Sinemau Cymru i ddatblygu Dangosiadau Ffilm i gynulleidfaoedd gyda cholled clyw

Delwedd © Galeri, WCDP, Chapter

Mawrth 2022

Mae Canolfan Ffilm Cymru (FHW) a Chyngor Cymru i Bobl Fyddar (WCDP) yn gweithio gydag wyth sinema yng Nghymru i sefydlu grwpiau gwirfoddol B/Byddar a fydd yn helpu i wella profiadau sinema i gynulleidfaoedd gyda cholled clyw, yn eu cymunedau lleol.

Mae’r lleoliadau yn cynnwys Theatr Torch (Aberdaugleddau), The Maxime (Coed Duon), Galeri (Caernarfon), Magic Lantern (Tywyn) Neuadd Dwyfor (Pwllheli), Chapter (Caerdydd), a Theatr Gwaun (Abergwaun). Ar ôl cymryd rhan mewn hyfforddiant gyda WCDP, i edrych ar sut i ateb anghenion cynulleidfaoedd sinema gyda cholled clyw, mae’r cyrff yn cyflwyno gweithgareddau newydd cyffrous.

Gyda chymorth ariannol gan FHW, fe fydd pob lleoliad yn gweithio gyda WCDP i gysylltu gyda chynulleidfaoedd B/byddar i ffurfio grwpiau gwirfoddol sydd yn gallu rhannu eu profiadau personol o fynd i’r sinema er mwyn siapio gweithgareddau yn y dyfodol.

Dywedodd Louise Sweeney o Gyngor Cymru i Bobl Fyddar:

Mae pobl B/byddar. ByddarDall a phobl sydd yn drwm eu clyw yn wynebu problemau hygyrchedd ac maen nhw’n aml yn amharod i fynd i sinemau oherwydd hyn. Fe fydd gwybod y bydd eu profiadau yn gwella yn y sinemau sydd yn rhan or rhaglen yma, gyda staff yn derbyn hyfforddianr ymwybyddiaeth B/byddar a Bydda/Dall, hyfforddiant iaith arwyddion a lleoliadau yn dod yn fwy Byddar gyfeillgar yn rhywbeth i’w groesawu ac yn arwydd caonogol i gymunedau B/Byddar a Thrwm eu Clyw.

Yn Galeri, Caernafon, yn ogystal â gweithio gyda Chymdeithas Byddar Gogledd Cymru a Chlwb Byddar Gwynedd, fe fydd fyfyrwraig fyddar 16 oed yn gweithio gyda’r lleoliad i greu rhagor o ddeunyddiau marchnata BSL hygyrch.

Dywedodd Galeri Caernarfon:

Rydym yn ymdrechu i wneud Galeri yn ganolfan amrywiol a chroesawgar wrth raglennu ffilmiau ag isdeitlau, a buddsoddi mewn hyfforddiant Makaton a chymwysterau BSL ar gyfer ein staff. Rydym hefyd yn hapus i fod yn gweithio gyda pherson ifanc Byddar lleol i greu cynnwys fideo ar gyfer ein canolfan, nid yn unig er mwyn gwneud yn siwr bod Galeri yn ganolfan hygyrch i bob cynulleidfa, ond i ysbrydoli ac ysgogi pobl eraill i wneud yr un peth.

Yn Nhywyn, mae’r Magic Lantern yn gwahodd pobl FyddarDall lleol a’u teuluoedd i’r sinema ar gyfer diwrnod agored i archwilio’r gofod a chyfarfod y staff a fydd hefyd yn cymryd rhan mewn hyfforddiant BSL.

Mae Annie Grundy o'r Magic Lantern yn esbonio:

Mae ein tîm yn falch iawn o’r croeso rydyn ni’n ei roi i’n cynulleidfa, yn lleol ac yn ymweld, felly mae gallu cyfleu’r croeso hwnnw i bob ymwelydd yn wirioneddol bwysig i ni. Rydyn ni'n gwybod bod gennym ni lawer mwy i'w ddysgu. Rydyn ni eisiau parhau â hyfforddiant BSL ac mae angen i ni archwilio mwy o ran technolegau i’n helpu ni i fod yn fwy hygyrch, felly gam wrth gam… byddwn ni’n dal ati. Wedi’r cyfan, mae adeiladu ac ehangu cynulleidfaoedd bob amser yn mynd i fod yn allweddol i’n goroesiad hirdymor.

