Amdanom ni

© Mission Photographic / Anim18

Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn ariannu, yn hyfforddi ac yn cynghori sefydliadau sy'n sgrinio ffilm, o wyliau ffilm, i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydol cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 300 o arddangoswyr ein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU. Roeddem hefyd yn falch o arwain strategaeth Sinema Gynhwysol y DU ar ran FAN BFI 2017-23.

Rydym yn rhan o rwydwaith wyth canolfan yn y DU a gyllidir gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) fel rhan o Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN). Mae Chapter wedi’i benodi fel y Corff Arwain Canolfan Ffilm (FHLO) yng Nghymru.

Os ydych chi'n sgrinio ffilmiau i gynulleidfa gyhoeddus, gallwch ddod yn aelod ac elwa o'n hymchwil, cyrsiau hyfforddi, bwrsariaethau, cronfeydd, cyngor a mwy. Os ydych chi'n wneuthurwr ffilmiau, edrychwch ar ein daflen gymorth i wneuthurwr ffilmiau a dosbarthwyr i gael cyngor ar sut y gallwn hyrwyddo eich ffilm i'n rhwydweithiau.

Dewiswch dab i weld...

Mae aelodaeth am ddim.

Mae cyrff cymwys yn cynnwys:

  • Sinemâu (cylchedau annibynnol a lleol / cenedlaethol),
  • Lleoliadau celfyddydau cymysg,
  • Cymdeithasau ffilm a sinemâu cymunedol sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr,
  • Sinemâu teithiol a rhwydweithiau sgrin cymunedol,
  • Gwyliau ffilm,
  • Archifau sgrin,
  • Digwyddiadau ffilm pop-up rheolaidd,
  • Sefydliadau academaidd,
  • Amgueddfeydd ac orielau,
  • Adrannau ac asiantaethau awdurdodau lleol,
  • Asiantaethau datblygu lleol a rhanbarthol,
  • Grwpiau cymunedol a darparwyr hamdden

Fel aelod, mae gennych fynediad at hyn i gyd a mwy am ddim:

  • Cymorth ariannol – Gallwch wneud cais i Ganolfan Ffilm Cymru i sgrinio ffilmiau annibynnol a rhyngwladol Prydain,
  • Cefnogaeth hyrwyddo ar – gyfer eich dangosiadau drwy wasg a chymdeithasu Canolfan Ffim Cymu a thudalen benodol ar ein gwefan / map,
  • Partneriaethau – Cysylltwch â dros 300 o arddangoswyr eraill ledled Cymru, gan gynnwys gwyliau, sinemâu, archifau ac ymgynghorwyr ifanc,
  • Cyngor – O gymorth prosiect i adeiladu eich cynulleidfaoedd, i ymholiadau arddangos o ddydd i ddydd,
  • Diweddariadau rhaglenni, asedau a sgriniau ar gyfer y teitlau ffilm Prydeinig (gan gynnwys Cymru) a ffilmiau rhyngwladol,
  • Eiriolaeth y DU ar gyfer eich lleoliad / sefydliad,
  • Cyrsiau hyfforddi, rhwydweithio, digwyddiadau, adnoddau ar-lein, diwrnodau rhagolwg ffilm, cynlluniau cynghori a bwrsariaethau i helpu gyda'ch costau dysgu.
  • Mynediad at ymchwil a data newydd,
  • Mynediad at newyddion a chyfleoedd opportunities drwy negeseuon e-bost Canolfan Ffilm Cymru a FAN BFI, megis rowndiau ariannu a data'r swyddfa docynnau.

Rhaid i aelodau gefnogi ein hamcanion gefnogi ein hamcanion strategaeth Diwylliant Sgrîn 2033 BFI.

Dewch yn Aelod ac archwilio ein canllawiau cyllido ar gyfer datblygu a hyfforddi'r gynulleidfa.

