Bob blwyddyn mae Canolfan Ffilm Cymru yn uno gyda Flicks in the Sticks a Moviola i ddod â sinemau cymunedol gwledig Cymru at ei gilydd am ddigwyddiad hyfforddiant undydd a rhwydweithio yn ystod Gŵyl Ffilm Borderlines.
Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf ar Mawrth 13 2016 yn Neuadd y Plwyf, Gelli Gandryll, ynghyd â Sinema i Bawb.
Roedd y sesiynau’n cynnwys:
- Cael y gorau allan o’ch offer sain ac acwstig (her gyffredin i arddangoswyr cymunedol a chymdeithasau ffilm) a chynghorion ar daflunio.
- Beth sydd yn cyfrif fwyaf i arddangoswyr ffilm gwledig yng Nghymru? Rhwydweithio a thrafod. Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Cynhaliwyd yr ail ddigwyddiad ar 26 Chwefror 2017 yn Bookshop Sinema Richard Booth yn Gelli Gandryll.
Roedd y sesiynau’n cynnwys:
- Marchnata arloesol gyda Rachael Castell
- Cyfryngau Cymdeithasol yn y Gymru Wledig gydag Off y Grid
- Ymgysylltu gyda’r sector gwirfoddol a chynulleidfaoedd ifanc gyda WCVA
- Sinema Cymunedol a Chymdeithas Ffilm – dal i fyny
Dysgwch ragor yma.
Cynhaliwyd y trydydd digwyddiad ar 3 Mawrth 2018 yn Bookshop Sinema Richard Booth yn Gelli Gandryll.
Roedd y sesiynau’n cynnwys:
- Panel rhaglenwyr ifanc a gweithwyr proffesiynol yn y sinema
- Gweithdy rhyngweithiol cynulleidfa ifanc gan Media Active.
- Sinema Cymunedol a Chymdeithas Ffim – dal i fyny dan gadeiryddiaeth Moviola
Dysgwch ragor yma.
Cynhaliwyd y pedwerydd digwyddiad yn Sinema Cymunedol Knighton.
Roedd y sesiynau’n cynnwys:
- Technolegau newydd gyda Roger Castles, Flicks in the Sticks
- Sesiwn rhaglennu rhyngweithiol gyda Neil Ramjee Moviola yn edrych ar y dangosiadau mwyaf a lleiaf llwyddiannus i gynulleidfaoedd cymunedol eleni, enghreifftiau lle mae cymryd risg wedi gweithio a sut i gynllunio ymlaen h.y. cael gafael ar y teitlau hynny sydd yn anodd i’r darganfod, delio gyda thystysgrifau a thrwy pwy rydyn nin archebu
- Cynlluniau yn y dyfodol ar gyfer ffilmiau heb fod yn theatrig gyda Chanolfan Ffilm Gogledd Iwerddon
Os oes pynciau yr hoffech eu harchwilio mewn sesiynau yn y dyfodol, cysylltwch gyda ni os gwelwch yn dda yma.
We hope to organise another event soon, keep an eye out in our newsletters and social media channels.