Dydd Mercher, 20 Ebrill 2022
Mae tymor ffilm newydd gan linyn Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru o’r enw ‘To Llechi ar gyfer Pob Tŷ’ yn dod i sinemau yn 2022.
Fe fydd y daith yn dathlu statws treftadaeth y byd UNESCO tirwedd llechi Gogledd Orllewin Cymru gan roi cyfle i gynulleidfaoedd Cymru ddysgu am y cysylltiadau llai adnabyddus Cymru gyda’r Fasanach Caethwasiaeth Atlantig.
Gydag Archif Sgrin a Sain yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae Canolfan Ffilm Cymru wedi datblygu rhaglen deithiol o ffilmiau archif a ffilmiau Cymreig yn amlygu hanes y chwareli yng Nghymru, ei effaith ar gymunedai a chysylltiadau gyda phrosiectau trefedigaethol ehangach dan arweiniad yr Ymerodraeth Brydeinig. Mae’r pecyn yn cynnwys amrediad o ffilmiau o Slate Quarrying (1946) sydd yn darlunio bywyd gwaith yn Chwrael y Penrhyn, 1200 troedfedd o ddyfnder, ym Methesda i Cut Me Loose (1998), ffilm bersonol a ysgrifenwyd ac a gyflwynwyd gan y bardd rap a’r hanesydd David Brown, o dras cymysg Du Jamaicaidd a Gwyn Cymreig.
Datblygwyd y prosiect yn dilyn cyhoeddiad ym mis Gorffennaf 2021 bod statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO wedi ei roi i dirwedd llechi Gogledd Orllewin Cymru.
Dywedodd Hana Lewis, Pennaeth Canolfan Ffilm Cymru:
‘‘Mae cyhoeddiad treftadaeth y byd UNESCO yn arwyddocaol i Gymru. Mae’n rhoi cyfle anhygoel i ddathlu ei hanes balch o chwareli llechi ar y sgrin drwy gasgliad diddorol o ffilmiau. Mae’n hanfodol hefyd ein bod yn edrych yn ddyfnach ac rhoi cyd-destun i straeon llai adnabyddus o ran llafur y dosbarth gweithiol a’r Fasnach Gaethwasiaeth Atlantig. Mae’r daith yn rhoi cyfle i gynuylleidfaoedd ddarganfod elfennau o ddiwylliant Cymreig sydd yn sylfaenol i bwy ydyn ni.”
Roedd chwareli llechi Gogledd Cymru yn gysylltiedig hefyd gyda hanes mwy treisgar gan fod llawer o gyfoeth y perchnogion caethweision fel yr Arglwydd Penrhyn, wedi ei ddefnyddio i ehangu’r chwareli a hyd yn oed adeiladu rhai trefi a dinasoedd yng Nghymru. Bwriad y tymor ydy edrych ar sefyllfa gymhleth Cymru fel aelod trefedigaethol ac un a elwodd o’r cyfoeth a grewyd gan yr Ymerodraeth Brydeinig drwy gynhyrrchu llechi.
I lansio’r sgwrs mae Canolfan Ffilm Cymru hefyd wedi dwyn ynghyd banel o siaradwyr arbenigol, Yvonne Connikie (curadydd ffilm), Abu-Bakr Madden Al Shabazz (hanesydd ac anthropolegydd diwylliannol), Charlotte Williams (awdur Sugar and Slate) ac Emlyn Roberts (cyn chwarelwr). Gall cynulleidfaoedd wrando ar y sgyrsiau yn y sinemau sydd yn cymryd rhan
Mae AbuBakr yn esbonio pwysigrwydd delio gyda hanes Cymru ar y sgrin
"Mae gweld hanes Cymru ar y sgrin yn dangos y cyfoeth sydd gan orffennol y genedl yma ar ei datblygiad cymdeithasol a gwleidyddol yn yr 21ain ganrif. Mae gan Gymru fel cenedl a hanes Cymru fel pwnc, hen gymdeithas amlddwylliannol oherwydd ei chysylltiadau gyda masnach cyn ac yn ystod diwydianeiddio. Fe fydd darlunio dimensiwn amlddiwylliannol cymdeithas Gymreig yn cynnal cywirdeb wrth gofnodi ein gorffennol, gan ddangos cynhwysiant ein cenedl fodern a’r hyn y mae’r holl grwpiau wedi ei gyfrannu dros amser."
Mae sinemau ar draws Cymru yn bwriadu cynnal gweithgareddau thema ar hyd y flwyddyn. Ym Mlaenau Ffestiniogm cartref i Chwarel Llechwedd, mae CELLb yn bwriadu cynnal penwythnosau Gŵyl Ffilm Chwarel gyda 2 benwythnos o weithgareddau ar y thema llechi. Fe fyddan nhw yn cysylltu cynulleidfoaedd gyda chwarelwyr oedd yn gweithio yn y chwareli ac yn cynnal sgyrsiau am deuluoedd y Penrhyn a Pennant a’u cysylltiadau gyda chaethwasiaeth.
Ychwanegodd Iola Baines, Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
‘‘Mae’r Archif yn gweithio’n galed i sicrhau bod cynulleidfaoedd Cymreig o bob oed yn gallu cael mynediad i’w treftadaeth sgrin. Rydym yn gyffrous i fod yn gweithio gyda Chanolfan Ffilm Cymru i ddod â ‘To o Lechi i bob Tŷ’ yn fyw – o’r ffilmiau archif byr yn dangos bywydau chwarelwyr i’r ‘Chwarelwr’ (y ffilm siarad Gymraeg gyntaf erioed) a ffilmiau dogfen yn cysylltu llechi a gwladychiaeth. Mae’r ffilmiau yma yn amlygu pwysigrwydd pobl, lleoedd a digwyddiadau Cymru na ddylid fyth eu anghofio. Mae ffilmiau archif Cymreig yn cynnwys ein gorffennol a’n dyfodol – dyma sut y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn gallu cael mynediad i’w diwylliant a’u hanes. Mae’n hanfodol bod ein gwaith yn parhau i gael ei gefnogi a’i fod yn hygyrch i’r cyhoedd drwy sinemau .’'
Gall cynulleidfaoedd dderbgyn y newyddion diweddaraf am ffilmiau i ddod ar wefan adran Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru neu trwy ddilyn @FilmHubWales ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn derbyn cyllid gan Creative Wales a chyllid y Loteri Cenedlaethol drwy Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI DU gyfan. Fel rhan o FAN, mae Canolfan Ffilm Cymru yn datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol Prydeinig a rhyngwladol drwy gydol y flwyddyn. Gweninyddir cyllid yng Nghymru gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy Chapter fel y Corff Arweiniol Canolfannau Ffilm. CaIff dros £30M ei godi bob wythnos i achosion da ar draws y DU gan y Loteri Cenedlaethol.
Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma
-DIWEDD-