Sefydlwyd y prosiect gan Ganolfan Ffilm Cymru o ganlyniad i adborth gan sinemau, pobl greadigol B/byddar as chynulleidfaoedd eu hunain. Drwy’r prosiect Sinema Cynhwysol y mae FHW yn ei arwain ar ran rhwydwaith FAN BFI, fe fydd Cymdeithas Dosbarthwyr Ffilmiau (FDA) yn cynnig detholiad o ffilmiau allweddol gyda fformatau addas, y bydd yr wyth lleoliad yn gallu eu derbyn.

Dywedodd Hana Lewis, Rheolwraig Strategol Canolfan Ffilm Cymru: 

Mae sinemau sydd yn cynnig dangosiadau film i gymunedau B/byddar yn gallu wynebu rhwystrau fel cyllid i ddiweddaru offer, diffyg ffilmiau gyda fformatau hygyrch neu ddigon o rybudd i farchnata’r ffilm.. Nod ein partneriaeth gyda FDA a WCDP ydy cefnogi sinemau, tra hefyd yn sicrhau bod cynulleidfaoedd B/byddar yn gallu gweld y ffilmiau annibynnol diweddaraf a chynnig adborth uniongyrchol am eu profiadau.

Mae’r prosiect yma yn digwydd diolch i gyllid gan y Loteri Cenedlaethol gan BFI, drwy ei Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN),. Mae Canolfan Ffilm Cymru yn datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol Prydeinig a rhyngwladol drwy gydol y flwyddyn. Mae cyllid yng Nghymru yn cael ei weinyddu gan FHW drwy Chapter fel y Corff Atrweinio Canolfannau.

Mae dros £30m yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU gan y Loteri Genedlaethol.

 

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma

 

-DIWEDD-

  • Fe fydd Theatr Torch in Milford Haven will build on their existing relationships in the county with community support groups: Sign and Share and PAVS. They plan to offer front of house volunteers training to support accessibility for audiences and work with WCDP to seek out further D/deaf communities. They run two subtitled screenings each week, coming up next is It Snows in Benidorm on Monday 10th October and Don’t Worry Darling on Thursday 13th October.
  • Mae'r Maxime yn y Coed Duon currently screen subtitled performances twice a week, each Sunday and Wednesday. They want to build on the success of their supportive environment screenings by reaching out to local community groups. Their next subtitled screening will be Bodies Bodies Bodies on Wednesday 14th September.
  • Mae Galeri, Caernarfon yn rhedeg 3 ffilm yr wythnos ar nosweithiau Llun, prynhawn Iau a dangosiadau ymlacedig gydag is-deitlau ar foreau Sadwrn i deuluoedd. Maen nhw’n gweithio gyda myfyrwraig ifanc 16 oed sydd yn Fyddar i greu fideos marchnata BSL yn cynnwys negeseuon croeso a chyflwyno i’w defnyddio yn yr adeilad ac ar-lein. Maen nhw hefyd yn gobeithio gweithio gyda Chymdeithas Fyddar Gogledd Cymru a Clwb Byddar Gwynedd i gyfarfod grwpiau yn bersonol lle mae’n bosibl er mwyn dod i adnabod eu cynulledfaoedd yn iawn. Fydd dangosiadau yn cynnwys Moonage Daydream on Thursday 29th September.
  • Fe fydd y Magic Lantern yn Nhywyn will run at least two screenings per month with additional films for families during the summer holidays. Special events included an open day on May 7edyn gwahodd cynulleidfaoedd byddardall a’u teuluoedd i archwilio’r sinema a chyfarfpd y staff a fydd hefyd yn cymryd rhan mewn hyfforddiant BSL O hyn maen nhw’n bwriadu ffurfio grŵp o wirfoddolwyr i’w helpu i ffurfio dau ddigwyddiad arbennig arall a diweddaru eu gwefan. Eu dangosiad nesaf ydy It Snows in Benidorm on Monday 26th September.
  • Neuadd Dwyfor, Pwllheli – Yn dilyn gwairh adnewyddu sylweddol i’r adeilad yn cynnwys toiled hygyrch newydd ar y llawr daear, seddi yn y balconi ac awditoriwm a bar coffi yn y cyntedd, ailagorodd y sinema ar 10ed Mawrth. Fe fydd manylion ar wefan y sinema am y dangosiadau ffilm i gynulleidfaoedd B/byddar yn y dyfodol.
  • Mae Chapter yng Nghaerdydd are working with Cardiff Deaf Club to form a committee of D/deaf people for a new programme of monthly film screenings in 2022. The films will be followed by an interpreted discussion in the Cinema Foyer. They have also been working with Deaf artist, Jonny Cotsen on ‘Hear We Are’ a new two-year R&D project that will address access to creative production for Deaf artists and communities. Upcoming screenings include Crimes of the Future on Sunday 11th and Tuesday 13th September.
  • Fe fydd Theatr Gwaun yn Abergwaun yn cynnal dangosiad misol, yn gweithio i sefydlu grŵp dan arweiniad pobl Fyddar/trwm eu clyw lleol sydd â diddordeb mewn helpu i ddatblygu sinema yn y Theatr. Fe fyddan nhw hefyd yn archwilio partneriaethau newyddd gyda chyrff fel Sign and Share yn Sir Benfro. Edrychwch ar wefan y sinema am fanylion ar y dangosiadau ffilm sydd i ddod i gynulleidfaoedd B/byddar.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda:

