Gogledd Orllewin Cymru
Cellb (Blaenau Ffestiniog)
Gyda biliau ynni wedi cynyddu o 700% yn y chwarter diwethaf, mae’r ganolfan, sydd dan arweiniad pobl ifanc, yn gweithio’n greadigol i barhau i ddarparu adloniant sinematig gyfoes y mae’r gymuned leol yn ei fwynhau, a hynny am bris fforddiadwy. Maent wrthi’n ailddatblygu eu Clwb Ffilmiau Blaenau Vista a gychwynnodd yn 2014, gyda dangosiadau a sesiynau holi ac ateb arbenigol megis Enys Men gyda thrafodaeth am ffilmiau Super 8 gyda Clare Marie Bailey (YNYS MON). Byddant yn dangos Y Sŵn , ffilm a wnaed yng Nghymru, ar y 10fed o Fawrth, i ddathlu pen-blwydd Cellb yned gyda sesiwn holi ac ateb gyda’r Cyfarwyddwr Roger WilliamsGwledd). Bydd hefyd dangosiad i ysgolion, ynghyd â sesiwn holi ac ateb gyda ffocws ar y thema o brotest gyda’r Darlithydd Selwyn Williams a’r gwrthgiliwr lleol, Ceri Cunnington. Ar y 21ainMark Jenkin (Enys Men, Bait) yn ymuno â’r clwb ffilmiau i ddangos rhai ffilmiau byrion o’i gasgliad, gyda gweithdy ffilmiau Super 8 i bobl ifanc i ddilyn, er mwyn dathlu 20 mlynedd o Gwallgofiaid – eu menter gymdeithasol, nid er elw, sy’n darparu hyfforddiant creadigol i bobl ifanc Blaenau Ffestiniog.
Gwefan Twitter, Facebook
Theatr y Ddraig (Abermaw)
Hiwmor yw thema rhaglen y Ddraig y gwanwyn hwn. Maent am godi ysbryd y gynulleidfa yn ystod yr argyfwng costau byw. Gan gysylltu gyda’u penwythnos o gomedi byw ar ddiwedd mis Mawrth, bydd posteri yn ymddangos o amgylch y dref gyda rhagflas a chystadlaethau comedi ar-lein. Bydd caffi The Happy Dragon ar agor ar ddydd Llun fel rhan o gynllun Croeso Cynnes Gwynedd – ac yn darparu te/coffi, cinio a swper poeth am ddim. Bydd y ffilmiau yn cynnig adloniant prynhawn ac yn adeiladu ar eu cynulleidfa. Ar ddydd Gwener rhwng 10am a 3pm mae cinio a ffilm prynhawn ar gael i gynulleidfaoedd hŷn, fel rhan o gynllun bwyd cymunedol a phrosiect unigrwydd ac unigedd Cyngor Gwynedd.
Gwefan, Twitter, Facebook
Gorllewin Cymru
The Magic Lantern (Tywyn)
Mewn ymateb i adborth eu cynulleidfa – nad ydynt yn gallu fforddio gweld yr holl ffilmiau maent am eu gweld – mae’r Magic Lantern yn Nhywyn yn lansio’u cynnig Dydd Mercher Rhad am £3 ym mis Mawrth. Byddant yn cynnal diwrnod agored er mwyn cychwyn sgwrs am sut i helpu cynulleidfaoedd hŷn ac iau sy’n teimlo’r esgid yn gwasgu. Bydd ffilmiau megis Blue Jean, A Bunch of Amateurs a ffilmiau byrion am weithgareddau yn yr awyr agored ar gael, gyda’r nod o groesawu cynulleidfaoedd i’r ganolfan yn rheolaidd, gan gefnogi’r Lantern wrth iddynt wynebu cynnydd mawr mewn costau ynni.
