Wyth o Ffilmiau Cymreig yn dod i Sinemau yn 2022

© Censor (Picturehouse), Donna (Bohemia Media), Save the Cinema Limited 2021, Hijra (Ila Mehrotra), Rebel Dykes (Bohemia / BFI)
Iau, 13eg Ionawr

O’r ffilm arswyd Gymraeg, Gwledd, wedi ei lleoli yn Eryri, i’r gymuned drawsrywiol yn Dehli Newydd yn y ddogfen Hijra – mae wyth ffilm eclectig yn cyflwyno doniau a straeon Cymreig ar y sgrin fawr yn 2022. 

Mae’r wyth ffilm yn cynnig cyfle i gynulleidfaoedd ddarganfod rhywbeth newydd am Gymru, o straeon Cymreig lleol anadnabyddus fel y frwydr i achub sinema’r Lyric yng Nghaerfyrddin (Save the Cinema), i straeon byd-eang Cynghrair Genedlaethol Affrica sydd yn cael eu hadrodd drwy lygaid Cymry fel Gordon Main a John Giwa-Amu (London Recruits). 

Drwy eu llinyn Gwnaethpwyd yng Nghymru mae Canolfan Ffilm Cymru (FHW) yn gweithio gyda dosbarthwyr, sinemau Cymru a gwyliau ffilm i hyrwyddo’r ffilmiau i gynulleidfaoedd ehangach.

Dywedodd Hana Lewis, Rheolwraig Strategol Canolfan Ffilm Cymru:

Mae’r ffilmiau hyn yn dangos bod digon i’w ddarganfod am fywyd yng Nghymru, y tu hwnt i’n tirwedd gwledig. Mae gan wneuthurwyr ffilm Cymreig straeon sydd yn arwyddocaol yn fyd-eang i’w hadrodd sydd yn gallu ysbrydoli talent newydd a chynulleidfaoedd lleol. Drwy Gwnaethpwyd yng Nghymru mae gennym gyfle i ystyried sut y gall y ffilmiau a wnaethpwyd yn ein gwlad roi llais byd eang inni ac adeiladu’r diwydiant ffilm o’n cwmpas. Mae rhagor o ymwybyddiaeth o’r ffilmiau yma yn gallu bod yn fuddiol i’n synnwyr o gymuned a hunaniaeth diwylliannol.

Mae Cymru yn lle cynyddol gyffrous ar gyfer ffilm, gyda sgrptiau yn denu actorion fel Rebel Wilson (The Almond and the Seahorse) a Samantha Morton (Save the Cinema) i rolau amlwg a dim ond rhai o’r teitlau a ragwelwyd yn 2021 ydy’r rhain. Fe wnaeth FHW olrhain a chefnogi 27 o ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig rhwng 2019 a 2021.

Wrth i leoliadau weithio i adfer o’r pandemig – mae nifer o wneuthurwyr ffilm yn gobeithio y bydd cynulleidfaoedd yn mynd i weld y ffilmiau yma ar y sgrin fawr fel y bwriadwyd.

Dywedodd Roger Williams, awdur Gwledd:

Pe byddem yn ddigon eofn ynghylch adrodd ein straeon ar y sgrin fawr, fawr yma, gallem adeiladu’r math o ddiwylliant lle nad ydy hi’n anarferol gweld ffilmiau Cymraeg yn ein sinemau.

Ychwanegodd Delphine Lievens, Pennaeth Dosbarthu yn Bohemia Media:

Rydym yn falch o gyflowyno Donna i gynulleidfaoedd ar draws y DU yn ddiweddarach eleni. Mae Donna yn ffigur unigryw ac ysbrydo9ledig ac mae’n cael ei phortreadu mor gywir gan y tîm o wneuthurwyr ffilm Cymreig talentog y tu ôl i’r ffilm.

Gall cynulleidfaoedd dderbgyn y newyddion diweddaraf am ffilmiau i ddod ar wefan adran Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru neu trwy ddilyn @FilmHubWales ar y cyfryngau cymdeithasol.  

Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn bodoli diolch i gyllid gan Cymru Creadigol a chyllid Loteri Cenedlaethol gan BFI (Sefydliad Ffilmiau Prydeinig) drwy ei Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN). Mae Canolfan Ffilm Cymru yn datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau Prydeinig annibynnol a ffilmiau rhyngwladol dryw gydol y flwyddyn – gweinyddir cyllid yng Nghymru gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy Chapter fel y Corff Arweiniol Canolfannau Ffilm. Caiff dros 30M ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ar draws y DU gan y Loteri Cenedlaethol.

