Canolfan Ffilm Cymru yn dyfarnu dros £50,000 i helpu sinemau a gwyliau i ailuno cymunedau Cymreig drwy ffilm

13 Gorffennaf 2021

Mae Canolfan Ffilm Cymru (FHW) wedi dyfarnu £52,700 mewn cyllid Loteri Cenedlaethol, drwy Gronfa Arddangos Ffilmiau Rhwydwaith Cynulleidfa BFI (FAN) i 8 sinema annibynnol a gwyliau ffilm wrth iddyn nhw ailagor yn dilyn Covid-19. I rai, dyma fydd y tro cyntaf i’w drysau agor ers Mawrth 2020.

Defnyddir arian i helpu i gyflwyno’r ffilmiau DU a rhyngwladol gorau yn ôl i’r sgrin fawr mewn cymunedau yng Nghymru. Fe fydd arddangoswyr yn cefnogi llesiant a lleihau ynysigrwydd a grewyd gan y pandemig, a chynnig digwyddiadau fforddiadwy a hygyrch i gynulleidfaoedd ar-lein ac yn y sinemau lleol maen nhw’n eu hadnabod a’u caru. O linynnau ffilmiau a qollwyd i animeiddio Cymreig niwroamrywiol fe fydd cymunedau yn chwarae rôl allweddol mewn ffurfio dychweliad sinema.

Yn Theatr Gwaun yn Abergwaun maen nhw wedi bod yn brysur yn ail-lunio’r rhaglen ffilmiau a’r adeilad gyda chymorth y gymuned. Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl gofod wedi’i ddiwedaru yn cynnwys caffi Martha a gweithgareddau newydd i ymwelwyr ifanc.

Dywedodd Sue Whitbread, Prif Weithredwraig Theatr Gwaun:

Mae’r dyfarniad gan Ganolfan Ffilm Cymru yn golygu ein bod yn gallu agor ein drysau eto ym mis Gorffennaf fel yr addawyd i’n cymuned. Theatr Gwaun ydy’r unig arddangosydd ffilmiau yng ngogledd Sir Benfro wledig ac mae’n ffynhonnell hanfodol o adloniant. Wedi gosod pob mesur diogelwch rhag Covid rydym yn barod i ailgroesawu ein cynulleidfa i amgylchedd diogel a chyfeillgar. 

Mae ein panel Ffilm Cymunedol wedi datblygu rhaglen newydd sydd yn cynnwys rhagor o ffilmiau annibynnol, ffilmiau Cymraeg a nosweithiau digwyddiadau ffilm gyda chyflwynwyr gwadd. Mae pobl ifanc hefyd wedi cael eu hannog i gael mynegi barn POINT PRESENTS, noson ffilm fisol. Rydym wedi datblygu ein caffi dydd a gofod digwyddiadau, Martha, a fydd yn dangos ffilm archif a gasglwyd gan y gymuned. Mae’r adeilad hefyd yn cael gwedd newydd yr haf yma gyda murlun cymunedol newydd mawr.

Ym Mlaenau Ffestiniog, mae CellB yn dod â’r byd i’w cynulleidfa drwy ffilm, drwy eu rhaglen ieuenctid ‘Sinema’r Byd .’ Fe fydd dros 50 o ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol i bob oed yn archwilio diwylliant a newid hinsawdd, y gall cynulleidfaoedd eu mwynhau yn ein Sgrin 2 newydd.

Dywedodd Rhys Roberts, perchennog Cellb:

Fe fydd ein pobl ifanc yn croesawu a chyfarch a chynghori, chwerthin a gwrando ar ein cynulleidfaoedd ifanc a hen. Fe fyddwn yn creu croeso Cymreig wrth i’n cynulleidfaoedd ddychwelyd i CellB a phrofi’r Sgrin 2 newydd a sefydlwyd fell le i’n holl gymuned ddod ynghyd i wylio ffilmiau.

Gyda chyfyngiadau Covid i’w hadolygu ym mis Gorffennaf mae safleoedd ar draws Cymru yn gweithio’n galed i baratoi ar gyfer ailagor yn ddiogel ac yn hyfyw.

Mae Hana Lewis, Rheolwraig Strategol Canolfan Ffilm Cymru yn esbonio:

Mae’n garreg filltir enfawr i ailagor i’r cyhoedd ac mae sinemau a gwyliau wedi gweithio’n ddiflino i wneud i hyn ddigwydd. Mae ffordd heriol o’n blaenau wrth inni ailadeiladu ac mae sinemau angen cefnogaeth cynulleidfaoedd nawr yn fwy nag erioed ond mae hon yn foment i edrych ymlaen ac adfer o’r cyfnod a dreuliwyd ar wahân. Mae ffilmiau hir ddisgwyliedig yn cael eu rhyddhau ac mae arddangoswyr yn barod i’n diddanu ond diolch i’w ffocws cymunedol mae gan bob un ohonom gyfle i chwarae rhan gweithredol yn nyfodol sinema.