Silvia Sheehan, Swyddog Cyfathrebu / silvia@filmhubwales.org
Lisa Nesbitt, Swyddog Datblygu / 02920 311 067 lisa@filmhubwales.org
Hana Lewis, Rheolwraig Strategol, ar 02920 353 740 / hana@filmhubwales.org

Am Canolfan Ffilm Cymru:
Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn cefnogi cyrff sy’n dangos ffilmiau – o wyliau ffilmiau i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 315 o arddangoswyr ein nod ydy cyflwyno’r ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i gynulleidfaoedd ar draws Cymru a’r DU. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013 rydym wedi cefnogi dros 250 o brosiectau sinema cyffrous gan gyrraedd dros 480,000 o aelodau cynulleidfa.

Rydym yn rhan o rwydwaith DU gyfan o wyth canolfan sydd yn ffurfio’r Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN). Mae Chapter wedi’i benodi fel y Corff Arwain Canolfan Ffilm (FHLO) yng Nghymru.

Rydym hefyd yn falch o arwain ar strategaeth sinema cynhwysol ar ran FAN BFI strategaeth sinema cynhwysol ar ran FAN BFI.

Gwefan, Twitter, Facebook

Am Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI
Gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol, mae'r Rhwydwaith Cynulleidfas Ffilm BFI (FAN), yn ganolog i nod y BFI i sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilm ar gael i bawb. Wedi'i sefydlu yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd sinema'r DU ehangach a mwy amrywiol ar gyfer ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol, mae FAN yn gydweithrediad unigryw, ledled y DU sy'n cynnwys wyth Canolfan a reolir gan sefydliadau ffilm a lleoliadau blaenllaw sydd wedi'u gosod yn strategol ledled y wlad. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiad talent gyda Gweothredwyr Talent Rhwydwaith BFI ym mhob un o'r Canolfannau Saesneg, gyda chenhadaeth i ddarganfod a chefnogi awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Canolfannau Ffilm FAN BFI yw:

  • Arweinir Canolfan Ffilm Canolbarth Lloegr gan Broadway, Nottingham yn gweithio mewn partneriaeth â'r Flatpack o Birmingham
  • Arweinir Canolfan Ffilm y Gogledd ar y cyd gan Showroom Workstation, Sheffield a HOME Manchester
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Ddwyrain gan yr Independent Cinema Office
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Orllewin gan Watershed ym Mryste
  • Arweinir Canolfan Ffilm yr Alban gan Glasgow Film Theatre
  • Arweinir Canolfan Ffilm Gogledd Iwerddon gan Brifysgol Queen's, Belfast
  • Arweinir Canolfan Ffilm Cymru gan Chapter yng Nghaerdydd
  • Arweinir Canolfan Ffilm Llundain gan Film London

