Mae Canolfan Ffilm Cymru yn chwilio am unigolion profiadol sydd yn gallu cyflwyno sgiliau newydd i’n grŵp cynghorol presennol, i’n cefnogi drwy gamau cynllunio yn y dyfodol. Byddem yn croesawu unigolion ac/neu gynrychiolwyr o gyrff ar draws Cymru neu tu hwnt, lle mae gan yr unigolyn brofiad o ddiwylliant Cymreig. 

Fe fydd y grŵp yn cynrychioli buddiannau aelodau rhanbarth y Ganolfan, yn gweithio gyda tîm rheoli’r Ganolfan i lywio strategaeth yn y dyfodol a gweithredu fel eiriolydd i Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI. 

Disgwylir i aelodau fynychu pedwar cyfarfod y flwyddyn (un bob chwarter). Gall y tîm ofyn am gyfarfodydd is-grŵp lle mae amgylchiadau yn galw am hynny.

Blaenoriaethau allweddol i Ganolfan Ffilm Cymru: 

  • Arddangoswyr ffilmiau, yn cynnwys cynrychiolwyr cymunedol. Gweler ein, rhestr aelodau am enghreifftiau, 
  • Cydraddoldeb a chynhwysiad, 
  • Cynulleidfaoedd ifanc ac/neu dysgu gydol oes, 
  • Profiad o godi arian, 
  • Arbenigwyr marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, 
  • Strategaeth a pholisi, 
  • Ymchwil a dal data, 
  • Diwylliant Cymreig.

How to apply

  • Gweler dolenni isod.
  • Darllenwch Gylch Gwaith Grŵp Cynghorol Canolfan Ffilm Cymru os gwelwch yn dda.
  • Anfonwch Ffurflenni EOI Grŵp Cynghorol wedi’u llenwi, ynghyd â'ch CV a ffurflen cyfle cyfartal ar e-bost os gwelwch yn dda i [email protected] erbyn Dydd Llun 4 Gorffennaf 2022.

Gellir gwahodd ymgeiswyr i gyfarfod ar ôl cyflwyno'r Datganiad o Ddiddordeb.

Er gwybodaeth, mae ein haelodau cynghorol cyfredol i’w gweld ar ein gwefan yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn cyflwyno cais,, cysylltwch gyda Pennaeth Canolfan Ffilm Cymru – Hana Lewis ar [email protected] neu 02920 353740.

Mae'r ffurflennu yma wedi cael eu gwneud yn fwy ar gyfer hygyrchedd.

Read more about our current advisory board members yma.

CY
Film Hub Wales | Canolfan Ffilm Cymru
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.