Am Ganolfan Ffilm Cymru
Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn cefnogi cyrff sy’n dangos ffilmiau – o wyliau ffilmiau i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 315 o arddangoswyr ein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013 rydym wedi cefnogi dros 250 o brosiectau sinema a chyrraedd dros 480,000 o aelodau cynulleidfa.
Rydym yn rhan o rwydwaith DU gyfan o wyth canolfan sydd yn ffurfio’r Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BF gyda chefnogaeth cyllid gan y Loteri Cenedlaethol. Chapter ydy ‘Corff Arweiniol Canolfannau Ffilm yng Nghymru.
Rydym hefyd yn falch o arwain ar strategaeth sinema cynhwysol ar ran FAN BFI.
Gwefan, Twitter, Facebook Instagram
Am Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI
Gyda chefnogaeth cyllid y Loteri Cenedlaethol, mae FAN BFI yn ganolog i nod y BFI o sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilm ar gael i bawb. Wedi’i sefydlu yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd sinema DU ehangach a mwy amrywiol i ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol, mae FAN yn gydweithrediad DU gyfan, unigryw sydd yn cynnwys wyth o ganolfannau a reolir gan gyrff a lleoliadau ffilm amlwg wedi’u lleoli’n strategol o amgylch y wlad. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiad talent gyda Swyddogion Talent Rhwydwaith BFI ym mhob un o’r canolfannau yn Lloegr, gyda chenhadaeth o ddarganfod a chefnogi.awduron, cyfarwyddwyr a chyfarwyddwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.
Canolfannau Ffilm FAN BFI:
- Canolfan Ffilm y Midlands dan arweiniad Broadway, Nottingham yn gweithio mewn partneriaeth gyda Flatpack Birmingham
- Film Hub North dan gyd arweinyddiaeth Showroom Workstation, Sheffield, a HOME Manchester
- Film Hub South East dan arwieniad y Swyddfa Sinema Annibynnol
- Film Hub South West dan arweiniad Watershed ym Mryste
- Film Hub Scotland dan arweiniad Glasgow Film Theatre
- Film Hub Northern Ireland dan arweiniad Queen’s University Belfast
- Canolfan Ffilm Cymru dan arweiniad Chapter yng Nghaerdydd
- Film Hub London dan arweiniad Film London
BFI FAN website
Am BFI
Rydym yn elusen diwylliannol, dosbarthydd y Loteri Cenedlaethol a chorff arweiniol y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth ydy:
- Cefnogi creadigrwydd a chwilio am y genhedlaeth nesaf o adroddwyr stori yn y DU
- Tyfu a gofalu am Archif Cenedlaethol BFI, yr archif ffilm a theledu mwyaf yn y byd
- Cynnig yr amrediad ehangaf o ddiwylliant delweddau symudol DU a rhyngwladol drwy ein rhaglenni a’n gwyliau – ar-lein ac mewn lleoliadau
- Defnyddio ei gwybodaeth i addygsu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd
- Gweithio gyda’r Llywodraeth a diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU
Wedi’i sefydlu ym 1933, mae BFI yn elusen gofrestredig wedi’i llywodraethu gan Siarter Brenhinol.
Caiff Bwrdd Llywodraethwyr y BFI ei gadeirio gan Tim Richards.
Am Chapter
Chapter ydy un o ganolfannau celfyddydau mwyaf, a mwyaf deinamig Ewrop gyda sinemau, theatrau, gofod arddangos, stiwdios a chaffi, bariau arobryn a dros 60 gofod gweithio diwylliannol a mwy.
Mae gan Chapter enw da rhyngwladol am ragoriaeth, arloesi a chydweithredu. Mae’n cynnig rhaglen newidiol barhaus o ffilmiau ac arddangosfeydd gorau o Gymru ac o amgylch y byd.
Gwefan, Facebook, Twitter