- Fe fydd Theatr Torch yn Aberdaugleddau yn adeiladu ar eu perthnasau cyfredol yn y sir gyda grwpiau cefnogi cymunedol Sign and Share a PAVS. Maen nhw’n bwriadu cynnig gwirfoddolwyr blaen tŷ i gefnogi hygyrchedd i gynulleidfaoedd a gweithio gyda WCDP i chwilio am gymunedau B/byddar pellach. Maen nhw’n cynnal dau ddangosiad gydag is-deitlau bob wythnos a’r nesaf ydy Cyrano ar ddydd Mercher 30 Mawrth a The Phantom of the Open ar dydd Iau 7 Ebrill.
- Mae'r Maxime yn y Coed Duon yn y Coed Duon ar hyn o bryd yn dangos perfformiadau gydag is-deitlau ddwywaith yr wythnos, bob dydd Mercher a dydd Sul. Maen nhw eisiau adeiladu ar lwyddiant eu dangosiadau amgylchedd gefnogol drwy ymestyn allan i grwpiau cymunedol lleol. Fydd dangosiadau yn cynnwys The Phantom of the Open ar ddydd Mercher 30 Mawrth.
- Mae Galeri, Caernarfon yn rhedeg 3 ffilm yr wythnos ar nosweithiau Llun, prynhawn Iau a dangosiadau ymlacedig gydag is-deitlau ar foreau Sadwrn i deuluoedd. Maen nhw’n gweithio gyda myfyrwraig ifanc 16 oed sydd yn Fyddar i greu fideos marchnata BSL yn cynnwys negeseuon croeso a chyflwyno i’w defnyddio yn yr adeilad ac ar-lein. Maen nhw hefyd yn gobeithio gweithio gyda Chymdeithas Fyddar Gogledd Cymru a Clwb Byddar Gwynedd i gyfarfod grwpiau yn bersonol lle mae’n bosibl er mwyn dod i adnabod eu cynulledfaoedd yn iawn. Fydd dangosiadau yn cynnwys The Phantom of the Open sydd yn rhedeg o 28fed - 30fed Mawrth.
- Fe fydd y Magic Lantern yn Nhywyn yn cynnal o leiaf dau ddangosiad y mis gyda ffilmiau ychwanegol i deuluoedd yn ystod gwyliau’r haf. Fe fydd digwyddiadau arbennig yn cynnwys diwrnod agored ar Mai 7fedyn gwahodd cynulleidfaoedd byddardall a’u teuluoedd i archwilio’r sinema a chyfarfpd y staff a fydd hefyd yn cymryd rhan mewn hyfforddiant BSL O hyn maen nhw’n bwriadu ffurfio grŵp o wirfoddolwyr i’w helpu i ffurfio dau ddigwyddiad arbennig arall a diweddaru eu gwefan. Eu dangosiad nesaf ydy The Duke ar 28fed a 31af Mawrth.
- Neuadd Dwyfor, Pwllheli – Yn dilyn gwairh adnewyddu sylweddol i’r adeilad yn cynnwys toiled hygyrch newydd ar y llawr daear, seddi yn y balconi ac awditoriwm a bar coffi yn y cyntedd, ailagorodd y sinema ar 10fed Mawrth. Fe fydd manylion ar wefan y sinema am y dangosiadau ffilm i gynulleidfaoedd B/byddar yn y dyfodol.
- Mae Chapter yng Nghaerdydd yng Nghaerdydd yn gweithio gyda Chlwb Byddar Caerdydd i ffurfio pwyllgor o bobl Fyddar ar gyfer rhaglen newydd o ddangosiadau ffilm lleiafrifol yn 2022. Cynhelir trafodaeth wedi’i dehongli yn dilyn y ffilm yng Ngyntedd y Sinema. Maen nhw hefyd yn gweithio gyda’r artist byddar Jonny Cotsen ar ‘Hear We Are’ prosiect R&D dwy flynedd newyddd a fydd yn delio gyda mynediad i gynhyrchiad creadigol o artistiaid a chymunedau Byddar Fydd dangosiadau yn cynnwys The Phantom of the Open sy’n rhedeg tan dydd Iau 31 Mawrth.
- Fe fydd Theatr Gwaun yn Abergwaun yn cynnal dangosiad misol, yn gweithio i sefydlu grŵp dan arweiniad pobl Fyddar/trwm eu clyw lleol sydd â diddordeb mewn helpu i ddatblygu sinema yn y Theatr. Fe fyddan nhw hefyd yn archwilio partneriaethau newyddd gyda chyrff fel Sign and Share yn Sir Benfro. Edrychwch ar wefan y sinema am fanylion ar y dangosiadau ffilm sydd i ddod i gynulleidfaoedd B/byddar.
This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.