Ynglŷn â'r Sesiwn
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae canolfannau ledled Cymru wedi bod yn sefydlu micro-wyliau eu hunain er mwyn cyrraedd cynulleidfa newydd, neu i ymdrin â thema benodol. Mae un o'r rhai mwyaf poblogaidd yn ŵyl ffilmiau dros dro o ffilmiau Cymreig, ond pa mor hawdd yw hi i gynnal y digwyddiadau hyn am fwy na blwyddyn? Pan fyddwn yn meddwl am wyliau ffilmiau, rydym yn dychmygu digwyddiadau rheolaidd, digwyddiadau premiére a phwyntiau gwerthu unigryw. Felly, pan ddaw i sefydlu rhywbeth newydd, a ddylem ofyn i'n hunain 'a yw'n ŵyl ffilmiau?' neu a yw'n dymor neu benwythnos gyda thema benodol neu hyd yn oed yn glwb ffilmiau misol? Neu, a allwn ni osod ffilmiau mewn digwyddiadau lleol cyfredol megis ffeiriau crefftau neu farchnadoedd, neu weithio gyda gwyliau ffilmiau sydd eisoes wedi’u sefydlu? Dewch i glywed gan Ŵyl Animeiddio Caerdydd a Gŵyl Arswyd Abertoir am yr hyn sydd ei angen i gynnal gŵyl ffilm sefydledig, yn ogystal ag Awen a gynhaliodd Ŵyl Ffilm Cwm Llynfi yn ystod 2025, a rhannwch syniadau gyda gwyliau a chanolfannau eraill ledled Cymru.
Strwythr y Sesiwn
- 10am – Cyflwyniadau
- 10.05 – Gŵyl Arswyd Abertoir
- 10.15 – Gŵyl Animeiddio Caerdydd
- 10.25 Awen - Gŵyl Ffilmiau Cwm Llynfi (fideo)
- 10.35 – Pwyntiau trafod, cwestiynau agored a mewnbwn gan westeion o wyliau eraill
- 11.30 – Diwedd
Pryd / Ble:
- Dydd Iau 3 Rhagfyr 2026 – Ar-lein (drwy Zoom)
- 10am – 11:30am