13 Gorffennaf 2021
Mae Canolfan Ffilm Cymru (FHW) wedi dyfarnu £52,700 mewn cyllid Loteri Cenedlaethol, drwy Gronfa Arddangos Ffilmiau Rhwydwaith Cynulleidfa BFI (FAN) i 8 sinema annibynnol a gwyliau ffilm wrth iddyn nhw ailagor yn dilyn Covid-19. I rai, dyma fydd y tro cyntaf i’w drysau agor ers Mawrth 2020.
Bydd arian yn cael ei ddefnyddio i helpu i ddod â'r gorau o ffilmiau annibynnol y DU a ffilmiau rhyngwladol yn ôl i'r sgrin fawr yng nghymunedau Cymru. Bydd arddangoswyr yn cefnogi lles ac yn lleihau ynysu a grëwyd gan y pandemig, gan gynnig digwyddiadau fforddiadwy, hygyrch i gynulleidfaoedd ar-lein ac yn y sinemâu lleol y maent yn eu hadnabod a'u caru. O elfennau ffilmiau coll, i animeiddio Cymreig niwroamrywiol, bydd cymunedau'n chwarae rhan allweddol wrth lunio dychweliad sinema.
Yn Theatr Gwaun yn Abergwaun maen nhw wedi bod yn brysur yn ail-lunio’r rhaglen ffilmiau a’r adeilad gyda chymorth y gymuned. Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl gofod wedi’i ddiwedaru yn cynnwys caffi Martha a gweithgareddau newydd i ymwelwyr ifanc.
Dywedodd Sue Whitbread, Prif Weithredwraig Theatr Gwaun:
Mae’r dyfarniad gan Ganolfan Ffilm Cymru yn golygu ein bod yn gallu agor ein drysau eto ym mis Gorffennaf fel yr addawyd i’n cymuned. Theatr Gwaun ydy’r unig arddangosydd ffilmiau yng ngogledd Sir Benfro wledig ac mae’n ffynhonnell hanfodol o adloniant. Wedi gosod pob mesur diogelwch rhag Covid rydym yn barod i ailgroesawu ein cynulleidfa i amgylchedd diogel a chyfeillgar.
Mae ein panel Ffilm Cymunedol wedi datblygu rhaglen newydd sydd yn cynnwys rhagor o ffilmiau annibynnol, ffilmiau Cymraeg a nosweithiau digwyddiadau ffilm gyda chyflwynwyr gwadd. Mae pobl ifanc hefyd wedi cael eu hannog i gael mynegi barn POINT PRESENTS, noson ffilm fisol. Rydym wedi datblygu ein caffi dydd a gofod digwyddiadau, Martha, a fydd yn dangos ffilm archif a gasglwyd gan y gymuned. Mae’r adeilad hefyd yn cael gwedd newydd yr haf yma gyda murlun cymunedol newydd mawr.
Ym Mlaenau Ffestiniog, mae CellB yn dod â’r byd i’w cynulleidfa drwy ffilm, drwy eu rhaglen ieuenctid ‘Sinema’r Byd .’ Fe fydd dros 50 o ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol i bob oed yn archwilio diwylliant a newid hinsawdd, y gall cynulleidfaoedd eu mwynhau yn ein Sgrin 2 newydd.
Dywedodd Rhys Roberts, perchennog Cellb:
Fe fydd ein pobl ifanc yn croesawu a chyfarch a chynghori, chwerthin a gwrando ar ein cynulleidfaoedd ifanc a hen. Fe fyddwn yn creu croeso Cymreig wrth i’n cynulleidfaoedd ddychwelyd i CellB a phrofi’r Sgrin 2 newydd a sefydlwyd fell le i’n holl gymuned ddod ynghyd i wylio ffilmiau.
Gyda chyfyngiadau Covid i’w hadolygu ym mis Gorffennaf mae safleoedd ar draws Cymru yn gweithio’n galed i baratoi ar gyfer ailagor yn ddiogel ac yn hyfyw.
Mae Hana Lewis, Rheolwraig Strategol Canolfan Ffilm Cymru yn esbonio:
Mae’n garreg filltir enfawr i ailagor i’r cyhoedd ac mae sinemau a gwyliau wedi gweithio’n ddiflino i wneud i hyn ddigwydd. Mae ffordd heriol o’n blaenau wrth inni ailadeiladu ac mae sinemau angen cefnogaeth cynulleidfaoedd nawr yn fwy nag erioed ond mae hon yn foment i edrych ymlaen ac adfer o’r cyfnod a dreuliwyd ar wahân. Mae ffilmiau hir ddisgwyliedig yn cael eu rhyddhau ac mae arddangoswyr yn barod i’n diddanu ond diolch i’w ffocws cymunedol mae gan bob un ohonom gyfle i chwarae rhan gweithredol yn nyfodol sinema.
Mae Cronfa Arddangos Ffilmiau FAN BFI yn bosibl drwy gyllid y Loteri Cenedlaethol gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) drwy ei Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN). Mae’r gronfa yn cynnig cymorth i arddangoswyr ar draws y DU i hybu rhaglennu diwylliannol ac ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd amrywiol wrth i gyfyngiadau lacio. Gweinyddir y cronfeydd yng Nghymru gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy Chapter fel y Corff Arweiniol Canolfan Ffilm.
Mae’r Loteri Cenedlaetholo yn codi £36 miliwn yr wythnos i achosion da ar draws y DU.
Diwedd.
Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma
Images/Delweddau – left to right: Off Y Grid and Wicked Wales, Kotatsu Japanese Animation Festival, Cardiff Animation Festival © Mission Photographic, Pontardawe Arts Centre, CellB – Sgrin 2, Theatr Gwaun July Reopening, WOW “Wales One World” Film Festival