Mercher, 13 Gorffennaf, 2022
Gyda chefnogaeth prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru mae dwy ffilm newydd o dalent Cymreig, sydd yn dilyn bywydau menywod Traws yn India ac UDA yn dod i sinemâu eleni.
Gyda chefnogaeth prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru mae dwy ffilm newydd o dalent Cymreig, sydd yn dilyn bywydau menywod Traws yn India ac UDA yn dod i sinemâu eleni.
Mae ‘Donna’ sydd yn cael ei dosbarthu gan Bohemia Media, yn ffilm gyntaf y Cyfarwyddwr Cymreig Jay Bedwani. Mae’r ffilm sydd yn cael ei rhyddhau ar 15 Gorffennaf 2022 yn adrodd stori Donna Personna a darodd y llwyfan gyntaf yn y chwedlonol Cockettes. Ecstatig sydd ymhell iawn o fagwraeth crefyddol Donna yn San Jose. Nawr yn ei saithdegau mae’n cael cyfle i gyd ysgrifennu drama am gyfnod yn hanes queer sydd wedi ei anwybyddu – Terfysg Compton’s Cafeteria Riot, lle y gwnaeth menywod Trawsrywiol yr oedd Donna yn eu hadnabod seyfll i fyny yn erbyn aflonyddu’r heddlu.
Treuliodd Jay Bedwani, Cyfarwyddwr ‘Donna’ bum mlynedd yn teithio o Gaerdydd i Galiffornia i ddogfennu stori Donna a ffurfio cyfeillgarwch oes yn y cyfamser. Mae’n esbonio:
“Rwy’n teimlo’n freintiedig i gael cyflwyno stori menyw drawsrywiol hŷn i sgriniau Cymru. Rwy’n gobeithio y bydd meges ac ysbryd Donna yn cyffwrdd cynulleidfaoedd cymaint ag a wnaeth imi.”
Mae ‘Being Hijra’, gan y Cyfarwyddwr o Orllewin Cymru Ila Mehrotra (Spring Films) a fydd yn cael ei rhyddhau yn nes ymlaen eleni yn daith hynod o bersonol ac emosiynol a ffilmiwyd dros 8 mlynedd sydd yn nodi poen a balchder Rudrani Chettri a’r gymuned trawsrywiol yn New Delhi wrth iddyn nhw greu asiantaeth fodelu trawsrywiol cyntaf India.
Dywed Ila Mehrotra:
‘‘Bu datblygu stori’r gymuned Hijra yny dull mwyaf dynol a pherthnasol yn bleser pur. Mae’r gefnogaeth a’r diddordeb gan Ganolfan Ffilm Cymru yn fy llenwi gyda brwdfrydedd i gyflwyno’r ffilm i sgriniau Cymru gan obeithio y bydd yn atseinio yn ddynol yn gyffredinol’’
Cefnogir y ddwy ffilm gan ‘Gwnaethowyd yng Nghymru’ prosiect Canolfan Ffilm Cymru sydd yn dathlu ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig gan roi llwyfan i straeon llai adnabyddus o Gymru sydd yn cynrychioli cymunedau Cymreig go iawn. Mae Canolfan Ffilm Cymru yn gweithio gyda Bohemia a Spring Films i sicrhau bod gan gynulleidfaoedd y cyfle i glywed cyfweliadau gan y Cyfarwyddwyr a chreu undod gyda’r cynulleidfaoedd Traws a gynrychiolir ar y sgrin yn eu sinemâu annibynnol lleol.
Yn nes ymlaen eleni gall cynulleidfaoedd hefyd edrych ymlaen at ‘T.L.C’ sef Gofal Cariad Tyner i Sinema Traws-Arawin/Traws-Gariad. Cyfres o ddigwyddiadau brennig yn archwilio ffilmiau sinema traws-arwain o brosiect Sinema Cynhwysol Canolfan Ffilm Cymru. Inclusive Cinema project.
Dywedodd Radha Patel, Swyddog Gwnaethwyd yng Nghymru yng Nghanolfan Ffilm Cymru:
“Mae’r ffilmiau dogfen yma yn nodi carreg filltir diwylliannol pwysig. Yn aml dywedir wrth wneuthurwyr ffilm mai dim ond ar gyfer un stori ar y cyrion y mae lle iddi ar y tro. Drwy dorri’r tueddiad yma mae sinemâu Cymru yn anfon neges bwysig i bobl Traws, yn enwedig i bobl Traws ifanc, gan gadarnhau eu hunaniaeth a’u hawl i hunan benderfynu.”
Derbyniodd y ddwy ffilm gyllid gan Ffilm Cymru Wales yr asiantaeth datblygu cenedlaethol sdydd yn buddsoddi yn natblygiad a chynhyrchu ffilmiau byr a hir gan wneuthurwyr newydd a sefydledig wedi’u lleoli yng Nghymru.
Dywedodd Kimberely Warner, Pennaeth Cynhyrchu yn Ffilm Cymru Wales:
Rydym mor falch o fod wedi gweithio gyda Jay ac Ila ar eu ffilmiau dogfentrawiadol. Mae mor bwysig sicrhau gwelededd i’n cymunedau Traws amrywiol sydd yn cynrychiolipob cefndir hil ac ethnig yn ogystal â thraddodiadau ffydd. Mae Being Hijra a Donna yn canoli profiadau dwy fenyw anhygoel a’u teithiau unigol o hunan. Fe fydd eu straoen yn gymorth i arwain y ffordd i eraill ac rydym yn sicr y bydd y ddwy yn cyrraedd cynulleidfaoedd byd-eang
Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn cynnig llu o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn mewn partneriaeth gydag arddangoswyr Cymreig, yn cynnwys catalog ffilmiau gyda 600 o ffilmiau byr a hir gyda chysylltiadau Cymreig
Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn derbyn cyllid gan Creative Wales a chyllid y Loteri Cenedlaethol drwy Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI DU gyfan. Fel rhan o FAN, mae Canolfan Ffilm Cymru yn datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol Prydeinig a rhyngwladol drwy gydol y flwyddyn. Gweninyddir cyllid yng Nghymru gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy Chapter fel y Corff Arweiniol Canolfannau Ffilm.
Caiff dros £30M ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ar draws y DU gan y Loteri Genedlaethol.
-DIWEDD-