Grŵp Cynghori

Iris on the Move 2020 © Harrison Williams

Mae ein grŵp cynghori yn cynrychioli ystod eang o aelodau Canolfan Ffilm Cymru o fewn y sector diwylliannol ac arddangos.

Tae’r grŵp yn cynnwys amrywiaeth o gyrff yn cynrychioli canolfannau, addysg, treftadaeth, codi arian, cynhwysiant, rhaglennu (mewn ardaloedd gwledig a threfol), rheolaeth gwyliau, ymchwil cynulleidfa a datblygu.

Beth mae’r grŵp yn ei wneud:

  • Gweithredu fel llysgennad i’r Ganolfan a chynrychioli amcanion aelodau Canolfan Ffilm Cymru.
  • Cefnogi meini prawf eang a chynhwysol ar gyfer aelodaeth o CFfC.
  • Cymeradwyo blaenoriaethau blynyddol ac arolygu strategaeth holl amcanion datblygu Canolfan Ffilm Cymru.
  • Mynychu cyfarfodydd/ cynadleddau CFfC a chynnig cefnogaeth ac arbenigedd diwydiant (lle bo’n briodol i aelodau CFfC)
  • Ystyried cyfleoedd datblygu strategol i alluogi CFFC ehangu ei gweithgareddau.
  • Penderfynu ar aelodau o Is- bwyllgor CFfC.
  • Mynychu is-bwyllgorau o’r grŵp cynghori yn ôl y galw/ ar gais rhesymol tîm rheoli CFfC

Grŵp Cynghori cyfredol Canolfan Ffilm Cymru:

Memo Arts Centre full bio coming soon

Mae Rhiannon wedi treulio 19 mlynedd yn creu cyfleoedd newydd i bobl ifanc drwy gyfrwng y Celfyddydau a Gŵyliau Ffilm. Yn 2016 roedd yn un o sylfaenwyr Wicked Wales, gŵyl ffilm ryngwladol sy’n dangos ffilmiau byrion o Gymru a’r byd i bobl ifanc. Yn 2017 daeth a grŵp o wirfoddolwyr o Little Theatre yn Rhyl a rhaglenwyr ifanc Canolfan Ffilm Cymru at ei gilydd i greu Wicked Cinema, sinema symudol, gymunedol, fforddiadwy.

Yn gyson mae Rhiannon wedi edrych ar ffyrdd o ehangu cyfranogiad a mynediad i’r celfyddydau a’r diwydiannau creadigol i bobl ifanc yng Nghymru. Yn gyn is-gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru a Ffilm Cymru ac yn Ymddiriedolwr Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru a chadeirydd Scala Cinema Trust ei hamcan yw annog pobl ifanc i gyfrannu a chymryd rhan mewn trafodaethau. Fel cyn Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac fel cynghorydd ers dros 20 mlynedd mae hi wastad wedi hyrwyddo’r gwaith yma. Yn ddiweddar ymunodd â bwrdd Hijinx.

Fel rhyng-genedlaetholwraig creda ym mhwysigrwydd creu cyfleon rhyngwladol i bobl ifanc ac mae’n falch o fod yn aelod o fwrdd ymgynghorol y Cyngor Prydeinig yng Nghymru.

Sana SoniMae Sana Soni yn swyddog gweithredol gwerthiant a dosbarthu ffilmiau annibynnol wedi’i lleoli yn Washington, DC, yn wreiddiol o Budapest a New Delhi.

Mae ganddi gefndir helaeth mewn gwerthiant ffilmiau a theledu o lu o stiwdios ac annibynwyr yn Los Angeles a Llundain, yn cynnws Discovery, Warner Bros, NBC Universal, Signature Entertainment, National Geographic, a Walden Media. Yn raddedig o UCLA ac Academi Ffilm Efrog Newydd mae ganddi arbenigedd marchnad byd go iawn mewn ffilmiau nodwedd a chyfresi mewn datbygiad neu’r rhai sydd yn chwilio am ddosbarthiad.

Mae Sana wedi siarad yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol DC a bu’n aelod rheithgor Gŵyl Ffilmiau Brooklyn ac roedd hefyd yn gynhyrchydd gweithredol ar gyfres deledu ffurf byr cyfan o’r cychwyn i’w chyflwyniad yn ystod cyfnod clo COVID-19.

Sara Hulls B&W

Sara Hulls yw Cyd-gyfarwyddwr a Rheolwr Lleoliad The Magic Lantern Cinema yn Nhywyn, canolbarth Cymru. Mae Sara wedi bod yn rheoli’r Magic Lantern ers 2017 ac mae’n gyfrifol am redeg, rhaglennu a rheoli digwyddiadau’r lleoliad yn gyffredinol.

Er mai sinema yw’r Magic Lantern yn bennaf, sy’n dangos dangosiadau dyddiol, mae’n esblygu i fod yn lleoliad celfyddydau cymysg gyda cherddoriaeth fyw, comedi byw, sioeau theatr, gweithdai celfyddydol a Nosweithiau Parti chwedlonol Magic Lantern!

Mae Sara yn frwd dros greu cysylltiadau cryf gyda’r gymuned ac yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau i ddod â’r gymuned at ei gilydd a sicrhau rhaglen amrywiol sy’n apelio at bawb o fewn y gymuned.

Head of Digital, Aardman… full bio coming soon.

 

 

 

 

 

 

Nia Edwards-Behi B&W

Mae Nia wedi’i hymdrochi yn niwylliant ffilm Cymru ers dros 15 mlynedd, ac mae ganddi brofiad yn, ac angerdd dros, y celfyddydau a’r cyfryngau yn ehangach. Mae gan Nia doethuriaeth o Brifysgol Aberystwyth, a gweithiodd yng Aberystwyth Arts Centre am ddegawd, cyn gweithio am gyfnod i S4C ac yna ymuno ag Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2023.

Mae Nia yn gyd-gyfarwyddwr ar Ŵyl Arswyd Abertoir, yn rhaglennu ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Cymru a’r Byd yn Un ac yn cyfrannu’n rheolaidd at ddigwyddiadau a chyhoeddiadau ar ffilm. Trwy gydol ei gyrfa mae Nia wedi arbenigo mewn materion cynrychiolaeth, cynhwysiant a mynediad.

^
CY