Rydyn ni’n creu amser i siarad am ffilmiau!

Rydyn ni’n creu amser i siarad am ffilmiau! Ymunwch â ni ar-lein ar gyfer ein cyfarfod rhaglennu chwarterol cyntaf. Byddwn yn trafod detholiad o’r ffilmiau Prydeinig annibynnol a ffilmiau rhyngwladol newydd gorau ac yn croesawu’r curadur Rachel Pronger. Bydd awgrymiadau ffilm ar gyfer eich rhaglen sydd i ddod, a chael amser i sgwrsio gyda chyfoedion am y ffilmiau rydych chi’n edrych ymlaen at eu gweld a darganfod ffilmiau y byddech fel arall yn eu colli. Byddwn hefyd yn trafod sut i raglennu a marchnata’r ffilmiau.

Bydd y sesiynau hyn yn rhedeg bob chwarter i'ch cefnogi gyda datblygiad cynulleidfa gydol y flwyddyn. Mae croeso i arddangoswyr o bob math – byddwn yn archwilio’r ffordd orau o wneud y sesiynau’n ddefnyddiol i bawb.

Ynglŷn â Rachel:

Mae Rachel Pronger yn guradur, ysgrifennwr ac ymgynghorydd rhaglen. Cychwynnodd ei gyrfa yn gweithio ym maes cyfathrebu i Ŵyl Ffilmiau Llundain y BFI, Picturehouse Cinemas a Chanolfan Ffilm yr Alban, cyn symud i faes rhaglennu yn Alchemy Film & Arts, Tyneside Cinema, Sheffield DocFest ac Aesthetica Short Film Festival. Fel cyd-sylfaenydd cymundod ffilm ffeminist Invisible Women, mae Rachel wedi cyd-guradu rhaglenni a chynnal digwyddiadau ar gyfer partneriaid megis BFI Southbank, Cinema Rediscovered, Eye Filmmuseum Amsterdam, BalkanCanKino Athens, HOME Manceinion a Glasgow Film Theatre. Mae ei gwaith ysgrifenedig am ffilm wedi cael ei gyhoeddi gan gwmnïau megis Sight & Sound, The Guardian, MUBI Notebook, Little White Lies a BBC Culture. Mae hi hefyd yn rheolaidd yn cadeirio sesiynau holi ac ateb, paneli a gweithdai sy’n ffocysu ar ffeministiaeth, archifo a hanes ffilm.

Digwyddiadau i Ddod...

Archebwch eich lle (Hydref)

Pryd: Dydd Iau 15 Hydref 2026, 10am-12pm
Ble: Ar-lein (Zoom)

 

Archebwch eich lle (Ionawr)

Pryd: Dydd Iau 14 Ionawr 2027, 10am-12pm
Ble: Ar-lein (Zoom)

Efallai yr hoffech chi hefyd...

CY
Film Hub Wales | Canolfan Ffilm Cymru
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.