Mae’r Dyddiau Rhagddangos Ffilmiau Cymreig yn ôl!
Rydyn ni wrth ein boddau’n cyhoeddi y byddwn ni yng Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn dangos y ffilmiau Cymreig diweddaraf i arddangoswyr. Gallwch hefyd ddisgwyl gweld clipiau ecsgliwsif, rhagluniau a detholiad o ffilmiau byrion.
Pryd / Ble:
- Dydd Mercher 20 Ionawr 2027 Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
- 9am – 5:30pm (gyda ibiannau gorffwys a chinio) - amseroedd i’w cadarnhau.
Mae’r digwyddiad yma ar gyfer aelodau Canolfan Ffilm Cymru ac aelodau Canolfannau Ffilm ar draws y DU yn unig.
Archebwch eich lle
Beth ydy diwrnod rhagddangos ffilmiau Cymreig?
- Ers 2013, mae Canolfan Ffilm Cymru wedi bod yn cynnal dyddiau rhangddangos ffilmiau Cymreig mewn lleoliadau ar draws Cymru (ar ar-lein) lle gall y mynychwyr wylio dangosiadau o ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig sydd i ddod. Diben y digwyddiadau ydy cefnogi rhaglennu ehangach a chyrhaeddiad y ffilmiau yma.
Beth sydd yn digwydd mewn Diwrnod Rhagddangos Ffilmiau Cymreig?
- Mae ein dyddiau rhagddangos yn cynnwys dangosiadau o ffilmiau, ffilmiau byr a chlipiau unigryw o ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig sydd i ddod.
- Darperir pecynnau gwybodaeth ffilmiau i’r rhai sydd yn mynychu (yn cynnwys manylion archebu ffilmiau) ac fe fydd amser i drafod y ffilmiau gydag eraill yn ystod y digwyddiad.
Cefnogaeth Bwrsari ac Aelodaeth
- Mae'r digwyddiad yma yn gymwys ar gyfer cefnogaeth bwrseriaeth. Gall Canolfan Ffilm Cymru dalu am gostau llety i aelodau fynychu. Os ydych chi angen trefnu llety ymlaen llaw, rydyn ni’n argymell archebu llefydd sydd â pholisi canslo am ddim. Cwblhewch ffurflen yma..
- Os nad ydych yn aelod o Ganolfan Ffilm Cymru eto, gallwch ymuno am ddim yma.
- Dysgwch ragor am sut mae Canolfan Ffilm Cymru yn cefnogi’r sector arddangos ffilmiau i ddangos ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig.