Gwledd yn dod â’r iaith Gymraeg yn ôl i Sgriniau Sinema am y tro cyntaf mewn tair blynedd

© Picturehouse Entertainment
Dydd Mawrth, 16ef Awst, 2022

Gwledd (The Feast), ffilm arswyd iasol Gymraeg ei rhyddhau mewn sinemâu yn unig ar Awst 19eg,eddrwy Picturehouse Entertainment. Dyma’r ffilm Gymraeg gyntaf i’w dangos i gynulleidfaoedd sinema ers rhyddhau’r ffilm ddogfen gerddorolumentary, Anorac yn 2019.  

Wedi’i gosod yng nghanolbarth Cymru, cafodd y ffilm ei gyrru gan dalent Cymreig. Wedi ei hysgrifennu gan Roger Williams a’i chyfarwyddo gan Lee Haven-Jones, mae’n cynnwys actorion amlwg Cymraeg Nia Roberts a Julian Lewis Jones, yn ogystal â thalentau newydd Steffan Cennydd ac Annes Elwy.  

Mae Annes Elwy yn chwarae Cadi – menyw ifanc sydd yn derbyn swydd fel gweinydd i deulu cyfoethog yng nghefn gwlad Cymru, ar drothwy parti pwysig. Wrth i’r noson fynd rhagddi mae’n dechrau herio credoau’r teulu gan ddatgelu’r twyll y maen nhw wedi ei greu gyda chanlyniadau brawychus.  

Mae’r ffilm yn arwyddocaol i Gymru, gan gyflwyno’r Gymraeg i gynulleidfaoedd newydd yn fydeang, tra hefyd yn ateb galw lleol gan Gymry i wylio straeon yn eu mamiaith. Yn draddodiadol mae cais wedi bod am fersiynau deuol o ffilmiau. Mae Gwledd, sydd yn Gymraeg yn unig yn creu llwybr ar gyfer ffyrdd newydd o weithio. Mae’n anrhydeddu’r Gymraeg a hefyd yn agor y drws ar gyfer gwneud rhagor o ffilmiau. Fe fydd cydweithrediad newydd rhwng S4C a Cymru Creadigol yn golygu y bydd miliwn yn cael ei fuddsoddi yn flynyddol mewn ffilmiau Cymraeg gan gefnogi ymrwymiad y Senedd i ddatblygu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a dangos newid cadarnhaol tuag at wneud ffilmiau Cymraeg.

Dywedodd Roger Williams, awdur Gwledd:

“Pe byddem yn ddigon eofn ynghylch adrodd ein straeon ar y sgrin fawr, fawr yma, gallem adeiladu’r math o ddiwylliant lle nad ydy hi’n anarferol gweld ffilmiau Cymraeg yn ein sinemau.” 

Cefnogir rhyddhau’r ffilm gan linyn Gwnaethpwyd yng Nghymru, Ganolfan Ffilm Cymru sydd yn dathlu ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig gan greu mwy o ymwybyddiaeth o straeon o gymunedau Cymreig a helpu i ffurfio ein hunaniaeth diwylliannol.

Dywedodd Radha Patel, Swyddog Gwnaethwyd yng Nghymru yng Nghanolfan Ffilm Cymru:  

“Mae ffilmiau Cymreig yn helpu i ffurfio diwylliant Cymru. Mae gan y straeon rydym yn eu hadrodd ar y sgrin gyrhaeddiad byd-eang – yn newid y ffordd y mae’r byd yn gweld ein gwlad. Mae’n gyffrous cael ffilm Gymraeg yn dod i sinemâu lleol a chyunedau unwaith eto ond ni ddylai hyn fod yn eithriad. Mae Cymru yn gartref i genedl amrywiol o adroddwyr straeon ac mae cynulleidfoaed Cymru y n haeddu gweld rhagor o ffilmiau sydd yn cynrychioli eu iaith, gwlad a diwylliant. Gwyddom y gall Gwledd ysbrydoli talent newydd i wneud y ffilmiau maen nhw eisiau eu gweld.” 

Drwy Gwnaethpwyd yng Nghymru gall sinemâu ddangos cyfweliad arbennig gyda Roger Williams ac Annes Elwy, a hefyd traethawd creadigol gan yr awdur llawrydd ac ymchwlydd Rosie Couch, sydd yn edrych ar gyd-destun gwleidyddol ac amgylcheddol y ffilm. Mae Canolfan Ffilm Cymru a Picturehouse hefyd wedi cydweithio i sicrhau y bydd gan sinemâu Cymru fynediad i bosteri Cymraeg, rhagddangosiadau, disgrifiadau sain a phenawdau trwm eu clyw i wylwyr b/Byddar Cymraeg.

Derbyniodd Gwledd gyllid gan yr asiantaeth datblygu cenedlaethol, Ffilm Cymru Wales.

Mae Kimberely Warner, Pennaeth Cynhyrhcu Ffilm Cymru Wales yn esbonio pam bod y ffim yn arwyddocaol:

“Rydym mor falch o fod wedi cefnogi’r ffilm unigryw hon trwy ein cynllun ar gyfer ffilmiau nodwedd cyntaf ‘Sinematic’, ac hefyd o Roger a Lee sydd nawr yn mentora’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilm Cymraeg trwy ein cynllun datblygu talent ‘Labordy’. Mae o wedi bod yn blwyddyn addawol i sinema Gymraeg fel cyfan, gyda premieres yng nghwyliau gyffrous yn dod yn fuan ar gyfer ffilmiau Ffilm Cymru ‘Jelly’ (wedi’u hysgrifennu a’u cyfarwyddo gan Sam O’Rourke) a ‘Nant’ (ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Tom-Chetwode Barton). Mae ffilmiau fel Gwledd, a gefnogir gan asiantau gwerthu a dosbarthwyr cryf, sy’n ennill clod rhyngwladol yn ogystal â chenedlaethol, yn helpu i baratoi’r ffordd ar gyfer gwireddu potensial llawn a ddangos yr holl amrywiaeth yn ffilm Gymraeg.

Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn cynnig llu o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn mewn partneriaeth gydag arddangoswyr Cymreig, yn cynnwys catalog ffilmiaugyda 600 o ffilmiau byr a hir gyda chysylltiadau Cymreig. Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn derbyn cyllid gan Creative Wales a chyllid y Loteri Cenedlaethol drwy Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI DU gyfan. Fel rhan o FAN, mae Canolfan Ffilm Cymru yn datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol Prydeinig a rhyngwladol drwy gydol y flwyddyn. Gweninyddir cyllid yng Nghymru gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy Chapter fel y Corff Arweiniol Canolfannau Ffilm.  

Mae dros £30m yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU gan y Loteri Genedlaethol. 

-DIWEDD-

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn

Bydd Gwledd mewn sinemâu o 19 Awst 2022. Mae dyddiadau yn amodol i newid. Cadwch lygad ar wefan y sinema ar gyfer manylion am ddangosiadau ffilmiau i ddod.

Drwy eu llinyn Gwnaethpwyd yng Nghymru mae Canolfan Ffilm Cymru wedi comisiynu cyfres o asedau i gefnogi sinemau annibynnol lleol sydd yn dangos y ffilm arswyd Gymraeg 'Gwledd' yn Awst 2022. Mae arddangoswyr fynediad unigryw i gardiau dyfyniadau cymdeithasol, traethawd creadigol yn rhoi manylion am neges wleidyddol y ffilm a chyfweliad gyda’r awdur Roger Williams a’r actors Annes Elwy. 

Cliciwch isod er mwyn darganfod mwy:

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda:

Am Canolfan Ffilm Cymru: 

Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn cefnogi cyrff sy’n dangos ffilmiau – o wyliau ffilmiau i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 315 o arddangoswyr ein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013 rydym wedi cefnogi dros 250 o brosiectau sinema a chyrraedd dros 465,000 o aelodau cynulleidfa. 

Rydym yn rhan o rwydwaith wyth canolfan yn y DU a gyllidir gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) fel rhan o Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN). Mae Chapter wedi’i benodi fel y Corff Arwain Canolfan Ffilm (FHLO) yng Nghymru.

Rydym hefyd yn falch o arwain ar strategaeth sinema cynhwysol ar ran FAN BFI.
Gwefan, Twitter, Facebook 

Am Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI  

Gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol, mae'r Rhwydwaith Cynulleidfas Ffilm BFI (FAN), yn ganolog i nod y BFI i sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilm ar gael i bawb. Wedi'i sefydlu yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd sinema'r DU ehangach a mwy amrywiol ar gyfer ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol, mae FAN yn gydweithrediad unigryw, ledled y DU sy'n cynnwys wyth Canolfan a reolir gan sefydliadau ffilm a lleoliadau blaenllaw sydd wedi'u gosod yn strategol ledled y wlad. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiad talent gyda Gweothredwyr Talent Rhwydwaith BFI ym mhob un o'r Canolfannau Saesneg, gyda chenhadaeth i ddarganfod a chefnogi awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.  

Canolfannau Ffilm FAN BFI yw:  

  • Canolfan Ffilm y Midlands dan arweiniad Broadway, Nottingham yn gweithio mewn partneriaeth gyda Flatpack Birmingham, 
  • Canolfan Ffilm Gogledd Lloegr dan arweiniad Showroom Workstation, Sheffield a HOME Manceinion,  
  • Canolfan Ffilm De Ddwyrain Lloegr dan arweiniad Swyddfa Sinema Annibynnol,
  • Canolfan Ffilm De Orllewin Lloegr dan rweiniadt Watershed ym Mryste, 
  • Canolfan Ffilm yr Alban dan arweiniad Glasgow Film Theatre,  
  • Canolfan FFilm Gogledd Iwerddon dan arweiniad Queen’s University Belfast,  
  • Canolfan FFilm Cymru dan arweiniad Chapter yng Nghaerdydd, 
  • Canolfan Ffilm Llundain dan arweiniad Film London. 

FAN BFI Gwefan

Am BFI  

Rydym yn elusen diwylliannol, dosbarthydd y Loteri Cenedlaethol a chorff arweiniol y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth ydy: 

  • cefnogi creadigrwydd a mynd ati i chwilio am y genhedlaeth nesaf o storïwyr y DU 
  • tyfu a gofalu am Archif Genedlaethol y BFI, archif ffilm a theledu mwyaf y byd 
  • cynnig yr ystod ehangaf o ddiwylliant delweddau symudol y DU a rhyngwladol drwy ein rhaglenni a'n gwyliau - a gyflwynir ar-lein ac mewn lleoliad 
  • defnyddio ein gwybodaeth i addysgu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd 
  • gweithio gyda'r Llywodraeth a'r diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU 

Wedi'i sefydlu ym 1933, mae'r BFI yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Frenhinol.  Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr BFI yw Tim Richards.
Gwefan, Facebook, Twitter  

Am Chapter 

Chapter ydy un o ganolfannau celfyddydau mwyaf, a mwyaf deinamig Ewrop gyda sinemâu, theatrau, gofod arddangos, stiwdios a chaffi, bariau arobryn a dros 60 gofod gweithio diwylliannol a mwy. Mae gan Chapter enw da rhyngwladol am ragoriaeth, arloesi a chydweithredu. Mae’n cynnig rhaglen newidiol barhaus o ffilmiau ac arddangosfeydd gorau o Gymru ac o amgylch y byd.
Gwefan, Facebook, Twitter

Am Cymru Greadigol   

Mae Cymru Greadigol yn un o asiantaethau mewnol Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi datblygiad y diwydiant creadigol sy'n tyfu'n gyflym yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu a hyrwyddo twf ar draws y sectorau Sgrin, Digidol, Cerddoriaeth a Chyhoeddi, gan leoli Cymru fel un o'r lleoedd gorau yn y byd i fusnesau creadigol ffynnu. 
Gwefan, Twitter 

^
CY