Mae ei ddiddordebau yn cynnwys ymchwil cymuned, arddangos a chynulleidfa, er bod ei brofiad proffesiynol yn ymestyn yn ehangach i gynnwys addysg ffilm a chyfryngau, gwerthuso prosiectau a dadansoddi’r farchnad ffilmiau. Ers 2006 mae Jim wedi cyflawni ystod eang o gomisiynau drwy ei ymgynghoriaeth, Bigger Picture Research, gan ddarparu ymchwil meintiol ac ansoddol, gwerthuso prosiectau, hyfforddiant a chyngor cynllunio busnes a strategaeth.
Bu’r British Board of Film Classification, British Federation of Film Societies, British Film Institute, BOP Consulting, Creative Skillset, Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd, European Audiovisual Observatory, Asiantaeth Ffilm Cymru, First Light, Irish Film Censor’s Office, Swyddfa Cyfathrebiadau, Screen England, Screen East ac UK Film Council i gyd yn gleientiaid iddo. Mae Jim hefyd yn Gadeirydd sylfaen Sinema Cymunedol Llancarfan, , arddangosydd arobryn ym Mro Morgannwg a gaiff ei redeg gan wirfoddolwyr.
Mae Jim wedi gweithio yn y diwydiannau creadigol am bron i ugain mlynedd. Cyn sefydlu Bigger Picture Research oedd yn Bennaeth ymchwil ac Ystadegau yn y Film Council UK, Pennaeth Polisi yn yr Awdurdod Safonau Hysbysebu ac yn Arholwr Ffilm a Fideo yn y British Board of Film Classification. Bu Jim yn gadeirydd Rhwydwaith Ymchwil Ffilm DU a bu’n allweddol wrth sefydlu’r Rhwydwaith Ymchwil Asiantaethau Ffilm Ewropeaidd. Rhwng 2004 a 2007 bu Jim yn aelod o Banel Cynghori BBFC ar Wylio Plant. Mae ganddo ddoethuriaeth a ariannwyd gan y BFI. Mae’n aelod o BAFTA a Bwrdd Addysg Cyfryngau Cymru.
Mae Jim wedi ysgrifennu’n helaeth ar bynciau ffilm mewn cylchgronnau ac ar-lein a chyhoeddwyd ei lyfr ar ffilm Peter Jackson, Bad Taste (1988), gan Wallflower Press/Columbia University Press ym mis Rhagfyr 2008.