosiect 'Young, Black & Bold' yn galluogi lleisiau ifanc Du Cymru i lunio dyfodol diwylliant ffilm:
Mae creu mannau lle gall pobl greadigol ifanc Ddu ddod at ei gilydd, gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu ar y sgrin, rhannu syniadau ac archwilio eu creadigrwydd yn hynod o bwysig. Trwy'r rhaglen hon, rydym am wneud datganiad beiddgar: Mae straeon Du, lleisiau Du a chreadigrwydd Du yn bwysig yma yng Nghymru. Rydym yn perthyn i'r canolfannau diwylliannol hyn, a dylem deimlo ein bod wedi'n grymuso i gymryd ein lle ynddynt. Mae gweithio ochr yn ochr â sefydliadau o'r un anian, megis Pafiliwn Butetown a Charnifal Butetown yn ein galluogi i gysylltu gwahanol gymunedau, syniadau ac arferion creadigol, tra bydd ein partneriaeth â Chapter yn ein helpu i adeiladu pontydd at bobl nad oeddent efallai wedi teimlo o'r blaen bod canolfan gelfyddydau yn fan iddyn nhw.
Daw'r prosiectau ar adeg pan fydd cynulleidfaoedd Cymru yn cael cyfle i leisio’u barn, gan ddweud wrth Adran Diwylliant y Cyfryngau a Chwaraeon y Llywodraeth, yn union pa effaith y mae sinemâu yn ei chael ar eu bywydau drwy arolwg Achosion Da’r Loteri Genedlaethol: Ariannwch beth sy'n bwysig i chi , sydd ar agor tan 23 Medi 2026.
Cefnogir y prosiectau gan Ganolfan Ffilm Cymru, sy'n rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (RhCFf) sy'n dyrannu arian o gyllid Achosion Da'r Loteri Genedlaethol i sicrhau bod y dewis mwyaf posibl o sinema ar gael i bawb ledled y DU. Mae arian yng Nghymru yn cael ei weinyddu gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy Chapter fel Sefydliad Arweiniol y Ganolfan Ffilm.
Mae mwy na £30M yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU gan y Loteri Genedlaethol.