Mae ein grŵp cynghori yn cynrychioli ystod eang o aelodau Canolfan Ffilm Cymru o fewn y sector diwylliannol ac arddangos.
Tae’r grŵp yn cynnwys amrywiaeth o gyrff yn cynrychioli canolfannau, addysg, treftadaeth, codi arian, cynhwysiant, rhaglennu (mewn ardaloedd gwledig a threfol), rheolaeth gwyliau, ymchwil cynulleidfa a datblygu.
Beth mae’r grŵp yn ei wneud:
- Gweithredu fel llysgennad i’r Ganolfan a chynrychioli amcanion aelodau Canolfan Ffilm Cymru.
- Cefnogi meini prawf eang a chynhwysol ar gyfer aelodaeth o CFfC.
- Cymeradwyo blaenoriaethau blynyddol ac arolygu strategaeth holl amcanion datblygu Canolfan Ffilm Cymru.
- Mynychu cyfarfodydd/ cynadleddau CFfC a chynnig cefnogaeth ac arbenigedd diwydiant (lle bo’n briodol i aelodau CFfC)
- Ystyried cyfleoedd datblygu strategol i alluogi CFFC ehangu ei gweithgareddau.
- Penderfynu ar aelodau o Is- bwyllgor CFfC.
- Mynychu is-bwyllgorau o’r grŵp cynghori yn ôl y galw/ ar gais rhesymol tîm rheoli CFfC


