Prosiectau Gwnaethpwyd yng Nghymru
Ers lansio’r Hwb ar ddiwedd 2013, rydyn ni wedi cefnogi aelodau Canolfan Ffilm Cymru gyda chyllid tuag at ddangos ffilmiau Cymreig a digwyddiadau arbennig drwy ein Cronfa Arddangos Ffilmiau.
Weithiau rydyn ni’n ariannu’r digwyddiadau hyn yn llwyr ac weithiau mae gennym brosiectau mwy sy’n cynnwys ffilmiau Cymreig fel rhan o raglen fwy. Ers 2020 rydyn ni hefyd wedi ehangu’r ffordd rydyn ni’n gweithio ar ymgyrchoedd ffilm yn uniongyrchol trwy ein rôl rheolwr prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru, gan gynnig cefnogaeth fwy canolog. Dilynwch y dolenni isod i ddarganfod pa fath o weithgareddau rydyn ni wedi’u cefnogi dros y blynyddoedd.