23 Ebrill 2025
Mae sgan newydd o Oed Yr Addewid (Do Not Go Gentle), ffilm Gymraeg o’r flwyddyn 2000 a enillodd wobr BAFTA ac sy’n wleidyddol berthnasol heddiw, yn cael ei ail rhyddhau mewn sinemâu o fis Mawrth 2025.
Gan y Cyfarwyddwr o Gymru, Emlyn Williams, mae Oed yr Addewid wedi’i gosod yn 1997, gyda Phrydain yn cyrraedd trothwy gwleidyddol yn dilyn 18 mlynedd o reolaeth y Llywodraeth Geidwadol. Mae’r ffilm yn serennu rhai o fawrion byd actio Cymru, Stewart Jones, Arwel Gruffydd, Gwenno Elis Hodgkins a Gwyn Vaughan. Mae’n dilyn stori’r weddw William Davies, sosialydd a chwarelwr sydd wedi ymddeol. Mae e’n teimlo’n ddig ac yn chwerw tuag at lywodraeth sydd wedi anghofio amdano yn ei henaint, ac mae’n mynd ati i roi cynllun absẃrd a phenboeth ar waith. Pum mlynedd ar hugain ers ei rhyddhau, mae themâu’r ffilm – gofal cymdeithasol, heneiddio a’r wladwriaeth Brydeinig – yn berthnasol i gynulleidfaoedd hyd heddiw.
Dyma ymateb yr actor Arwel Gruffydd, sy’n chwarae rhan Alun yn y ffilm, i’r newyddion bod y ffilm yn cael ei hail ryddhau:
“Rydw i’n falch iawn bod Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Ffilm Cymru wedi cydweithio i greu argraffiad digidol newydd o Oed yr Addewid. Braint o’r mwyaf oedd chwarae rhan ganolog yn y ffilm hon 25 mlynedd yn ôl, ac mae gen i atgofion melys iawn o’r cyfnod, yn enwedig o gydweithio mor agos â’r diweddar Stewart Jones, actor gwych, heb ei ail.”
Mae Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Ffilm Cymru, fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI, wedi cydweithio i ddod â’r clasur Cymreig yn ôl i’r sgrin fawr, gyda lansiad yng Ngŵyl Ffilm Cwm Llynfi yn Neuadd y Dref Maesteg yn ystod mis Mawrth.
Cafodd y ffilm wreiddiol 35mm ei hail sganio i ansawdd 2K gan R3store Studios, ac yna’i hadfer yn ddigidol gan Gorilla Post Production a’i pharatoi ar gyfer dangosiadau yn y sinema. Gyda chefnogaeth gan Matchbox Cine, bydd isdeitlau disgrifiadol yn Saesneg a Chymraeg yn cael eu hychwanegu am y tro cyntaf hefyd, gan wneud y ffilm yn hygyrch i gynulleidfa fwy eang.
Esbonia Nia Edwards-Behi, Catalogydd Clyweledol Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Fe ystyrion ni sawl ffilm o’r archif ar gyfer y prosiect hwn. Fe ddewiswyd Oed yr Addewid gan ei fod yn ffilm apelgar sy’n parhau’n berthnasol – o ran ei themâu a’i stori – hyd heddiw. Mae’n enghraifft wych o ymateb artistig i wleidyddiaeth y dydd, ac mae hi’n werthfawr cael ail ymweld â’r ymateb hwnnw. Rydyn ni mor lwcus cael archif sy’n llawn gweithiau o’r fath, ac rwy’n mawr obeithio y cawn ragor o adnoddau i sicrhau mynediad atynt”
Dywedodd Hana Lewis, Pennaeth Canolfan Ffilm Cymru:
“Rydyn ni’n cydweithio’n aml gyda sinemâu a gwyliau yng Nghymru, er mwyn cynyddu mynediad i ffilmiau o gasgliad eang yr archif, ac fel rhan o’n prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru,sy’n dathlu ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig. Mae’r straeon hyn yn hanfodol i ddiwylliant Cymreig ar y sgrin, maent yn cynnig mewnwelediad i’n hanes a’n cymunedau, rhywbeth y gellir dadlau y mae angen yn gynyddol, pan ystyriwn ffilmiau am Gymru gyfoes. Yn anffodus, mae sawl rhwystr sy’n atal y ffilmiau hyn rhag cael eu gweld yn rheolaidd, er gwaetha awydd y gynulleidfa amdanynt. Gall hyn fod oherwydd bod yr hawlfraint wedi darfod, neu ddiffyg adnoddau i ddosbarthu’r ffilmiau’n effeithiol, neu’r cyllid i ddigido’r ffilmiau a chadw eu hansawdd. Dyma pam fod y prosiect hwn mor bwysig i ni. Mae’r gost yn uchel, felly fel sector mae gofyn i ni sicrhau bod mynediad i’r ffilmiau hyn a bod cynulleidfaoedd yn cael cyfle i’w mwynhau am flynyddoedd i ddod.”
Mae’r ffilm ar gael i sinemâu ei harchebu ar gyfer dangosiadau o ddiwedd fis Mawrth ymlaen, gyda dyddiadau dangosiadau ledled Cymru i’w cadarnhau.
Cefnogir y prosiect hwn gan Ganolfan Ffilm Cymru, sy’n rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (RhCFf), sy’n bosib diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol, sy’n sicrhau bod yr ystod fwyaf eang o ffilmiau ar gael i bawb ledled y DU. Mae cronfeydd yng Nghymru’n cael eu gweinyddu gan GFfC drwy Chapter, fel Sefydliad Arweiniol y Ganolfan Ffilm.
Caiff dros £30M ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ar draws y DU gan y Loteri Genedlaethol.