Amdanom ni

© Mission Photographic / Anim18

Amdanom ni

Rydym yn rhan o rwydwaith o wyth canolfan ledled y DU sy’n cael eu hariannu gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) sy’n ffurfio’r Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN), ac mae Chapter ydy ‘Corff Arweiniol Canolfannau Ffilm yng Nghymru.

Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn cefnogi cyrff sy’n dangos ffilmiau – o wyliau ffilmiau i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 315 o arddangoswyr ein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU.

Os oes mwy o ddiddordeb gennych mewn creu, mae gwybodaeth am gefnogaeth i wneuthurwyr / arddangoswyrt ar gael. Gwylio yw’r nôd felly os ydych yn dangos ffilmiau i gynulleidfaoedd gallwch elwa ar ein gwaith ymchwil, cyrsiau hyfforddi, bwrseriaethau, cronfeydd, cyngor a mwy. Ar ôl ymaelodi gallwch hyd yn oed wneud cais am gefnogaeth i ddatblygu eich cynulleidfa ffilm.

Rydym hefyd yn falch o arwain strategaeth Sinema gynhwysol y DU ar ran BFI FAN.

Ers 2013 rydym wedi cefnogi 250 o brosiectau datblygu cynulleidfa gan ddenu dros 480,000 o bobl. Edrychwch ar rai o’r uchafbwyntiau hyd yma ar draws ein rhwydwaith yng Nghymru a thu hwnt.













 


Cwestiynnau a ofynnir yn aml am Ganolfan Ffilm Cymru a’r BFI

Y Grŵp Cynghori Canolfan Ffilm Cymru sy’n arwain ac arolygu strategaeth y Ganolfan.

Mwy o wybodaeth am Chapter, ein Corff Arwain Canolfan Ffilm (FHLO) yng Nghymru.

Mae’r Rhwydwaith yn cynnwys wyth Canolfan ar draws y DU. Mae Corff Arwain pob Canolfan yn derbyn cyllid rhanbarthol gan BFI i ddarparu gweithgaredd datblygu cynulleidfa, ymchwil a hyfforddiant. Mae’r canolfannau hefyd yn cyd-weithio ar brosiectau.

Darllen mwy - Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI

Mae nifer o gyrff sgrîn eraill ar gael yng Nghymru a gallent eich cefnogi:

^
CY