23 Gorffennaf 2024
Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) wedi rhoi dros £100,000 o gyllid Loteri Genedlaethol y BFI i 19 o sinemâu annibynnol a gwyliau ffilmiau yng Nghymru drwy ei Chronfa Arddangos Ffilm.
Bydd yr arian yn galluogi cynulleidfaoedd yng Nghymru i wylio’r ffilmiau annibynnol diweddaraf o’r DU a ffilmiau rhyngwladol yn eu cymunedau lleol, am bris fforddiadwy. O ddangosiadau ymlaciedig, ffilmiau i’r teulu, llinynnau eco a’r ffilmiau Cymreig diweddaraf, mae digon o ddewis.
Bydd cynulleidfaoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Blaenau Ffestiniog yn cael gwylio’r ffilmiau mewn safleoedd sinema newydd a chyffrous. Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn lansio Prosiect Sinema Cwm Llynfi yn Neuadd y Dref Maesteg, yn dilyn adnewyddiad werth miliynau o bunnoedd. Yn Cellb, bydd ‘Sgrin Emyr Ankst’ yn agor er cof am Emyr Glyn Williams – arloeswr cerddoriaeth a sinema Gymreig – bydd ei gyfraniad yn parhau i ysbrydoli pobl ifanc Cymru am flynyddoedd lawer.
Esbonia Rhys Roberts o Cellb bwysigrwydd eu sgrin newydd i’r gymuned:
Mae Cellb wedi’i leoli yng nghanol tref Blaenau Ffestiniog, lleoliad mynyddig islaw chwareli Stiniog, gyda’i hanes cyfoethog yn niwydiant, treftadaeth a diwylliant. Dyma oedd lleoliad y ffilm gyntaf yn y Gymraeg, Y Chwarelwr, ffilm bwysig sy’n adlewyrchu bywydau’r chwarelwyr lleol yn y gymuned. Roedd diwylliant hanesyddol a’r Gymraeg yn holl bwysig i’w ddynameg gymdeithasol a diwylliannol.
Heddiw, teimlwn ei bod hi’n bwysig dathlu ac addysgu ein pobl ifanc am arwyr cyfoes fel Emyr, a gyda hyn ar flaen ein meddyliau yr ydym yn dymuno cyflwyno ein Sgrin 1 yn ei enw. Mae angen modelau rôl ar bobl ifanc – unigolion sydd wedi llewyrchu yn y celfyddydau a diwylliant, ac mae Emyr yn esiampl arbennig o fachgen ifanc a anelodd yn uchel a gafodd effaith enfawr ar ddiwylliant Cymreig. Mae hwn i ti, Emyr, rwyt ti wedi’n hysbrydoli ni ac fe gadwn dy fflam ynghyn i’r bobl am flynyddoedd i ddod. Diolch Emyr, Caru chdi.
Yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau, maent yn adeiladu cysylltiadau gyda’u cynulleidfaoedd a’u partneriaid lleol, gan archwilio themâu byd-eang hunaniaeth groestoriadol, a hynny drwy eu rhaglen o ffilmiau. Maent yn agor yr adeilad i gymunedau newydd drwy ddathlu dyddiadau ymwybyddiaeth o bwys megis Hanes Mis Pobl Ddu, Mis Hanes LGBTQIA+ a Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau.
Esbonia Chelseyy Gillard, Cyfarwyddwr Artistig,Theatr y Torch:
Rydyn ni wrth ein boddau’n cydweithio â Chanolfan Ffilm Cymru i gyflwyno cyfres o dymhorau sinema sy’n dathlu, ar draws chwe mis. Bydd y cyllid yn ein caniatáu ni i adeiladu perthynas gyda’n cymunedau a darganfod beth mae pobl am ei weld yn eu sinema leol, gan lywio ein cynaliadwyedd tymor hir. Drwy gydweithio â phartneriaid ledled Cymru sy’n dod â chyfoeth o brofiadau bywyd, byddwn yn gallu dangos amrywiaeth fwy eang o ffilmiau a hwyluso digwyddiadau ar ôl y dangosiadau y gobeithiwn y bydd yn cefnogi trafodaeth, myfyrdod a chysylltiad.
Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill mae digwyddiadau dan arweiniad pobl ifanc yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin yn Abertawe a Theatr Gwaun, Abergwaun; dangos gwaith gwneuthurwyr ffilmiau niwrowahanol yng Ngŵyl Undod Hijinx a drwy linyn Lleisiau Gwahanol Gŵyl Animeiddio Caerdydd; yn ogystal â llinyn natur/ecoleg o fewn arswyd yng Ngŵyl Ffilmiau Arswyd Abertoir – megis parasitiaid ffiaidd go iawn a ‘natur yn ymladd yn ôl’.
Dywedodd Hana Lewis, Pennaeth Canolfan Ffilm Cymru:
Mae’r gronfa wedi’i chynllunio i helpu sinemâu, gwyliau a sgriniau cymunedol ddod â’r gorau o ffilmiau annibynnol y DU a ffilmiau rhyngwladol i gynulleidfaoedd Cymru, mewn ffyrdd fforddiadwy a hygyrch. Mae gymaint i edrych ymlaen ato eleni, a does dim posib i gymunedau gael yr un wefr o wylio ffilm gartref. Drwy fynd i’w sinema leol, maent yn rhan o rywbeth mwy yn eu cymuned, a gyda llu o weithgareddau eraill ar gael, mae cynulleidfaoedd yn cael noson mas am bris eu tocyn sinema.
Cefnogir y prosiectau gan Ganolfan Ffilm Cymru, sy’n rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (FAN), gan ddefnyddio cyllid gan y Loteri Genedlaethol i sicrhau bod y dewis gorau o sinema ar gael i bawb ledled y DU. Mae cronfeydd yng Nghymru’n cael eu gweinyddu gan GFfC drwy Chapter, fel Sefydliad Arweiniol y Ganolfan Ffilm.
Caiff dros £30M ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ar draws y DU gan y Loteri Genedlaethol.
Diwedd.
Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma