Dydd Mawrth 24ain Hydref, 2022
Gyda chefnogaeth Canolfan Ffilm Cymru fe fydd sinemau ar draws Cymru yn archwilio hud oesol Cymru ar sgrin y gaeaf yma gan gyflwyno hud, ysbrydion a chwedlau i gynulleidfaoedd Cymru, drwy dymor o ffilmiau a digwyddiadau am ddewiniaeth Cymru.
Fel rhan o'u 'Galwch Heibio Cymunedol' fe fydd Canolfan Gelfyddydau Wyeside yn cynnal dangosiad o Annwn ac yna trafodaeth Gwrachod Heddiw ar y Wrach Gymreig fodern. Gall cynulleidfaoedd alw heibio unwaith eto ar y 23ain ar gyfer recordiad o'r ail drafodaeth, dan arweiniad Off Y Grid, y cyfan am hanes ehangach menywod fel gwrachod yn y sinema.
Fe fydd Off Y Grid, rhwydwaith o saith o leoliadau ar draws gogledd Cymru (yn cynnwys Pontio) sydd yn cydweithio i gyflwyno‘r gorau o sinema annibynnol Prydeinig a rhyngwladol i gynulleidfaoedd Cymru, yn cynnal ail bodlediad byw am sinema arswyd a Gwrachod gyda dangosiad o ffilm arswyd arbrofol Gaspar Noe, Lux Aeterna.
Caiff y ddau ddigwyddiad eu recordio yn fyw ac ar gael i sinemau ar draws Cymru gyda chefnogaeth cyllid gan linyn Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru, sydd yn dathlu ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig. Gall cynulleidfaoedd fwynhau cyfres o ffilmiau ar thema gwrachod yn eu sinema leol, fel Gwledd, St Maud ac I am not a Witch, Rungano Nyoni sydd yn 5 oed ym mis Hydref.
Yng Nghymru cafodd pump o bobl eu lladd am ‘droseddau’ dewiniaeth. Gan dynnu ar wreiddiau Celtaidd a chysylltiadau dwfn gyda’r amgylchedd, roedd ‘defodau’, ‘gweddiau’, ‘bendithion’ ac arferion ysbrydol crefyddol heb fod yn Gristnogol yn gyfarwydd i’r Cymry oedd yn ymarfer dewiniaeth yn y cyfnod hwnnw, roedd yn hawdd gwahaniaethu gwir ddewiniaeth gyda’r cyhuddiadau. Yn y canrifoedd i ddilyn, roedd Cristnogaeth a deddfau llymach ynghylch siarad Cymraeg wedi rhoi pwysau ar genedlaethau i ildio rhagor o’u treftadaeth diwylliannol a diflannodd arferion dewiniaeth, yn araf.
Mae Radha Patel, Swyddog Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru yn esbonio pam bod y Ganolfan yn annog cynulleidfaoedd i ddysgu am hanes dewiniaeth:
“Heddiw, mae cenhedlaeth newydd o wrachod Cymreig ifanc yn ymddangos ac yn edrych eto ar eu harferion a’u treftadaeth diwylliannol. Fe wnaeth cysylltiad ysbrydol unigryw Cymru gyda’r tir, cymdeithas gymunedol a synnwyr cyffredin achub miloedd o fenywod rhag cael eu lladd oherwydd ofergoeliaeth. Yn y dyfodol pa adegau newid bywyd allai gael eu hysbrydoli gan yr adferiad newydd yma mewn ysbrydolrwydd Celtaidd? Credwn y gall ffilm ein helpu i archwilio ac ateb y cwestiynau hyn.”
Mae Emyr Williams, Cydlynydd Sinema yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontio yn ychwanegu:
''Dydy sinema arswyd ddim wedi ei fwriadu i chi ei wylio ar eich pen eich hun – mae profiad cymunedol o arswyd yn rhywbeth rydym yn ceisio ei gynnig i’n cynulleidfaoedd. Mae ein penwythnos ar thema Gwrachod yn Pontio yn rho[‘r cyfle inni ddangos ffilmiau arswyd gwych ac ymgysylltu yn uniongyrchol gyda diddordebau ein cynulleidfa, drwy recordio dau bodlediad dwyieithog gerbron cynulleidfa fyw. Rydym wedi gwahodd arbenigwyr i drafod Dewiniaeth yn ei holl ffurfiau, o gwestiynu cynrychiolaeth sinematig a stereoteipio rhyw i ailedrych ar fytholeg a hanes cymdeithasol Cymru yn ogystal â dychmygu sut mae Gwrachod yn addasu i’r oes ddigidol.''
Dywedodd Ffion Pritchard, Cyfarwyddwraig ‘Annwn’:
Roedd “‘Gwrach’ ar un adeg yn ddedfryd o farwolaeth i fenywod y tu allan i’r normau cymdeithasol – menywod anabl, menywod sengl, menywod di-blant. Nawr mae cymaint ohonom yn troi at ein draddodiadau. Mae’r ffilmiau a’r sgyrsiau yma yn profi nad ydy’r profiadau yma yn brin ac yn rhan o fudiad ehangach o adennill benywdod a threftadaeth mewn cyd-destunau artistig ac ysbrydol mewn cyfnod diwylliannol cyffrous i Gymru. Mae’r straeon yma yn haeddu cael eu gweld a’u hadrodd o’r newydd. Mae mawredd gweledol yr hen chwedlau yn haeddu profiad sgrin fawr – lle gwell i ailddyfeisio hen chwedlau nag yn eich sinema leol?”
Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn cynnig llu o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn mewn partneriaeth gydag arddangoswyr Cymreig, yn cynnwys catalog ffilmiau gyda 600 o ffilmiau byr a hir gyda chysylltiadau Cymreig.
Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn derbyn cyllid gan Creative Wales a chyllid y Loteri Cenedlaethol drwy Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI DU gyfan. Fel rhan o FAN, mae Canolfan Ffilm Cymru yn datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol Prydeinig a rhyngwladol drwy gydol y flwyddyn. Gweninyddir cyllid yng Nghymru gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy Chapter fel y Corff Arweiniol Canolfannau Ffilm.
Caiff dros £30M ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ar draws y DU gan y Loteri Genedlaethol.
-DIWEDD-