Diolch i arian y Loteri Genedlaethol, ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013, rydyn ni wedi cefnogi dros 310 o brosiectau sinema, gan gyrraedd dros 560,000 o aelodau'r gynulleidfa. Cymerwch olwg ar rai o'r uchafbwyntiau hyd yma i ddarganfod beth rydyn ni wedi'i ariannu yn y gorffennol a phrosiectau rydyn ni wedi'u creu:


Uchafbwyntiau'r Gorffennol

Uchafbwyntiau 2022 - 2023

Daeth 2022 â heriau newydd, o fywyd ar ôl Covid, i argyfwng costau byw ond fe wnaethoch barhau i ddod â phrofiadau ffilm i gymunedau ledled Cymru. O Ŵyl newydd Windrush yng Nghasnewydd, i ddangosiadau stryd lleol yng Nglan-yr-afon, daeth cynulleidfaoedd ynghyd i gefnogi eu sinemâu lleol. Gadewch i ni edrych ar rai o'r pethau rydyn ni wedi'u cyflawni gyda'n gilydd yn ystod 2022/23. Darllen mwy

 

 

 

Uchafbwyntiau 2021 - 2022

Yn ystod ansicrwydd byd-eang, fe wnaethoch chi groesawu cynulleidfoedd yn ôl i rannu hud cymunedol y sinema drwy ddangosiadau a digwyddiadau ymgysylltu. Fe wnaethoch chi ddathlu diwylliant Cymru drwy ffilmiau Cymreig, rhoi llwyfan i straeon oedd yn llai adnabyddus drwy raglenni wedi’u curadu a chodi ymwybyddiaeth drwy gyrsiau a thrafodaethau. Darllen mwy.

 

 

 

Uchafbwyntiau 2020 - 2021

Mae hi wedi bod yn flwyddyn a hanner. Rydych chi wedi mynd yn rhithiol, awyr agored ac wedi ailddychmygu eich modelau busnes. Rydych wedi troi eich sinemau yn fanciau bwyd, wedi cynnig cyflenwi meddyginiaethau ac wedi bod wrth law i roi cefnogaeth emosiynol i’ch cymunedau yn ystod yr ynysu. Rydych wedi dangos gwytnwch, nifer ohonoch yn parhau i ddatblyu ffyrdd o gyrraedd cynulleidfaoedd a goroesi’r pandemig. Wrth i safleoedd ar draws y DU ddechrau ailagor, rydym yn edrych yn ôl ar rai o’r pethau cyffrous rydym wedi eu cyflawni gyda’n gilydd yn 20/21. Darllen mwy.

 

 

Uchafbwyntiau 2019 - 2020

Bu’n ddiwedd heriol i’r flwyddyn ond mae cymaint o waith gwych wedi’i gyflawni, diolch i’ch gwaith caled a’ch cefnogaeth chi. Rydyn ni eisiau treulio munud i edrych yn ôl ar rhai o’r pethau cyffrous a ddigwyddodd yn 2019/20. Darllen mwy.

Cwestiynnau a ofynnir yn aml am Ganolfan Ffilm Cymru a’r BFI FAN.

Y Grŵp Cynghori Canolfan Ffilm Cymru sy’n arwain ac arolygu strategaeth y Ganolfan.

Mae nifer o gyrff sgrîn eraill ar gael yng Nghymru a gallent eich cefnogi.

Geirda

Running a cinema can, ironically, be quite an insular experience and the existence of the Hub is essential in providing help, vision and support and this resource should never be under appreciated - we do really rely on this agency existing and flourishing.

Exhibitor

Outstanding supportive organisation- great network to be part of.

Exhibitor

I would never have screened a Welsh language film without the Hub’s support because [this] isn’t a Welsh language speaking area. We undertook surveys to see what percentage of the audience were Welsh speaking and that’s something we never would have done […] It was the support from the Film Hub that got that going effectively.

Exhibitor

If there was a film with a Welsh focus I would absolutely jump at working with Film Hub Wales again […] They were very open, they were very communicative (…) and it makes it much easier to have a conversation when people do that, to see what the vision is and how you can pair up.

Distributor

If you want to get into the industry and have no idea how, this is honestly the best way. It was the best decision I’ve ever made!

Lacey Small - Wicked Young Programmer

Screening Scratch and Sniff Matilda was a joy. Our audience loved it and the whole process was made easy and fun for us, the organisers too. The information package was very detailed and easy to follow and we got the impression that the Film Hub Wales team had a great time creating it and all the beautiful accompanying artwork.

BFI FAN Member

It has been incredibly important to have this continuation of access to new films through online screening days, Film Hub screening rooms and screening links provided direct from the distributors. Without these it is hard to see how we can do our jobs. Nothing gets you more motivated to book, sell and promote a film screening in your venue than connecting with the film - and if you can't see the film - then that connection can't happen.

Exhibitor
^
CY