Gwefan, Twitter, Facebook
Y Canolbarth
Canolfan Gelfyddydau Wyeside (Llanfair-ym-muallt)
Yng Nghanolfan Gelfyddydau Wyeside yn Llanfair-ym-muallt, bydd cyllid yn cefnogi’r sinema i ddangos y ffilmiau annibynnol diweddaraf gorau, megis Blue Jean, ynghyd â’r ffilm Gymraeg disgwyliedig, Y Sŵn. Bydd eu dangosiadau gydag isdeitlau ar ddydd Iau, eu dangosiadau ymlaciedig ar gyfer plant gydag awtistiaeth a’u dangosiadau misol ar gyfer bobl hŷn yn croesawu cynulleidfaoedd o bob rhan o’r gymuned leol
Gwefan, Twitter, Facebook
De Orllewin Cymru
Y Torch (Aberdaugleddau)
Mae’r Torch yn Aberdaugleddau wedi gweld cynnydd yn eu costau gweithredu a chynnydd yn y gystadleuaeth gyda gwasanaethau ffrydio. Er mwyn cefnogi eu cynulleidfa mae ganddynt ganllaw ffilmiau ar ei newydd-wedd a rhaglen gyffrous o ffilmiau, sy’n cynnwys India Sweets and Spice i She is Love, Corsage a Enys Men. Mae dangosiadau prynhawn a chynnar yn ystod yr wythnos yn gwneud ffilmiau’n hygyrch i bobl o bob oedran, yn arbennig i gynulleidfaoedd gwledig sy’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus gyfyngedig. Mae’r Torch yn cynnig tocynnau am bris gostyngedig a gostyngiadau ar bris prydiau yn eu caffi ar gyfer ffilmiau penodol, ac mae ganddynt gerdyn teyrngarwch. Maent hefyd yn cysylltu gyda threfnwyr digwyddiad Pride Aberdaugleddau a grwpiau LHDTCIA+ er mwyn cynnal digwyddiad arbennig gyda Blue Jean, sy’n archwilio effaith deddfwriaeth Adran 28. Blue Jean which explores the impacts of the Section 28 legislation.
Gwefan, Twitter, Facebook
Theatr Gwaun (Abergwaun)
Yn Sir Benfro, mae’r sinema yn gweithio gyda’i Phanel Ffilm Cymunedol a Chymdeithas Ffilmiau Abergwaun i adennill eu cynulleidfa yn dilyn y pandemig, tra hefyd yn delio â phwysau ariannol yn sgil chwyddiant. Maent yn arwain y ffordd gyda rhaglen gyffrous sy’n rhoi eu cynulleidfa gyntaf. Bydd y cyllid yn cefnogi eu dangosiadau o ffilmiau annibynnol o fis Ionawr i fis Ebrill 2023, gyda ffilmiau megis, y dirgel Decision to Leave o Dde Corea, y ffilm o Orllewin Cymru, The Toll, yn ogystal â’u Clwb Fore Sadwrn i Blant sy’n costio £3 a’u menter POINT Presents mewn partneriaeth â’u canolfan ieuenctid leol.
Gwefan Twitter, Facebook
De Cymru
Canolfan y Celfyddydau, Pontardawe
Mae Pontardawe yn cadw eu harlwy ffilm yn fforddiadwy ac yn hygyrch. Rhwng mis Ionawr a mis Ebrill gall gynulleidfaoedd edrych ymlaen at ddangosiad arbennig o ffilm Pride Pride ar gyfer mis hanes LHDTC+, a fydd yn cynnwys cyfweliadau gyda’r cast, cyflwyniad i’r ffilm a chwis. Bydd cyfle hefyd i wylio Y Sŵn gyda sesiwn holi ac ateb gyda chast a chriw’r ffilm, gyda chyfieithiad ar y pryd gan Fenter Iaith. Bydd detholiad o ffilmiau o’r DU a ffilmiau rhyngwladol ar y sgrin hefyd, gan gynnwys Hit the Road, Alcarras, Empire of light, A Bunch of Amateurs, Corsage, She worked in a terrified state a The Quiet Girl.
Gwefan, Twitter, Facebook