Am Canolfan Ffilm Cymru:
Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn cefnogi cyrff sy’n dangos ffilmiau – o wyliau ffilmiau i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 315 o arddangoswyr ein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013 rydym wedi cefnogi dros 250 o brosiectau sinema a chyrraedd dros 465,000 o aelodau cynulleidfa.
Rydym yn rhan o rwydwaith o wyth canolfan ledled y DU sy’n cael eu hariannu gan y Sefydliad
Ffilm Prydeinig (BFI) sy’n ffurfio’r Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN), ac mae Chapter ydy ‘Corff Arweiniol Canolfannau Ffilm yng Nghymru.
Rydym hefyd yn falch o arwain ar strategaeth sinema cynhwysol ar ran FAN BFI.
Gwefan, Twitter, Facebook
Am Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI
Gyda chefnogaeth cyllid y Loteri Cenedlaethol, mae FAN BFI yn ganolog i nod y BFI o sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilm ar gael i bawb. Wedi’i sefydlu yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd sinema DU ehangach a mwy amrywiol i ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol, mae FAN yn gydweithrediad DU gyfan, unigryw sydd yn cynnwys wyth o ganolfannau a reolir gan gyrff a lleoliadau ffilm amlwg wedi’u lleoli’n strategol o amgylch y wlad. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiad talent gyda Swyddogion Talent Rhwydwaith BFI ym mhob un o’r canolfannau yn Lloegr, gyda chenhadaeth o ddarganfod a chefnogi awduron, cyfarwyddwyr a chyfarwyddwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.
Canolfannau Ffilm FAN BFI:
FAN BFI Gwefan
Am BFI
Rydym yn elusen diwylliannol, dosbarthydd y Loteri Cenedlaethol a chorff arweiniol y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth ydy:
- Cefnogi creadigrwydd a chwilio am y genhedlaeth nesaf o adroddwyr stori yn y DU
- Tyfu a gofalu am Archif Cenedlaethol BFI, yr archif ffilm a theledu mwyaf yn y byd
- Cynnig yr amrediad ehangaf o ddiwylliant delweddau symudol DU a rhyngwladol drwy ein rhaglenni a’n gwyliau – ar-lein ac mewn lleoliadau
- Defnyddio ei gwybodaeth i addygsu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd
- Gweithio gyda’r Llywodraeth a diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU
Wedi’i sefydlu ym 1933, mae BFI yn elusen gofrestredig wedi’i llywodraethu gan Siarter Brenhinol. Caiff Bwrdd Llywodraethwyr y BFI ei gadeirio gan Tim Richards.
Gwefan, Facebook, Twitter
Am Chapter
Chapter ydy un o ganolfannau celfyddydau mwyaf, a mwyaf deinamig Ewrop gyda sinemâu, theatrau, gofod arddangos, stiwdios a chaffi, bariau arobryn a dros 60 gofod gweithio diwylliannol a mwy. Mae gan Chapter enw da rhyngwladol am ragoriaeth, arloesi a chydweithredu. Mae’n cynnig rhaglen newidiol barhaus o ffilmiau ac arddangosfeydd gorau o Gymru ac o amgylch y byd.
Gwefan, Facebook, Twitter
Am Cymru Greadigol
Mae Cymru Greadigol yn un o asiantaethau mewnol Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi datblygiad y diwydiant creadigol sy'n tyfu'n gyflym yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu a hyrwyddo twf ar draws y sectorau Sgrin, Digidol, Cerddoriaeth a Chyhoeddi, gan leoli Cymru fel un o'r lleoedd gorau yn y byd i fusnesau creadigol ffynnu.
Gwefan, Twitter