BFI FAN website

Am BFI
Rydym yn elusen diwylliannol, dosbarthydd y Loteri Cenedlaethol a chorff arweiniol y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth ydy:

  • cefnogi creadigrwydd a mynd ati i chwilio am y genhedlaeth nesaf o storïwyr y DU
  • tyfu a gofalu am Archif Genedlaethol y BFI, archif ffilm a theledu mwyaf y byd
  • cynnig yr ystod ehangaf o ddiwylliant delweddau symudol y DU a rhyngwladol drwy ein rhaglenni a'n gwyliau - a gyflwynir ar-lein ac mewn lleoliad
  • defnyddio ein gwybodaeth i addysgu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd
  • gweithio gyda'r Llywodraeth a'r diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU

Wedi'i sefydlu ym 1933, mae'r BFI yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Frenhinol.
Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr BFI yw Tim Richards.

Am Chapter
Chapter ydy un o ganolfannau celfyddydau mwyaf, a mwyaf deinamig Ewrop gyda sinemau, theatrau, gofod arddangos, stiwdios a chaffi, bariau arobryn a dros 60 gofod gweithio diwylliannol a mwy. Mae gan Chapter enw da rhyngwladol am ragoriaeth, arloesi a chydweithredu. Mae’n cynnig rhaglen newidiol barhaus o ffilmiau ac arddangosfeydd gorau o Gymru ac o amgylch y byd.

GwefanFacebookTwitter

Cyngor Cymru i Bobl Fyddar (WCDP)
WCDP ydy’r corff elusennol Cymreig i bobl sydd yn Fyddar, wedi’u Byddaru, ByddarDall a thrwm eu clyw a sefydlwyd ym 1950. Rydym yn gymdeithas ambarel o gyrff. Credwn y dylid cael mynediad cyfartal i bawb ac rydym yn ceisio gwella bywydau’r gymuned B/.byddar yn barhaus. Rydym yn darparu cefnogaeth, cyngor, cyfathrebu a gwasanaethau sydd yn helpu i’w galluogi i fyw bywydau annibynnol a llawn. Rydym felly yn cynnal gweithgareddau sydd yn cyfrannu at ddatblygu gwasanaethau ym meysydd addysg, cyflogaeth, ymgyrchu, lleddfu ynysigrwydd cymdeithasol a phroblemau iechyd cysylltiedig. Rydym yn gweithredu rhestr o weithgareddau craidd fel a bennir gan yr aelodau, yn cynnwys datblygu a chefnogi grwpiau gwirfoddol, gwybodaeth a chyngor, mentrau hyfforddi yn berthynol i glywed (BSL, ymwybyddiaeth Byddar a chyrsiau darllen gwefusau) a chynhyrchu BSL Media.

Gwefan, Facebook, Twitter

Am Sinema Cynhwysol
Prosiect Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI DU gyfan ydy Sinema Cynhwysol i gefnogi arddangoswyr i groesawu pawb i gymryd rhan mewn sinema, drwy oresgyn rhwystrau diwylliannol, systematig neu gorfforol.

Dan arweiniad Canolfan Ffilm Cymru ar ran BFI FAN, mae’r prosiect yn cefnogi nodau’r rhwydwaith o gyflwyno ffilmiau Prydeinig, rhyngwladol ac annibynnol i gynulleidfaoedd. Gan ganolbwytnio ar gynulleidfoaedd ifanc (16-30) a sector arddangos medrus, hyderus, mae mynediad wrth galon strategaeth FAN. Mewn partneriaeth gyda ein rhwydwaith creadigol o arddangoswyr, rydym yn dathlu cynrychioliadua ystyrlon o amrywiaeth y tu ôl i’r camera, ar y sgrin ac yn ein cynulleidfaoedd gan weithio tiag atg Safonau Amrywiaeth BFI

Gwefan, Twitter

^
CY