Gwneud cais am Fwrseriaeth Hyfforddi

Bwrsariaethau Hyfforddi

Darganfyddwch sut i wneud cais.

Ymgeisiwch am fwrsari ar gyfer cyfleoedd hyfforddi, digwyddiadau ac ymgynghoriaeth. Byddwch yn ehangu ar eich sgiliau fel arddangoswr ffilmiau ac yn buddio’ch sefydliad.

Dewiswch dab i weld...

Mae’r gronfa fwrsari hon yn galluogi staff a gwirfoddolwyr sefydliadau sy’n aelodau o Ganolfan Ffilm Cymru i ddatblygu eu sgiliau, gan fuddio’u sefydliad a’r rhwydwaith CFfC ehangach.

O fynychu cyfarfodydd strategol y tu allan i’ch awdurdod lleol i gyrsiau mwy dwys am farchnata neu godi arian – y nod cyffredinol yw datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol o’r DU a ffilmiau rhyngwladol a delweddau byw yn fwy cyffredinol o Gymru.

Gallwch weld a lawr lwytho’r canllawiau yma
(lawrlwythiadau PDF neu Word ).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: lisa@filmhubwales.org

Mae Canolfan Ffilm Cymru yn cynnig cyfleoedd drwy gydol y flwyddyn ar gyfer gweithgaredd arddangos annibynnol yng Nghymru. Gall aelodau wneud cais i’r canlynol:

Rydym hefyd yn cynnig digwyddiadau rhwydweithio, cyrsiau hyfforddi, cymorth marchnata, a newyddion ffilm.

^
CY