Mehefin 2025
Efallai y byddwch chi'n synnu clywed bod gennym ni lu o sinemâu sefydledig yng Nghymru – 80 ohonynt a dweud y gwir. Daw'r rhain mewn gwahanol siapiau a meintiau. Mae rhai yn ganolfannau celfyddydau cymysg sy'n cynnig rhaglenni amlddisgyblaethol, mae eraill yn sinemâu annibynnol neu fasnachol llawn amser sy'n arbenigo mewn ffilm ac mae gan rai rhaglenni achlysurol.
Dydyn ni ddim hyd yn oed wedi cyrraedd y sgriniau cymunedol eto; Mae yna lawer mwy o'r rhain i'w crybwyll (a byddwn yn dod yn ôl at hynny yn ein blog nesaf) ond heddiw rydyn ni'n siarad yn benodol am safleoedd theatraidd.
Felly, ble dylem ni ddechrau? Gadewch i ni ddechrau drwy egluro mai ein gwaith ni fel Canolfan Ffilm Cymru yw cefnogi sinemâu Cymru i ddod â'r ffilmiau annibynnol a rhyngwladol gorau yn y DU i gymunedau Cymru drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn ariannu, hyfforddi a chynghori arddangoswyr ffilmiau, gan gynnig cefnogaeth lle bo angen. Fe wyddom ni na fydd ffilm yn cael ei gweld dim ond oherwydd ei bod yn ffilm dda, a dyna le mae sinemâu o bwys. Eu gwaith nhw yw ystyried y gynulleidfa. Pwy fyddai'n mwynhau'r ffilm hon, sut gellir cyrraedd y gynulleidfa honno a pha effaith y gallai'r ffilm ei chael ar bobl leol.
Mae sinemâu Cymru yn adnabyddus am fod wrth galon eu cymunedau ac am eu hadeiladau eclectig a'u hanesion cyfoethog. Yn gyffredinol, maent yn cynnig llawer mwy na ffilmiau yn unig.

Cymerwch Sinema Magic Lantern yn Nhywyn, Canolbarth Cymru, er enghraifft. Ar ôl dangos rîl newyddion mud gyntaf ym 1900 fel Ystafell Gynulliad y dref, mae'r adeilad wedi esblygu i fod yn sinema llawn amser poblogaidd ac unigryw gyda band, gardd gyfrinachol, a bar coctel. Nid yn unig hynny – maen nhw hefyd yn arwain digwyddiadau yn y gymuned gefn gwlad, fel agor yr adeilad ar ddiwrnod Nadolig i bobl leol sy'n byw ar eu pennau eu hunain a chreu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc yn y dref (yn ôl bob sôn mae eu tîm mor hapus yno, yn aml dydyn nhw ddim eisiau gadael!).

Ymlaen i ogledd-orllewin Cymru, os ydych chi'n cael eich hun ym Mlaenau Ffestiniog, mae'n rhaid i chi ymweld â CellB. Wedi'i leoli mewn gorsaf heddlu wedi'i haddasu, gyda dwy sgrin a chefndir syfrdanol o fynyddoedd llechi, mae'r lle yma’n llawn carisma. Dan arweiniad Gwallgofiaid, menter gymdeithasol nid-er-elw sy'n darparu hyfforddiant creadigol i bobl ifanc, mae gan y safle hostel, gigs rheolaidd a ffwrn pizza wedi'i thanio â choed.
Draw yng ngogledd-ddwyrain Cymru, mae'n rhaid i ni sôn am y gwaith adnewyddu trawiadol yn Theatr Clwyd, sy'n cael ei adnabod fel y darparwr theatr deithiol mwyaf yng Nghymru. Byddwch eisiau treulio amser yno a mwynhau golygfeydd panoramig y dref o'u hadeilad gwydr newydd, ymweld â'u bwyty sy'n cael ei redeg gan y cogydd adnabyddus Bryn Williams ac wrth gwrs, gwylio ffilm yn eu sinema bwrpasol sy'n agor o fis Gorffennaf 2025.
Gallwn gario ’mlaen gyda hyn drwy'r dydd... Os ydych chi yn ne Cymru, mae Theatr y Savoy yn Nhrefynwy yn sinema gwerth ei gweld.

Y safle theatr hynaf yng Nghymru, mae'r adeilad rhestredig hardd gradd 2 hwn yn edrych fel y sinema berffaith. Neu os ydych chi yng Nghaerdydd, dewch i Ganolfan Gelfyddydau Chapter, sydd â rhaglen enfawr drwy gydol y flwyddyn o ffilmiau annibynnol yn ogystal â pherfformiadau arbrofol, arddangosfeydd a chaffi-bar.
Draw yng ngorllewin Cymru, mae Theatr Gwaun yn Abergwaun. Mae'n theatr gymunedol annibynnol, wedi’i chefnogi gan dîm angerddol o wirfoddolwyr. Yno mae sinema, bar a chaffi gyda dewis helaeth o ddigwyddiadau, ac mae arfordir hardd Sir Benfro megis tafliad carreg ohoni.
Yn y bôn, fe allech lunio taith o amgylch Cymru, gyda sinema ym mhob stop. Swnio'n dda? I helpu gyda hyn, rydym wedi llunio rhestr lawn a map i'ch helpu chi i weld ble mae pob sinema. Byddwn yn tynnu sylw atynt ar ein cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â ble gallwch ddod o hyd i'ch gŵyl, clwb ffilm neu sgrin gymunedol agosaf.
Os ydych chi'n rhedeg sinema a heb eich rhestru isod, efallai bod hyn oherwydd eich bod wedi'ch rhestru fel sgrin gymunedol. Os hoffech gael eich ychwanegu (neu os hoffech gael eich tynnu o'r rhestr hon), cysylltwch â ni. Byddem wrth ein boddau’n clywed gennych. Gall sinemâu Cymru hefyd ymaelodi â Chanolfan Ffilm Cymru am ddim a gwneud cais am gyllid datblygu cynulleidfaoedd yn ogystal â chael mynediad at hyfforddiant, rhwydweithio a chyngor.
