Gyda’ch cymorth chi, rydym ni wedi bod yn dathlu ffilmiau â chysylltiadau Cymreig ers 2014. Gyda chymorth ariannol gan Cymru Greadigol rydym yn archwilio dulliau newydd o ymgyrchoedd rhyddhau ffilmiau, pob un wedi’u cynllunio i ddod â chynulleidfaoedd i mewn i’r byd a llunio’r canfyddiad o fywyd a diwylliant Cymru yn gartrefol a thramor. Cymru Greadigol fe wnaethom archwilio dulliau newydd o ymgyrchoedd rhyddhau ffilmiau, pob un wedi’u cynllunio i ddod â ffilm Gymreig i gynulleidfaoedd a neges Cymru i’r byd, gan siapio’r canfyddiad o ddiwylliant Cymru gartref a thramor.
Dyma rai o’r pethau cyffrous a gyflawnwyd gyda’n gilydd dros y blynyddoedd.
Uchafbwyntiau Gwnaethpwyd yng Nghymru 2025/26
Gweler isod neu Lawrlwythiadau PDF.
Uchafbwyntiau'r Gorffennol
- Uchafbwyntiau Gwnaethpwyd yng Nghymru 2024/25
Mae eleni wedi bod yn flwyddyn fawr i ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig, gydag 20 o ffilmiau allweddol wedi’u rhyddhau gyda chefnogaeth gan y prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru (GyNg). O Oed Yr Addewid i On Becoming a Guinea Fowl, fe wnaethom ddatblygu asedau a oedd yn cynnwys cyfweliadau, erthyglau, datganiadau i'r wasg a phecynnau cefnogi, i gyd er mwyn dathlu ffilmiau Cymreig ar y sgrin fawr. - Uchafbwyntiau Gwnaethpwyd yng Nghymru 2023/24
Rydyn ni wedi bod yn brysur yn cynllunio eleni, gyda detholiad mawr o ffilmiau disgwyliedig yn cyrraedd ein sgriniau yn ystod Haf / Hydref 24/25. Tra’n bod ni wedi bod yn brysur yn cyfweld â thalent, yn cydweithio â dosbarthwyr ac yn rhannu rhag-ddangosiadau, cawsom gyfle i wylio’r dalent newydd, Carly-Sophia Davies, ar y sgrin fawr (The Eternal Daughter) ac fe aeth y clasur cwlt Twin Town Twin Town ar daith gyda’r cyfarwyddwr, Kevin Allen. Fe ddechreuon ni sianel newydd ar Instagram i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gynulleidfaoedd am ffilmiau newydd, gan lansio gyda chyfweliad arbennig ar gyfer The Almond and the Seahorse. - Uchafbwyntiau Gwnaethpwyd yng Nghymru 2022/23
It’s been a busy year for Gwnaethpwyd yng Nghymru! We saw international docs, features and two Welsh language films – with Y Sŵn playing in over 30 Welsh screens, following on the heels of critically acclaimed horror; Gwledd. We’ve been busy interviewing talent, sharing previews, writing articles, generating press and advising distributors on their Welsh release strategies. - Uchafbwyntiau Gwnaethpwyd yng Nghymru 2021/22
Gyda’ch cymorth chi, rydym ni wedi bod yn dathlu ffilmiau â chysylltiadau Cymreig ers 2014, ond 2021 yw ein blwyddyn brysuraf i Gwnaethpwyd yng Nghymru hyd yma. Gyda chymorth ariannol gan Cymru Greadigol rydym yn archwilio dulliau newydd o ymgyrchoedd rhyddhau ffilmiau, pob un wedi’u cynllunio i ddod â chynulleidfaoedd i mewn i’r byd a llunio’r canfyddiad o fywyd a diwylliant Cymru yn gartrefol a thramor.