6 Ionawr 2026
O fywyd ym Mlaenau Ffestiniog drwy lygaid Effi, i ddigwyddiad arallfydol ‘Roswelsh’ mewn tref glan-môr yng Nghymru, mae llu o straeon newydd ar y ffordd i sinemâu yn 2026.
Ewch ar siwrnai o hunan-ddarganfyddiad eleni a chysylltwch â chymeriadau gwahanol - o dref dur Port Talbot i weithwyr gwelyau cregyn gleision Ynys Môn. Darganfyddwch ffilmiau twymgalon, ffilmiau dogfen ysgytiol, yn ogystal â thamaid o ddial, anrhefn a mwy - â’r cyfan yn gysylltiedig i Gymru - o’r lleoliadau, i’r cast a’r talentau y tu ôl i’r camera.
Bydd y flwyddyn yn dechrau gyda rhyddhau’r ddrama fywgraffiadol H is for Hawk, (23 Ionawr), ffilm a gynhyrchwyd gan John Giwa-Amu o Gaerdydd (The Man in My Basement). Mae’r ffilm yn adrodd stori wir Helen Macdonald (Claire Foy), menyw sy’n galaru am ei thad (Brendan Gleeson) sy’n dod o hyd i gysur yn ei chyfeillgarwch â gwyddwalch ystyfnig o’r enw Mabel.
Mae Joedi Langley, Pennaeth dros dro Cymru Greadigol yn edrych yn ôl ar ffilmiau Cymreig o 2025 ac ymlaen i’r gefnogaeth sydd i ddod yn 2026:
‘Mae 2025 wedi bod yn flwyddyn anhygoel i ffilmiau a grëwyd yng Nghymru. O stori tarddiad Richard Burton yn cyrraedd y byd drwy’r ffilm Mr Burton, i ddangos The Man in My Basement yng Ngŵyl Ffilmiau Toronto, a ffilm Brides yn cael ei henwebu ar gyfer gwobr gŵyl Sundance, i enwi ond ychydig esiamplau. Mae’r flwyddyn nesaf yn argoeli’n gyffrous iawn hefyd, gan ddechrau gyda rhyddhau’r ffilm hyfryd H is for Hawk ym mis Ionawr, yn ogystal â stori wir 5ed Ardalydd Ynys Môn, Henry Paget, yn y ffilm Madfabulous, a’r ffilm Gymraeg Effi o Blaenau a gyllidwyd ar y cyd gan Gymru Greadigol a S4C, sydd wrthi’n gorffen trefnu dangosiadau mewn gwyliau ffilmiau ar hyn o bryd. Mae Cymru Greadigol wedi ymrwymo i roi’r gefnogaeth hanfodol y mae ei hangen i’r sector hon sy’n tyfu. A hynny er mwyn iddo barhau i ffynnu drwy gyllid a drwy gysylltu gweithwyr creadigol o fewn y diwydiant gyda rhaglenni er mwyn sicrhau bod gan ffilmiau Cymreig y platfform i gael eu mwynhau gan gynulleidfaoedd yma yng Nghymru ac o amgylch y byd.’
lleoli neu sy’n gysylltiedig ag Ynys Môn. Yn gyntaf mae On the Sea ffilm sy’n dilyn Jack a’i deulu wrth iddynt gribinio gwelyau cregyn gleision â llaw. Yn y gymuned wledig, anghysbell yma, ble mae bywyd yn ymwneud yn llwyr â physgota a’r Eglwys, mae Jack yn cwympo mewn cariad â’r gweithiwr teithiol, Daniel. Mae gennym hefyd Madfabulous gan gwmni cynhyrchu Gogledd Cymru, Mad as Birds - ffilm y mae edrych ymlaen yn fawr amdani. Mae'r ffilm yn dangos bywyd y 5ed Ardalydd rhyfeddol ecsentrig Henry Cyril Paget. Wedi'i ffilmio ar leoliad ar Ynys Môn, yn ogystal â Chaernarfon a Phwllheli, mae'r ffilm yn serennu'r actor o Gymru, Callum Scott Howells, ochr yn ochr â Rupert Everett a Siobhán McSweeney. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Celyn Jones sy’n dod o Ynys Môn. Ac yn olaf, Black Church Bay, ffilm iasol a ffilmiwyd ar Ynys Môn gan y cyfarwyddwr o Gymru / Iwerddon, Rhys Marc Jones, gyda'r actor o Gymru, Tom Cullen, yn serennu. Mae bywyd athro uchel ei barch yn datod yn llwyr pan fydd y myfyriwr chweched dosbarth y mae mewn perthynas gyfrinachol ag ef, yn diflannu mewn pentref arfordirol anghysbell.