Mae Cronfa Arddangos Ffilmiau FAN BFI yn bosibl drwy gyllid y Loteri Cenedlaethol gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) drwy ei Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN). Mae’r gronfa yn cynnig cymorth i arddangoswyr ar draws y DU i hybu rhaglennu diwylliannol ac ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd amrywiol wrth i gyfyngiadau lacio. Gweinyddir y cronfeydd yng Nghymru gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy Chapter fel y Corff Arweiniol Canolfan Ffilm.

Mae’r Loteri Cenedlaetholo yn codi £36 miliwn yr wythnos i achosion da ar draws y DU.

Diwedd.

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma

Images/Delweddau – left to right: Off Y Grid and Wicked Wales, Kotatsu Japanese Animation Festival, Cardiff Animation Festival © Mission Photographic, Pontardawe Arts Centre, CellB – Sgrin 2, Theatr Gwaun July Reopening, WOW “Wales One World” Film Festival

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda:

Rhanbarth: Gogledd Cymru 

Off Y Grid:
Fe fydd 8 lleoliad ar draws Gogledd Cymru (CellB, Galeri, Neuadd Dwyfor, Neuadd Ogwen, Pontio, Tape, Ty Pawb [Sinema 73] a Dragon Theatr) yn cydweithio drwy’r flwyddyn i ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau Prydeinig ac annibynnol ar draws y rhanbarth gan ganolbwyntio ar sinema fforddiadwy i gynulleidfaoedd gwledig. Gan ganolbwyntio ar iechyd a llesiant wrth i gynulleidfoedd ddychwelyd i’r sinema, fe fydd y rhaglen yn cynnwys ffilmiau calonogol, llinyn ffilmiau a gollwyd a dangosiadau maes mewn cartrefi gofal a chanolfannau dydd. Fe fyddan nhw hefyd yn canolbwyntio ar strategaeth marchnata i gefnogi dychweliad cynulleidfaoedd ar draws y lleoliadau sydd yn cymryd rhan. 

 Twitter, Facebook 

Rhanbarth: Gogledd Orllewin Cymru 

CellB (Blaenau Ffestiniog):
Fe fydd Gwallgofiaid Cellb yn ailgysylltu cynulleidfaoedd ym Mlaenau Ffestiniog gyda’r byd ehangach yn dilyn Covid-19, drwy archwiilio diwylliant a newid hinsawdd ar y sgrin. Eu nod ydy creu gofod diogel lle y gall y gymuned deithio’r byd drwy ffilm ar brisiau fforddiadwy. Gyda dros 50 o ffilmiau rhyngwladol i gynulleidfaoedd ifanc, teuluoedd a phensiynwyr a 25 o ddangosiadau arbennig o ffilmiau rhyngwladol i bobl ifanc 12-16 oed. Fel menter ieuenctid, mae’n nhw’n gweithio i ehangu mynediad i'r celfyddydau i bobl ifanc yn y Blaenau a hefyd cefnogi eu cynulleidfaoedd hŷn drwy ddangosiadau rheolaidd hygyrch, fforymau a phecynnau cludo’i ffwrdd i gadw’r gymuned mewn cysylltiad.

Gwefan TwitterFacebook 

Rhanbarth: Gogledd Orllewin Cymru 

Rhwydwaith Gŵyl Ieuenctid Cymru Wicked Wales (Rhyl):
Mae WYFN yn gweithio gyda gwyliau a lleoliadau ffilm Cymreig i greu cyfleoedd i bobl ifanc sydd yn frwdfrydig dros ffilmiau yng Nghymru,. Yn 2021 fe fydd 3-4 o wyliau Cymreig yn derbyn cymorth wedi’i deilwra gan y rhwydwaith. Fe fydd WYFN hefyd yn parhau i ddatblygu Ffilm Ifanc: grŵp o raglenwyr ifanc a fydd yn rhoi cyngor i’r gwyliau gan sicrhau bod lleisiau ifanc yn cyrraedd y diwydiant a chynulleidfaoedd. Fe fydd y cyllid hefyd yn sefydlu grŵp llywio WYFN bychan o 9 5-6 o wyliau a fydd yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn i ddatblyhgu’r rhwydwaith yn seiliedig ar gydraddoldeb a pherchnogaeth wedi’i rannu.

