Sinemau Cymru i ddatblygu Dangosiadau Ffilm i gynulleidfaoedd gyda cholled clyw
Delwedd © Galeri, WCDP, Chapter
Mawrth 2022
Mae Canolfan Ffilm Cymru (FHW) a Chyngor Cymru i Bobl Fyddar (WCDP) yn gweithio gydag wyth sinema yng Nghymru i sefydlu grwpiau gwirfoddol B/Byddar a fydd yn helpu i wella profiadau sinema i gynulleidfaoedd gyda cholled clyw, yn eu cymunedau lleol.
Mae’r lleoliadau yn cynnwys Theatr Torch (Aberdaugleddau), The Maxime (Coed Duon), Galeri (Caernarfon), Magic Lantern (Tywyn) Neuadd Dwyfor (Pwllheli), Chapter (Caerdydd), a Theatr Gwaun (Abergwaun). Ar ôl cymryd rhan mewn hyfforddiant gyda WCDP, i edrych ar sut i ateb anghenion cynulleidfaoedd sinema gyda cholled clyw, mae’r cyrff yn cyflwyno gweithgareddau newydd cyffrous.
Gyda chymorth ariannol gan FHW, fe fydd pob lleoliad yn gweithio gyda WCDP i gysylltu gyda chynulleidfaoedd B/byddar i ffurfio grwpiau gwirfoddol sydd yn gallu rhannu eu profiadau personol o fynd i’r sinema er mwyn siapio gweithgareddau yn y dyfodol.
Dywedodd Louise Sweeney o Gyngor Cymru i Bobl Fyddar:
Mae pobl B/byddar. ByddarDall a phobl sydd yn drwm eu clyw yn wynebu problemau hygyrchedd ac maen nhw’n aml yn amharod i fynd i sinemau oherwydd hyn. Fe fydd gwybod y bydd eu profiadau yn gwella yn y sinemau sydd yn rhan or rhaglen yma, gyda staff yn derbyn hyfforddianr ymwybyddiaeth B/byddar a Bydda/Dall, hyfforddiant iaith arwyddion a lleoliadau yn dod yn fwy Byddar gyfeillgar yn rhywbeth i’w groesawu ac yn arwydd caonogol i gymunedau B/Byddar a Thrwm eu Clyw.
Yn Galeri, Caernafon, yn ogystal â gweithio gyda Chymdeithas Byddar Gogledd Cymru a Chlwb Byddar Gwynedd, fe fydd fyfyrwraig fyddar 16 oed yn gweithio gyda’r lleoliad i greu rhagor o ddeunyddiau marchnata BSL hygyrch.
Dywedodd Galeri Caernarfon:
Rydym yn ymdrechu i wneud Galeri yn ganolfan amrywiol a chroesawgar wrth raglennu ffilmiau ag isdeitlau, a buddsoddi mewn hyfforddiant Makaton a chymwysterau BSL ar gyfer ein staff. Rydym hefyd yn hapus i fod yn gweithio gyda pherson ifanc Byddar lleol i greu cynnwys fideo ar gyfer ein canolfan, nid yn unig er mwyn gwneud yn siwr bod Galeri yn ganolfan hygyrch i bob cynulleidfa, ond i ysbrydoli ac ysgogi pobl eraill i wneud yr un peth.
Yn Nhywyn, mae’r Magic Lantern yn gwahodd pobl FyddarDall lleol a’u teuluoedd i’r sinema ar gyfer diwrnod agored i archwilio’r gofod a chyfarfod y staff a fydd hefyd yn cymryd rhan mewn hyfforddiant BSL.
Mae Annie Grundy o'r Magic Lantern yn esbonio:
Mae ein tîm yn falch iawn o’r croeso rydyn ni’n ei roi i’n cynulleidfa, yn lleol ac yn ymweld, felly mae gallu cyfleu’r croeso hwnnw i bob ymwelydd yn wirioneddol bwysig i ni. Rydyn ni'n gwybod bod gennym ni lawer mwy i'w ddysgu. Rydyn ni eisiau parhau â hyfforddiant BSL ac mae angen i ni archwilio mwy o ran technolegau i’n helpu ni i fod yn fwy hygyrch, felly gam wrth gam… byddwn ni’n dal ati. Wedi’r cyfan, mae adeiladu ac ehangu cynulleidfaoedd bob amser yn mynd i fod yn allweddol i’n goroesiad hirdymor.
Sefydlwyd y prosiect gan Ganolfan Ffilm Cymru o ganlyniad i adborth gan sinemau, pobl greadigol B/byddar as chynulleidfaoedd eu hunain. Drwy’r prosiect Sinema Cynhwysol y mae FHW yn ei arwain ar ran rhwydwaith FAN BFI, fe fydd Cymdeithas Dosbarthwyr Ffilmiau (FDA) yn cynnig detholiad o ffilmiau allweddol gyda fformatau addas, y bydd yr wyth lleoliad yn gallu eu derbyn.
Dywedodd Hana Lewis, Rheolwraig Strategol Canolfan Ffilm Cymru:
Mae sinemau sydd yn cynnig dangosiadau film i gymunedau B/byddar yn gallu wynebu rhwystrau fel cyllid i ddiweddaru offer, diffyg ffilmiau gyda fformatau hygyrch neu ddigon o rybudd i farchnata’r ffilm.. Nod ein partneriaeth gyda FDA a WCDP ydy cefnogi sinemau, tra hefyd yn sicrhau bod cynulleidfaoedd B/byddar yn gallu gweld y ffilmiau annibynnol diweddaraf a chynnig adborth uniongyrchol am eu profiadau.
Mae’r prosiect yma yn digwydd diolch i gyllid gan y Loteri Cenedlaethol gan BFI, drwy ei Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN),. Mae Canolfan Ffilm Cymru yn datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol Prydeinig a rhyngwladol drwy gydol y flwyddyn. Mae cyllid yng Nghymru yn cael ei weinyddu gan FHW drwy Chapter fel y Corff Atrweinio Canolfannau.
Caiff dros £30M ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ar draws y DU gan y Loteri Genedlaethol.
Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma
-DIWEDD-