‘Y Stori Gyflawn’ – Platfform newydd yn cefnogi Ffilmiau Cymreig

© Showdown (Fine Rolling Media), Censor (Vertigo Releasing), The Toll (Signature Entertainment)
9ed 08 Medi 2021

Mae Canolfan Ffilm Cymru (FHW) wedi lansio cyfres newydd o gyfweliadau, podlediadau a rhagor, wedi’u dylunio i ddathlu ffilmiau Cymreig gyda chysylltiadau Cymreig.

Y cyntaf i ymddangos ydy cyfweliadau gyda doniau y tu ôl i’r ffilmiau newydd Censor a The Toll. Mae’r Stori Gyflawn, sydd yn rhan o linyn Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru, yn gweithio mewn cydweithrediad gyda gwneuthurwyr a dosbarthwyr ffilmiau i dynnu sylw at y straeon y tu ôl i’r sgrin wrth iddyn nhw gyrraedd gwyliau a sinemau.

Wrth i leoliadau annibynnol barhau i adfer o’r pandemig COVID-19, y nod ydy hybu proffil ffilmiau Cymreig ac annog cynulleidfaoedd i ddychwelyd i’r sinema.

Dywedodd Hana Lewis, Rheolwraig Strategol Canolfan Ffilm Cymru: 

“Credwn y dylai ffilmiau Cymreig gael eu cydnabod yn fyd-eang a’r lle gorau i’w gweld ydy yn ein sinemau neu wyliau lleol. Rydym yn edrych ar beth mae ‘Cymreictod’ yn ei olygu i gynulleidfaoedd drwy edrych y tu ô i’r straeon y tu ôl i’r sgrin, o brofiadau rhaglenwyr sinema, i Gyfarwyddwragedd a thu hwnt. Mae’n hanfodol bod ffilmiau annibynnol gyda chysylltiadau Cymreig yn weledol, i wneud y mwyaf o fuddsoddiad i’r sector sgrin, i sicrhau bod lleisiau cudd yn cael eiu clywed a hefyd datblygu canfyddiad rhyngwladol o Gymru’.

Mae’r Stori Gyflawn hefyd yn anelu at gefnogi ac ysbrydoli talent Cymreig, hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael yng Nghymru, helpu i gau’r bwlch sgiliau nid yn unig mewn cynhyrchu, mewn marchnata ffilmiau, gohebiaeth, rhaglennu a gwerthiant – sydd yr un mor hanfodol i roi pob cyfle i ffilmiau Cymreig lwyddo

Fel y mae Cyfarwyddwr Censor, Prano Bailey-Bond, a anwyd yn Aberystwyth, yn esbonio:

"Bu’r gefnogaeth a dderbyniais o Gymru wrth wneud a rhyddhau fy ffilm gyntaf, gan gyrff, sinemau a chynulleidfaoedd, yn enfawr ac yn hanfodol. Mae’n gyfnod annhygoel o gyffrous i grewyr Cymreig ac mae’n wych bod Canolfan Ffilm Cymru yn rhoi’r sylw inni. Gobeithio y bydd yn amlygu ymhellach y potensial creadigol sydd yn bodoli yn y wlad ac yn rhoi hyd yn oed rhagor i gynulleidfoaedd yng Nghymru i’w fwynhau ac i ymfalchïo ynddo."

Dywedodd awdur sgrin The Toll, Matt Redd o Hwlffordd:

"Mae Cymru yn gyflym yn datblygu i fod yn ganolfan byd enwog ar gyfer cynhyrchu ffilm a theledu, ond fel gwneuthurwr ffilm a anwyd ac sydd yn byw yng Nghymru, rwyf yn fwyaf cyffrous am y cyfle i adrodd straeon Cymreig sydd yn benodol i fywyd Cymru. Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn cynnig platfform gwych i straeon Cymru gysylltu gyda chynulleidfoaedd lleol, gan adeiladu momentwm yn nhaith ffilm i gynulleidfaoedd ar draws y byd."

