10fed Tachwedd 2021
Mewn neuaddau pentref, llyfrgelloedd, canolfannau celfyddydau gwledig a gofod cymunedau trefol ar draws Cymru, mae digwyddiadau sinema cymunedol a gwirfoddol yn ailuno pobl leol yn ddiogel drwy brofiadau’r sgrin fawr.
Yn aml mae’r 120 a rhagor o grwpiau sinemau cymunedol yng Nghymru yn achubiaeth i gynulledifaoedd sydd yn gorfod teithio dros hanner awr yn y car, neu bellteroedd hirach ar drafnidiaeth cyhoeddus, i gyrraedd eu sinemau amlbleth neu ganolfan gelffyddydau lleol.
I gefnogi’r gwasanaethau cymunedol hanfodol yma mae Canolfan Ffilm Cymru (FHW) yn gweithio gyda lleoliadau i gynnig cymorth rhaglennu a marchnata. Maen nhw hefyd wedi awarded a series of small grants dyfarnu cyfres o grantiau bychain drwy Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI (FAN) gan ddyfarnu cyllid y Loteri Cenedlaethol i gymunedau cymunedol yng Nghymru a chymdeithasau ffilm wrth iddyn nhw ailagor yn dilyn COVID-19.
Defnyddir yr arian i helpu i gylfwyno’r ffilmiau DU a rhyngwladol gorau i bobl leol, mewn sinemau cymunedol y maen nhw’n eu hadnabod ac yn eu caru, gan gynnwys llu o ffilmiau o Gymru. Fe fydd arddangoswyr yn cefnogi llesiant ac yn lleihau ynysigrwydd a grewyd gan y pandemig, yn enwedig i aelodau hŷn cymunedau sydd wedi teimlo’n llai hyderus i ddychwelyd i ddigwyddiadau cyhoeddus. Bydd sinemâu cymunedol, a fydd hefyd yn cael eu heffeithio gan reoliadau pasio COVID newydd yng Nghymru, yr un mor ddibynnol ar gefnogaeth ac amynedd cynulleidfaoedd yn ystod y misoedd nesaf wrth iddynt ailadeiladu.
Ym mhentref Brynaman ar ochr ddeheuol y Mynydd Du, mae’r Sinema Neuadd Gyhoeddus yn rhedeg tymor o ffimliau Cymreig gan alluogi eu cynulleidfaoedd i gysylltu gyda’r straeon ar y sgrin.
Mae Tom Smith y Rheolwr Cyffredinol yn esbonio:
Mae ein sinema mewn ardal wledig incwm isel ac i fwyafrif ein cwsmeriaid dyma’r unig leoliad maen nhw’n gallu mynd iddo yn rheolaidd i gael adloniant. Rydym yn bwriadu dangos ffilmiau a ffilmiwyd neu a osodwyd yng Nghymru gyda straeon perthnasol sydd yn agos i gartref ac yn berthynol i’n cynulleidfa, yn enwedi ein grŵp teyrngar dros 60 oed sydd yn mynychu ein Cyflwyniadau Sgrin Arian. Rydym yn edrych ymlaen at gael cyflwyno ffilmiau annibynnol i’n holl gwsmeriaid sydd heb gael y cyfle efallai i weld ffilmiau annibynnol yn y sinema o’r blaen.
Yn Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin mae Sinema Sadwrn yn dangos ffilmiau annibynnol Prydeinig a rhyngwladol bob mis.
Dywedodd gwirfoddolwraig Sinema Sadwrn Mair Craig:
Rydym yn edrych ymlaen at ailagor, gyda chyfyngiadau COVID, fel bod pobl yn gallu dod at ei gilydd i fwynhau rhannu profiad. Rydym wedi’n lleoli mewn pentref gwledig yn Sir Gaerfyrddin ac rydym wedi colli digwyddiadau cymunedol dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf. Ystafell Ddarllen glyd ydy ein lleoliad ac mae ein dangosiadau yn ffordd o gyflwyno’r gymuned yn ddiogel yn ôl i ddigwyddiadau cymdeithasol rheolaidd. Rydym yn hynod o ddiolchgar am gefnogaeth Canolfan Ffilm Cymru.
Fe fydd digwyddiadau gyda chefnogaeth yn cael eu cynnal ar draws Cymru o nawr tan Mawrth 2022 wrth i’r sinemau weithio’n agos gyda’u cynulleidfaoedd i gasglu adborth ac addasu i anghenion lleol. Dywedodd Hana Lewis, Rheolwraig Strategol Canolfan Ffilm Cymru:
Mae lleoliadau heb fod yn theatrau sydd yn dangos o DVD neu Blu-Ray, lleoliadau llai mewn lleoliadau trefol wedi parhau ar gau am gyfnodau hir yn ystod COVID. Mae nifer yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr gweithgar ac heb gyllid na staff i barhau ar agor. Mae colled ar eu holau ac roeddem eisiau cefnogi a dathlu eu dychweliad. Maen nhw’n cynnig amrediad eang o ffilmiau na fyddai cynulleidfaoedd lleol yn gallu eu gweld fel arall ac maen nhw’n aml yn gartref i amrediad o wasanaethau cymunedol ychwanegol, hanfodol.
Mae Cronfa Arddangos Ffilmiau FAN BFI yn bosibl diolch i gyllid y Loteri Cenedlaethol gan Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI (FAN. Mae’r gronfa yn cynnig cymorth i arddangoswyr ailagor ar draws y DU, i hybu rhaglennu diwylliannol ac i ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd amrywiol wrth i gyfyngiadau lacio. Gweinyddir y cyllid yng Nghymru gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy Chapter fel y Corff Arweiniol Canolfannau Ffilm.
Caiff dros £30M ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ar draws y DU gan y Loteri Genedlaethol.
Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma.
-DIWEDD-