Mae’r Dyddiau Rhagddangos Ffilmiau Cymreig yn ôl!
Rydyn ni wrth ein boddau’n cyhoeddi y byddwn ni yng we’ll be at Pontio (Bangor) a Gwyn Hall (Castell-nedd), yn dangos y ffilmiau Cymreig diweddaraf i arddangoswyr.
Pryd / Ble:
- Dydd Mawrth 13 Ionawr – Pontio, Bangor: Archebwch eich lle.
- Dydd Iau 15 Ionawr – Gwyn Hall, Neath: Archebwch eich lle.
- 9am – 5:30pm (gyda ibiannau gorffwys a chinio)
Mae’r digwyddiad yma ar gyfer aelodau Canolfan Ffilm Cymru ac aelodau Canolfannau Ffilm ar draws y DU yn unig.
Beth ydy diwrnod rhagddangos ffilmiau Cymreig?
Ers 2013, mae Canolfan Ffilm Cymru wedi bod yn cynnal dyddiau rhangddangos ffilmiau Cymreig mewn lleoliadau ar draws Cymru (ar ar-lein) lle gall y mynychwyr wylio dangosiadau o ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig sydd i ddod. Diben y digwyddiadau ydy cefnogi rhaglennu ehangach a chyrhaeddiad y ffilmiau yma.
Beth sydd yn digwydd mewn Diwrnod Rhagddangos Ffilmiau Cymreig?
Mae ein dyddiau rhagddangos yn cynnwys dangosiadau o ffilmiau, ffilmiau byr a chlipiau unigryw o ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig sydd i ddod.
Darperir pecynnau gwybodaeth ffilmiau i’r rhai sydd yn mynychu (yn cynnwys manylion archebu ffilmiau) ac fe fydd amser i drafod y ffilmiau gydag eraill yn ystod y digwyddiad.
Cefnogaeth Bwrsari ac Aelodaeth
- Mae'r digwyddiad yma yn gymwys ar gyfer cefnogaeth bwrseriaeth. Gall Canolfan Ffilm Cymru dalu am gostau llety i aelodau fynychu. Os ydych chi angen trefnu llety ymlaen llaw, rydyn ni’n argymell archebu llefydd sydd â pholisi canslo am ddim. Cwblhewch ffurflen yma..
- Os nad ydych yn aelod o Ganolfan Ffilm Cymru eto, gallwch ymuno am ddim yma.
- Dysgwch ragor am sut mae Canolfan Ffilm Cymru yn cefnogi’r sector arddangos ffilmiau i ddangos ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig.