Bwrsariaeth Hyfforddiant a Sgiliau

Darganfyddwch sut i wneud cais.

Darllenwch ein Bwrsariaeth Hyfforddiant a Sgiliau cyn wneud cais

Ymgeisiwch am fwrsari ar gyfer cyfleoedd hyfforddi, digwyddiadau ac ymgynghoriaeth. Byddwch yn ehangu ar eich sgiliau fel arddangoswr ffilmiau ac yn buddio’ch sefydliad.

© Delwedd: Gentle/Radical

Dewiswch dab i weld...

Mae’r gronfa fwrsari hon yn galluogi staff a gwirfoddolwyr sefydliadau sy’n aelodau o Ganolfan Ffilm Cymru i ddatblygu eu sgiliau, gan fuddio’u sefydliad a’r rhwydwaith CFfC ehangach.

O fynychu cyfarfodydd strategol y tu allan i’ch awdurdod lleol i gyrsiau mwy dwys am farchnata neu godi arian – y nod cyffredinol yw datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol o’r DU a ffilmiau rhyngwladol a delweddau byw yn fwy cyffredinol o Gymru.

Gallwch weld a lawr lwytho’r canllawiau yma.

Lawrlwythiadau PDF neu Word (wedi'i hoptimeiddio ar gyfer hygyrchedd)

 
  • Gellir gwneud cyflwyniadau ar sail treigl (heb ddyddiad cau penodol) ond dydyn ni ddim yn derbyn ôl-gyflwyniadau.
  • Darllenwch ein Bwrsariaeth Hyfforddiant a Sgiliau.
  • Lawrlwythwch y Ffurflen Gais Word (wedi'i hoptimeiddio ar gyfer hygyrchedd)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: [email protected]

Mae Canolfan Ffilm Cymru yn cynnig cyfleoedd drwy gydol y flwyddyn ar gyfer gweithgaredd arddangos annibynnol yng Nghymru. Gall aelodau wneud cais i’r canlynol:

Rydym hefyd yn cynnig digwyddiadau rhwydweithio, cyrsiau hyfforddi, cymorth marchnata, a newyddion ffilm.

^
CY