Picturing Our Past: Celebrating Wales’s film heritage – six special screenings and a brand new app!

“Yr etifeddiaeth ffrwythlon honno o’r ganrif ddiwethaf” - dyna sut y cyfeiriodd Dave Berry, yr hanesydd ffilm y mae cymaint o golled ar ei ôl, at ddiwylliant ffilm Cymru. Mae’r dreftadaeth honno bellach yn cael ei dathlu mewn ffordd gwbl newydd – gyda chyfres o ddangosiadau ffilm ledled Cymru, i hyrwyddo cyhoeddiad ‘ap’ newydd blaengar, ar gael i’w lawrlwytho am ddim, Fframio’n Gorffennol / Picturing Our Past, a fydd yn adrodd stori ffilm a theledu Cymru drwy blethu geiriau a chlipiau ffilm o fewn un cynhyrchiad di-dâl.

Bydd y dangosiadau, a drefnir gan Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dan nawdd Film Hub Wales as part of the BFI Film Audience Network (FAN), yn paru ffilm o’r gorffennol gyda ffilm fwy cyfoes. Ar 27 Chwefror yn Sinema’r Phoenix, Ton Pentre, dangosir y ffilm ddogfen Today We Live (1937), gyda’i siotiau enwog o lowyr yn casglu glo mân ar domen, ochr yn ochr â Dark Horse (2015) – y ffilm ddogfen gynnes, arobryn am y ceffyl rasio enwog a brynwyd a hyfforddwyd gan syndicet o Gefn Fforest. Yna ar 5 Mawrth yn Yr Egin, Caerfyrddin bydd cyfle i weld Atgyfodi – ffilm newydd, bwerus y cyfansoddwr John Rea ynghyd â Tryweryn - the Story of a Valley (1965), a wnaed gan blant Ysgol Friars, Bangor.

Ar 23 Mawrth bydd Sinema’r Coliseum, Aberhonddu yn dangos Rhosyn a Rhith/Coming Up Roses (1987) – comedi apelgar sydd yn ddathliad hyfryd o fyd y sinema, yn portreadu’r Rex yn Aberdâr yn benodol – ynghyd â Cinema Memories – ffilm fer o atogfion melys trigolion Cwm Afan o fynychu a gweithio yn y sinema ‘slawer dydd. Bydd seren y brif ffilm – Dafydd Hywel – yn ymuno â’r gynulleidfa am sesiwn cwestiwn-ac-ateb ar y diwedd, ac hefyd yn dilyn y dangosiad dilynol yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych ar 3 Ebrill, ble caiff y gynulleidfa hefyd gyfle i fwynhau’r ffilm ddogfen hwyliog, Dial-a-Ride. Bydd y daith yn gorffen ar 29 Mai gyda dangosiad o’r gomedi chwerw-felys Gymreig newydd Denmark, yn Sinema Sadwrn, Llansadwrn.

Bydd yr ap Fframio’n Gorffennol /Picturing Our Past, a gyhoeddir gyda nawdd gan Gyngor Llyfrau Cymru, yn diweddaru llyfr arloesol Dave Berry, Wales and Cinema, gyda thechnoleg ddigidol yn galluogi’r awduron, Colin Thomas a Iola Baines, i gynnwys clipiau o ffilmiau allweddol o orffennol sinematig Cymru.

Meddai Iola Baines, Curadur Delweddau Symudol yn Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

Nod yr ap hwn yw cyflwyno treftadaeth gyfoethog sinema Cymru i gynulleidfaoedd a dilynwyr newydd – ac rydym yn falch o fedru cynnwys enghrheifftiau trawiadol o ffilm i ddod â’r hanes yma’n fyw, ar ffurf clipiau o ddelweddau symudol o bob degawd. Rydym yn gobeithio bydd yr esiamplau difyr yma yn ysbrydoli pobl i durio’n ddyfnach i’r hanes rhyfeddol hwn, gan ddarganfod y bobl a’r straeon y tu ôl i’r ffilmiau – ac o bosib i fynd ati i ychwanegu at yr hanes drwy greu a ffilmio eu straeon eu hunain!

Meddai Colin Thomas (cynhyrchydd/gyfarwyddwr cyfresi hanes fel The Dragon Has Two Tongues, ac enillydd sawl gwobr megis y Prix Europa a thair gwobr BAFTA Cymru am y Rhaglen Ddogfen Orau):

Mae’n gyffrous gallu anrhydeddu’r tradoddiad gwneud-ffilmiau Cymreig yr ydw i wedi ymdrechu i gyfrannu ato, ac i alluogi cenhedlaeth newydd i ddarganfod mor gyfoethog yw’r tradoddiad hwnnw.

Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd  Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

Mae'r e-lyfr newydd yma yn ffordd gyffrous a blaengar o gyflwyno casgliadau clyweledol cyfoethog y Llyfrgell Genedlaethol, gan gynnig llwybr ffres a chyfoes i ddefnyddwyr o bob math fedru cyrraedd at y dreftadaeth apelgar hon. At hyn, mae'r daith ffilm sydd yn hyrwyddo'r e-lyfr yn ffordd ardderchog o fynd â'n ffilmiau i'r 'priffyrdd a'r caeau', gan estyn allan at gynulleidfaoedd ym mhob cwr o Gymru sydd o bosib erioed wedi gweld ffilmiau archifol ar y sgrin fawr, nag wedi gwneud y cyswllt rhwng yr hen a'r newydd yng nghyd destun y sinema Gymreig.

Hana Lewis, Film Hub Wales’s Strategic Manager adds:

Picturing our Past fuses new screen technologies with Welsh heritage, taking an innovative approach to audience development for films with Welsh connections. This is a fantastic new resource and we’re delighted to support The National Library of Wales Screen and Sound Archive as they bring these important stories to cinemas across Wales.

Bydd lansiad swyddogol i’r ap ym mis Mai, gyda digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd.

^
CY