The Wales Youth Festival Network  is led by Wicked Wales

Gwefan, TwitterFacebook  

Rhanbarth: De Ddwyrain Cymru 

Gŵyl Animeiddio Caerdydd (Caerdydd):
Gan ddarparu cyfle pwysig ar gyfer dangosiadau animeiddio yng Nghymru fe fydd GAC yn cyflwyno rhaglen o ddangosiadau ar-lein ac mewn lleoliadua fel Chapter a Cardiff Rooftop Cinema yn Jacobs Market. Fe fyddan nhw’n bartneriaid gyda Biggerhouse Film ‘Different Voices’ i arddangos gwaith animeiddwyr/gwneuthurwyr ffilm niwroamrywiol a Gŵyl Animeiddio Ryngwladol Capetown ar raglen fer wedi ei churadu gan wneuthurwyr ffilm Cymreig, wedi’u lleoli yng Nghymru ac Affricanaidd.

GwefanTwitterFacebook

Clwb Ffilm Pontardawe/Canolfan Gelfyddydau Pontardawe (Nedd Port Talbot):
Fel ailagoriad peilot gyda mesurau diogelwch Covid yn eu lle, mae Clwb Ffilm Pontardawe, mewn partneriaeth gyda Chanolfan Gelfyddydau Pontaradwe yn bwriadu dangos 3 ffilm ym mis Mehefin/Gorffennaf i aelodau’r Clwb Ffilm ac yna dangosiadau misol wrth i’r sinema ailagor. Fe fyddan nhw’n creu offeryn fideo i gynulleidfaoedd ddychwelyd i’r lleoliad ac ymgyrch/strategaeth marchnata ar gyfer ffilmiau arbenigol i ehangu aelodaeth. Fe fydd y peilot yn baratoad ar gyfer ail-lansio’r Clwb Ffilm ym mis Medi gyda rhaglen o weithgaredd ffilm parhaol.

GwefanTwitterFacebook 

Gŵyl Animeiddip Kotatsu Siapaneiadd (Caerdydd):
Fe fydd Gŵyl Animeiddio Kotatsu Siapaneaidd yn dychwelyd am ei 11eg tymort yn dilyn Covid-19 gyda chymysgedd o ddangosiadu ar-lein ac yn Chapter, Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth a phartneriaeth newydd gyda Llyfrgell Caerdydd lle y byddan nhw’n cynnal gweithdai’n berthynol i Japan-Anime. Fe fydd y rhaglen yn cynnwys ffilmiau fel Akira, Evangelion a Ongaku (i’w cadarnhau). Y nod ydy ailymgysylltu gyda chynulleidfaoedd, cyflwyno animeiddio Siapaneaidd i’r gynulleidfa ehangaf posibl yng Nghymru, cynyddu ymwybyddiaeth o’r diwydiant ffilm animeiddio yn Siapan. Gan fod 2021 wedi’i nodi yn Dymopr Diwylloiant Siapan DU i gyd-fynd gyda’r Gemau Olympaidd yn Tokyo, mae hefyd yn cynnig cyfle i ddathlu diwylliant ehangach Siapan ar y sgrin.

GwefanTwitterFacebook
 

Rhanbarth, De Orllewin Cymru 

Theatr Gwaun (Abergwaun):

Mae Theatr Gwaun yn sinema cymunedol yng nghanol Sir Benfro wledig. Mae’n chwarae rhan bwysig gan roi mynediad lleol i adloniant ffilm amrywiol i’r rhai sydd yn ei chael yn heriol i deithio ymhell oherwydd costau, symudedd a materion cymdeithasol eraill.

Fe wnaethon nhw ailagor fel sinema ar 2 Gorffennaf 2021 mewn ymateb i’r galw gan y gymuned gan gynnig rhaglen ffilm wedi’i theilwra o 24 o ddangosiadau y mis, gan gadw pellter cymdeithasol. Mae nifer o nodweddion newydd ar eu gwefan newydd i hyrwyddo rhaglenni ffilm ac annog pobl yn y gymuned i gymryd rhan. Mae gweithgareddau newydd yn cynnwys panel ffilm cymunedol, dangosiadau i bobl sydd yn byw ar eu pen eu hunain a phartneriaeth gyda POINT (corff cefnogi ieuenctid mawr). 

Gwefan Twitter, Facebook 

Rhanbarth: Cymry Gyfan 

Gŵyl Ffilm WOW (Aberystwyth ac ar-lein):
 Fe fydd WOW yn cyflwyno gŵyl ‘gyfunol’ ym Mawrth 2022 sydd yn cyfuno gweithgaredd ‘yn y sinema’ yn Aberystwyth gyda darpariaeth ar-lein DU gyfan. Wrth baratoi fe fydd WOW yn treialu digwyddiad ‘cyfunol’ bychan yn Hydref 2021 i’w galluogi i adiolygu’r dull gorau a hefyd eu ôl troed carbon.