Dywedodd Ben Luxford, Pennaeth Cynulleidfaoedd DU yn BFI:

“Fe fydd Y Stori Gyflawn Canolfan Ffilm Cymru yn cynnig darlun gwych i gynulleidfaoedd o ffilmiau a gwneuthurwyr ffilmiau Cymreig. Diolch i chwaraewyr y Loteri Cenedlaethol, mae’r BFI yn cenfogi y gyfres gyfan a hefyd yn helpu i gyllido gwneud Censor a The Toll.”

Fe fydd arddangoswyr yn gallu cael mynediad i asedau a grerwyd drwy Y Stori Gyflawn i gychwyn sgyrsiau gyda’u cynulleidfaoedd am ffilmiau Cymreig a chreu disgwyliad am ffilmiau newydd. Fel rhan o’r rhaglen Gwnaethpwyd yng Nghymru, mae llu o weithgareddau eraill drwy gydol y flwyddyn yn cynnwys rhagddangosiadau ar gyfer rhaglenwyr ffilm i fod yng nghatalog ffilmiau FHW sydd â dros 100 o ffilmiau a ffilmiau byr gyda chysylltiadau Cymreig .

Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn bodoli diolch i gyllid y Cymru Greadigol a Loteri Cenedlaethol gan y Sefydliad Ffilmiau Prydeinig (BFI) drwy ei Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN). Mae Canolfan Ffilm Cymru yn datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol Prydeinig a rhyngwladol drwy gydol y flwyddyn drwy Chapter fel Corff Arweinol Canolfan Ffilm.

Mae’r Loteri Cenedlaetholo yn codi £36 miliwn yr wythnos i achosion da ar draws y DU.

Gall cynulleidfaoedd ddilyn newyddion diweddaraf Gwnaethpwyd yng Nghymru ar wefan FHW neu drwy via @filmhubwales arFacebook, Twitter ac Instagram.

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma

-DIWEDD-

Censor
Mae Fedor Tot yn holi’r Cyfarwyddwr Prano Bailey-Bond, a anwyd yn Aberystwyth a sensor ffilm o Fwrdd Prydeinig Dosbarthu Ffilmiau (BBFC). Maen nhw’n trafod ei ffilm arswyd Censor a ryddhawyd yn y DU ar Awst 20. Darllenwch y cyfweliad yma a pheidiwch â cholli’r ffilm yn Chapter, Cellb, Pontio Bangor a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, gyda rhagor o leoliadau i’w cyhoeddi.

The Toll & Showdown
Fe fu Swyddog Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru, Radha Patel yn siarad hefyd gyda’r awdur sgrin Matt Redd a’r Cyfarwyddwr Ryan Hooper. Eu ffilm gyffro-gomic dywyll – The Toll, am weithredwr tollborth unig gyda gorffennol sydd yn gyflym ddal i fyny gydag ef, a ryddhawyd ar Awst 27 yn y DU. Mae Lewis Carter a Kristian Kane a chyd-gyfarwyddodd Showdown (a ysgrifenwyd gan Carter) ac a ddangosir ochr yn ochr gyda The Toll mewn sinemau dethol, yn ymuno gyda nhw. Ffilm fer ydy Showdown am fachgen ifanc awtistig sydd wrth ei fodd gyda ffilmiau cowbois sydd yn wynebu gwrthdaro dros enaid ei bentref, y siop gornel leol.

Gwrandewch ar y podlediad yma a pheidiwch â cholli y ffilm yn Kinokulture, Theatr Gwaun, Monmouth Savoy, Pavilions Teignmouth, Sinema Pontio Chalmers Filmhouse Arbroath Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Everyman a rhagor o safleoedd i’w cyhoeddi.

Am Canolfan Ffilm Cymru:

Nod Canolfan Ffilm Cymru ydy cyflwyno rhagor o ffilmiau i ragor o bobl mewn rhagor o leoedd o amgylch Cymru. Yn rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI, a gyda chefnogaeth cyllid y Loteri Cenedlaethol, mae Canolfan Ffilm Cymru yn rheolaidd yn datblygu ffyrdd dyfeisgar i bobl yng Nghymru fynd i’r sinema gyda’i leoliadau aelod annibynnol.

Film Hub Wales (FHW) is one of eight UK wide ‘hubs’ part of the BFI Film Audience Network (FAN) and supported with National Lottery funding, with Chapter appointed as the Film Hub Lead Organisation (FHLO) in Wales. We aim to develop the exhibition sector through dedicated research, training and audience development project support. Since Film Hub Wales set up in 2013, we’ve supported over 225 exciting cinema projects, reaching over 480,000 audience members.