Mae’r actor a’r cyfarwyddwr Celyn Jones, a fu’n rhan o’r tri chynhyrchiad, yn dathlu’r foment yma i Ynys Môn ar y sgrin fawr:
Tair ffilm - pob un wedi’i chreu yn Ynys Môn a phob un yn wahanol ac wedi’i chreu’n fwriadol ar gyfer y sgrin fawr. O ddrama hyfryd a theimladwy Helen Walsh (On the Sea) am gariad ym mhob ffurf, i raddfa, harddwch, emosiwn a thorcalon fy llythyr cariad i’m cartref (Madfabulous) a sgript dywyll a hanfodol Black Church Bay. Mae’n ymwneud â’r eiliadau hynny pan ddaw pobl at ei gilydd i greu rhywbeth. Mae’n ymwneud â’r cysylltiad dynol yn y broses o greu ffilmiau. Mae’n ddiwydiant hyfyw sydd â digon o le i bawb sydd am ymuno - mae sedd wrth y bwrdd i bawb... mae sedd wrth y bwrdd i Ynys Môn! Dyma pam na wnâi fyth stopio cymeradwyo a gwthio a chreu gwaith sydd ag Ynys Môn wrth galon y cyfan.
Wrth deithio draw i Flaenau Ffestiniog, rydym yn cyfarfod Effi o Blaenau. Gyda Leisa Gwenllian yn serennu a Marc Evans (Mr Burton) yn cyfarwyddo, mae hwn yn addasiad ar gyfer y sgrin fawr o glasur modern Gary Owen - y ddrama Gymreig Iphigenia in Splott. Yn ymdopi â’i bywyd beunyddiol o ddiweithdra, clybiau nos a dioddef gyda phen mawr, mae Effi yn cwrdd ar hap â’r milwr Lee sydd wedi’i anafu, a hynny mewn clwb nos yn Llandudno, gan agor y drws i rywbeth gwell. Am eiliad mae Effi’n cael cipolwg ar fywyd nad oedd hi erioed wedi’i ddychmygu. Mae’r realiti sy’n dilyn yn llawer anoddach.
I'r rheiny sy’n hoff o ffilmiau arswyd amgylcheddol, mae ffilm hir ddisgwyliedig y cyfarwyddwr o Gymru Craig Roberts The Scurry. Wedi’i ffilmio yn Stiwdio’r Ddraig, Pen-y-bont, ac yn serennu Rhys Ifans ac Ella Purnell, dyma stori am ddau reolwr plâu sy'n dod ar draws llu o wiwerod gwallgof sy’n dial ar y staff a'r ymwelwyr mewn parc eco-wledig. I'r rheiny sy'n hoffi eu ffilmiau brawychus yn fwy melodig, mae Stuffed, sioe gerdd-arswyd-rhamant newydd wreiddiol a ffilmiwyd yn Ne Cymru gyda Jodie Comer yn serennu fel tacsidermydd synfyfyriol sydd a’i phryd ar stwffio sbesimen dynol. Ac o safbwynt arswyd llên gwerin Cymreig fwy chwedlonol, mae Rabbit Trap, ar y gorwel (dyddiad rhyddhau 30 Ionawr). Wedi'i gosod yn y 1970au, mae'n dilyn cwpl priod (Dev Patel a Rose McEwen) sy'n symud i gaban ynysig yng Nghymru lle maent yn tarfu ar gylch tylwyth teg yn ddamweiniol. Daw plentyn dirgel i’w gweld, ac mae’n dod yn amlwg nad oes ganddo fwriad da.