Fe fydd digwyddiad yr Hydref yn cynnwys tair ffilm yn y sinema, yn cynnwys ffilm deulu yn addas i aelodau Clwb Ffilm WOW ac un gyda thrafodaeth panel. Fe fydd WOW hefyd yn cynnig tair ffilm ar-lein drwy Eventive i gynulleidfa DU gyfan gyda digwyddiad panel yn cael ei ffrydio’n fyw i gynulleidfaoedd gartref.

Fe fydd y digwyddiad yma yn rhoi cyfle i WOW ailgysylltu gyda’u cynulleidfa ffyddlon yn Aberystwyth sydd heb fod yn y sinema ers 2019 ac amser i gynnal gwaith maes i ailgysylltu gydag aelodau Clwb Ffilm BIPOC.

Gwefan, Twitter, Facebook 

Am Canolfan Ffilm Cymru:

Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn cefnogi cyrff sy’n dangos ffilmiau – o wyliau ffilmiau i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 315 o arddangoswyr ein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013 rydym wedi cefnogi dros 250 o brosiectau sinema a chyrraedd dros 480,000 o aelodau cynulleidfa.

Rydym yn rhan o rwydwaith wyth canolfan yn y DU a gyllidir gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) fel rhan o  Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN), mae Chapter  wedi’i benodi fel y Corff Arwain Canolfan Ffilm (FHLO) yng Nghymru.

Rydyn ni hefyd yn falch o arwain ar strategaeth sinema cynhwysol DU ar ran FAN BFI. 

GwefanTwitterFacebook 

Am Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI
Gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol, mae'r Rhwydwaith Cynulleidfas Ffilm BFI (FAN), yn ganolog i nod y BFI i sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilm ar gael i bawb. Wedi'i sefydlu yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd sinema'r DU ehangach a mwy amrywiol ar gyfer ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol, mae FAN yn gydweithrediad unigryw, ledled y DU sy'n cynnwys wyth Canolfan a reolir gan sefydliadau ffilm a lleoliadau blaenllaw sydd wedi'u gosod yn strategol ledled y wlad. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiad talent gyda Gweothredwyr Talent Rhwydwaith BFI ym mhob un o'r Canolfannau Saesneg, gyda chenhadaeth i ddarganfod a chefnogi awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Canolfannau Ffilm FAN BFI yw:

  • Arweinir Canolfan Ffilm Canolbarth Lloegr gan Broadway, Nottingham yn gweithio mewn partneriaeth â'r Flatpack o Birmingham
  • Film Hub North dan gyd arweinyddiaeth Showroom Workstation, Sheffield, a HOME Manchester.
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Ddwyrain gan yr Independent Cinema Office
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Orllewin gan Watershed ym Mryste
  • Arweinir Canolfan Ffilm yr Alban gan Glasgow Film Theatre
  • Arweinir Canolfan Ffilm Gogledd Iwerddon gan Brifysgol Queen's, Belfast
  • Arweinir Canolfan Ffilm Cymru gan Chapter yng Nghaerdydd
  • Arweinir Canolfan Ffilm Llundain gan Film London

Gwefan 

Am BFI

Rydym yn elusen diwylliannol, dosbarthydd y Loteri Cenedlaethol a chorff arweiniol y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth ydy:

  • cefnogi creadigrwydd a mynd ati i chwilio am y genhedlaeth nesaf o storïwyr y DU
  • tyfu a gofalu am Archif Genedlaethol y BFI, archif ffilm a theledu mwyaf y byd
  • cynnig yr ystod ehangaf o ddiwylliant delweddau symudol y DU a rhyngwladol drwy ein rhaglenni a'n gwyliau - a gyflwynir ar-lein ac mewn lleoliad
  • defnyddio ein gwybodaeth i addysgu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd
  • gweithio gyda'r Llywodraeth a'r diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU

Wedi'i sefydlu ym 1933, mae'r BFI yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Frenhinol.
Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr BFI yw Tim Richards.

GwefanFacebook, Twitter

Am Chapter
Mae Chapter yn un o ganolfannau celfyddydau mwyaf a mwyaf deinamig Ewrop gyda sinemau, theatrau, gofod arddangos, stiwdios a chaffi, bariau arobryn, dros 60 o ofod gweithio diwylliannol a rhagor.

Mae gan Chapter enw da rhyngwladol am ragoriaeth, arloesi a chydweithredu. Mae’n cynnig rhaglen newidiol barhaus o’r perfformiadau, ffilmiau ac arddangosfeydd gorau o Gymru ac o amgylch y byd.

GwefanFacebookTwitter 

^
CY