Rydym hefyd yn falch o arwain ar strategaeth sinema cynhwysol ar ran FAN BFI strategaeth sinema cynhwysol ar ran FAN BFI.

Gwefan, Twitter, Facebook, Instagram

Am Cymru Greadigol

Yn asiantaeth mewnol Llywodraeth Cymru, mae Cymru Greadigol wedi ymrwymo i ddatblygu’r sector ffilm a theledu yng Nghymru gan ddarparu cymorth drwy eu cyllido, datblygu sgiliau a thalent ar gyfer cynyrchiadau buddsoddi mewnol a chartref. Ein cenhadaeth ydy gyrru twf ar draws y diwydiannau creadigol, adeiladu ar lwyddiant sydd eisoes yn bodoli a gosod Cymru fel un o’r lleoedd gorau i fusnesau creadigol ffynnu.

Gwefan, Twitter

Am Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI

Gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol, mae'r Rhwydwaith Cynulleidfas Ffilm BFI (FAN), yn ganolog i nod y BFI i sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilm ar gael i bawb. Wedi'i sefydlu yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd sinema'r DU ehangach a mwy amrywiol ar gyfer ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol, mae FAN yn gydweithrediad unigryw, ledled y DU sy'n cynnwys wyth Canolfan a reolir gan sefydliadau ffilm a lleoliadau blaenllaw sydd wedi'u gosod yn strategol ledled y wlad. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiad talent gyda Gweothredwyr Talent Rhwydwaith BFI ym mhob un o'r Canolfannau Saesneg, gyda chenhadaeth i ddarganfod a chefnogi awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Canolfannau Ffilm FAN BFI yw:

  • Arweinir Canolfan Ffilm Canolbarth Lloegr gan Broadway, Nottingham yn gweithio mewn partneriaeth â'r Flatpack o Birmingham
  • Film Hub North is led jointly by Showroom Workstation, Sheffield and HOME Manchester
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Ddwyrain gan yr Independent Cinema Office
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Orllewin gan Watershed ym Mryste
  • Arweinir Canolfan Ffilm yr Alban gan Glasgow Film Theatre
  • Arweinir Canolfan Ffilm Gogledd Iwerddon gan Brifysgol Queen's, Belfast
  • Arweinir Canolfan Ffilm Cymru gan Chapter yng Nghaerdydd
  • Arweinir Canolfan Ffilm Llundain gan Film London

FAN BFI Gwefan

Am BFI

Rydym yn elusen diwylliannol, dosbarthydd y Loteri Cenedlaethol a chorff arweiniol y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth ydy:

  • cefnogi creadigrwydd a mynd ati i chwilio am y genhedlaeth nesaf o storïwyr y DU
  • tyfu a gofalu am Archif Genedlaethol y BFI, archif ffilm a theledu mwyaf y byd
  • cynnig yr ystod ehangaf o ddiwylliant delweddau symudol y DU a rhyngwladol drwy ein rhaglenni a'n gwyliau - a gyflwynir ar-lein ac mewn lleoliad
  • defnyddio ein gwybodaeth i addysgu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd
  • gweithio gyda'r Llywodraeth a'r diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU

Wedi'i sefydlu ym 1933, mae'r BFI yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Frenhinol.

Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr BFI yw Tim Richards.

Am Chapter

Mae Chapter yn un o ganolfannau celfyddydau mwyaf a mwyaf deinamig Ewrop gyda sinemau, theatrau, gofod arddangos, stiwdios a chaffi, bariau arobryn, dros 60 o ofod gweithio diwylliannol a rhagor.

Mae gan Chapter enw da rhyngwladol am ragoriaeth, arloesi a chydweithredu. Mae’n cynnig rhaglen newidiol barhaus o’r perfformiadau, ffilmiau ac arddangosfeydd gorau o Gymru ac o amgylch y byd.

Gwefan, Facebook, Twitter

Darllenwch fwy am 'Yr Stori Cyfan' a 'Gwnaethpwyd yng Nghymru'

^
CY