Ar gyfer taith sinema i’r teulu cyfan, mae Out There yn argoeli’n ffilm comedi wyddonias dwymgalon. Mae’r gofodwr amatur, Maz, yn gweld UFO yn yr awyr uwchben ei thref glan môr tawel. Gan lusgo ei ffrind gorau amheus, Cari, yn ogystal ag iwffolegydd gwallgof, Michael Sheen, mae Maz yn datgelu gwirionedd nad yw'n barod i'w wynebu. Mae Learning to Breathe Underwater yn ddrama gomedi newydd, a gyd-gynhyrchwyd gan One Wave Films o Gaerdydd (Still Pushing Pineapples), am Leo, breuddwydiwr wyth oed, sy'n byw gyda'i dad ecsentrig. Mae bywyd Leo yn cael ei newid yn sydyn dros nos, gan ddyfodiad Anya, ‘au pair’ fywiog o Fwlgaria.
I'r rhai sy'n hoff o ffilmiau dogfen, mae 2026 yn addo straeon ffeithiol hynod ddiddorol gan ddau gynhyrchydd blaenllaw o Gymru. Mae Smoking Shores, gan Dewi Gregory o Truth Department a'r cynhyrchydd gweithredol Michael Sheen, yn cyflwyno cymuned syrffio Port Talbot. Ac mae'r cynhyrchydd o Gymru Rob Alexander yn dilyn yr actor/ysgrifennwr anabl David Proud yn y ffilm Proud. Mae David yn dyheu am deulu, ond mae'r technegau ffrwythlondeb sydd eu hangen arno wedi'u cynllunio i greu "plant iach" a sgrinio a gwrthod pobl anabl fel ef. Beth mae hyn yn ei olygu i bobl fel David, sydd o bosibl yn wynebu eu 'difodiant' eu hunain?
Gyda hyd yn oed mwy o ffilmiau i ddod, megis archwiliad pync o'r seice yn y ffilm wefreiddiol Mission, i frwydr un fam yn erbyn drygioni yn Unspeakable, mae digon o ddewis ar y gorwel.
Mae Hana Lewis, Pennaeth Canolfan Ffilm Cymru yn esbonio pam fod prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru yn cefnogi ymgyrchoedd megis y rhain:
Rydym yn gwybod ei bod yn bwysig i sinemâu Cymru a'u cynulleidfaoedd allu cysylltu â straeon sy'n adlewyrchu eu bywydau, eu cymunedau a'u hiaith, yn ogystal â ffilmiau gan storïwyr Cymreig sy'n dod â'r byd rhyngwladol at eu stepen drws yng Nghymru. Ein nod yw helpu'r straeon hynny i gyrraedd pobl, yn ddelfrydol mewn lleoliad sinema cyfunol, gan sicrhau bod ffilm sy’n cael ei chreu hefyd yn cael ei gweld.
Mae prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru (GYNg) Canolfan Ffilm Cymru yn dathlu ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig. Mae’n cynnig gweithgareddau ar hyd y flwyddyn mewn partneriaeth ag arddangoswyr yng Nghymru, gan gynnwys catalog ffilmiau, sy’n gartref i dros 1000 o ffilmiau hir a byr a phodlediad Gwnaethpwyd yng Nghymru. Gall cynulleidfaoedd dderbyn y newyddion diweddaraf ynglŷn â ffilmiau Cymreig newydd a’r cyfweliadau diweddaraf drwy ddilyn Gwnaethpwyd Yng Nghymru ar Instagram, Facebook, TikTok, the podlediad Gwnaethpwyd yng Nghymru, YouTube a Letterboxd.
Mae GYNg yn bosib drwy gyllid Cymru Greadigol a Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (RhCFf) y BFI. Mae RhCFf y BFI yn cynnig cefnogaeth i arddangoswyr ledled y DU, er mwyn hybu rhaglennu diwylliannol ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol. Yng Nghymru, arweinir y gweithgarwch gan Ganolfan Ffilm Cymru, dan reolaeth Chapter.
Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma
- DIWEDD -