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma

-DIWEDD-

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda: 

Radha Patel, Swyddog Gwnaethpwyd yng Nghymru / radha@filmhubwales.org  
Lisa Nesbitt, Swyddog Datblygu, ar 02920 311 067 lisa@filmhubwales.org   
Hana Lewis, Strategic Manager, on 02920 353 740 hana@filmhubwales.org   

Am Ganolfan Ffilm Cymru 

Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn cefnogi cyrff sy’n dangos ffilmiau – o wyliau ffilmiau i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 315 o arddangoswyr ein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013 rydym wedi cefnogi dros 250 o brosiectau sinema a chyrraedd dros 480,000 o aelodau cynulleidfa.

Rydym yn rhan o rwydwaith DU gyfan o wyth canolfan sydd yn ffurfio’r Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BF gyda chefnogaeth cyllid gan y Loteri Cenedlaethol. Chapter ydy ‘Corff Arweiniol Canolfannau Ffilm yng Nghymru.

Rydym hefyd yn falch o arwain ar strategaeth sinema cynhwysol ar ran FAN BFI.

GwefanTwitterFacebook Instagram 

Am Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI  

Gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol, mae'r Rhwydwaith Cynulleidfas Ffilm BFI (FAN), yn ganolog i nod y BFI i sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilm ar gael i bawb. Wedi'i sefydlu yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd sinema'r DU ehangach a mwy amrywiol ar gyfer ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol, mae FAN yn gydweithrediad unigryw, ledled y DU sy'n cynnwys wyth Canolfan a reolir gan sefydliadau ffilm a lleoliadau blaenllaw sydd wedi'u gosod yn strategol ledled y wlad. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiad talent gyda Gweothredwyr Talent Rhwydwaith BFI ym mhob un o'r Canolfannau Saesneg, gyda chenhadaeth i ddarganfod a chefnogi awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.  

Canolfannau Ffilm FAN BFI yw:  

  • Canolfan Ffilm y Midlands dan arweiniad Broadway, Nottingham yn gweithio mewn partneriaeth gyda Flatpack Birmingham 
  • Arweinir Canolfan Ffilm y Gogledd ar y cyd gan Showroom Workstation, Sheffield a HOME Manchester  
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Ddwyrain gan yr Independent Cinema Office  
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Orllewin gan Watershed ym Mryste 
  • Arweinir Canolfan Ffilm yr Alban gan Glasgow Film Theatre  
  • Arweinir Canolfan Ffilm Gogledd Iwerddon gan Brifysgol Queen's, Belfast  
  • Arweinir Canolfan Ffilm Cymru gan Chapter yng Nghaerdydd 
  • Arweinir Canolfan Ffilm Llundain gan Film London 

BFI FAN website 

Am BFI 
Rydym yn elusen diwylliannol, dosbarthydd y Loteri Cenedlaethol a chorff arweiniol y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth ydy: 

  • cefnogi creadigrwydd a mynd ati i chwilio am y genhedlaeth nesaf o storïwyr y DU 
  • tyfu a gofalu am Archif Genedlaethol y BFI, archif ffilm a theledu mwyaf y byd 
  • cynnig yr ystod ehangaf o ddiwylliant delweddau symudol y DU a rhyngwladol drwy ein rhaglenni a'n gwyliau - a gyflwynir ar-lein ac mewn lleoliad 
  • defnyddio ein gwybodaeth i addysgu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd 
  • gweithio gyda'r Llywodraeth a'r diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU 

Wedi'i sefydlu ym 1933, mae'r BFI yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Frenhinol. 
Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr BFI yw Tim Richards.  

Am Chapter 

Chapter ydy un o ganolfannau celfyddydau mwyaf, a mwyaf deinamig Ewrop gyda sinemau, theatrau, gofod arddangos, stiwdios a chaffi, bariau arobryn a dros 60 gofod gweithio diwylliannol a mwy. Mae gan Chapter enw da rhyngwladol am ragoriaeth, arloesi a chydweithredu. Mae’n cynnig rhaglen newidiol barhaus o ffilmiau ac arddangosfeydd gorau o Gymru ac o amgylch y byd. 

Gwefan, Facebook, Twitter 

Darllenwch fwy am Gwnaethpwyd yng Nghymru a'r Stori Gyfan
^
CY